Manylion y penderfyniad
Disability and Discrimination
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To receive an update as requested the January meeting.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol yr adroddiad oedd yn rhoi trosolwg o wahaniaethu ar sail anabledd. Amlinellodd y gweithgaredd ar y gweill i hybu cydraddoldeb ar gyfer pobl anabl yngl?n â’r materion canlynol a godwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor:-
· Sicrwydd nad oes unrhyw wahaniaethu yn digwydd ar gyfer elfennau tai, swyddi ac addysg mewn bywyd, ar gyfer anableddau gweladwy ac anweladwy.
· Cyndyn i helpu pobl anabl h?n;
· Cludiant;
· Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl.
Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai’r sylwadau a wnaed gan yr Ymgynghorydd Polisi Strategol yngl?n â chau meddygfa Queensferry yn cael eu cynnwys yn y llythyr at Betsi Cadwaladr.
Dywedodd y Cynghorydd Mackie bod yr adroddiad hwn a’r ddyletswydd economaidd cymdeithasol yn ei gwneud yn glir, wrth wneud penderfyniadau strategol, mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus ystyried yr effaith sydd ganddynt ar bobl gyda nodweddion a ddiogelir y teimlodd y byddent yn ei wneud pryn bynnag.
Ychwanegodd y Cynghorydd Wisinger gydag anabledd mewn golwg pan oedd datblygwyr yn adeiladu datblygiadau mawr newydd, yna dylent gynnwys Meddygfeydd newydd yn y cam cynllunio ar gyfer y bobl ychwanegol gan fod llawer o feddygfeydd wedi dyddio ac yn llawn. Cytunodd y Cynghorydd Mackie a dywedodd ei fod wedi’i godi yn y cyfarfod CIC a fynychodd a dywedodd wrth y Pwyllgor y byddai yna ymgynghoriad gyda holl gleifion iddynt gyflwyno eu sylwadau.
Rhannodd y Cynghorydd Marion Bateman gyda’r Pwyllgor pan fydd datblygiad newydd yn cael ei adeiladu yn Sychdyn, gofynnwyd i bedwar t? fforddiadwy fod yn fyngalos oherwydd y diffyg tai newydd ar gyfer pobl anabl. Roedd y rhain yn rhodd gan y Datblygwr. Hefyd, awgrymodd pan fydd yn bosibl, dylai’r Pwyllgor gerdded o amgylch canolfannau tref i weld y problemau bob dydd mae person anabl yn gorfod ei wynebu. Cytunodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod hyn yn syniad ardderchog.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd Partneriaethau a’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol wrth y Pwyllgor eu bod wedi bod yn gwthio i hyn gael ei gynnwys mewn polisi cynllunio ar gyfer rhaglenni adfywio trefi yn y dyfodol i gael cyfleusterau ar gyfer pawb gydag anableddau.
Dywedodd y Cynghorydd Healy fod yna ganran o bobl nad ydynt yn datgan eu bod yn anabl oherwydd nad oedd y tâl yn gyfartal. Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol fod AD yn gweithio gyda gweithwyr i’w hannog i lenwi eu data monitro cydraddoldeb ar iTrent a fyddai’n eu galluogi i gwblhau archwiliadau Tâl Cyfartal. Ychwanegodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod y Datblygiad Project Search yn rhan fechan ond pwysig o hyn i fynd i’r afael â mynediad i waith ar gyfer pobl anabl ac roeddent yn edrych am leoliadau o fewn y Cyngor ar gyfer Myfyrwyr Project Search ar hyn o bryd.
Cynigiwyd argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Lowe ac eiliwyd gan y Cynghorydd Davies.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y camau a gymerir i leihau gwahaniaeth a hybu Cydraddoldeb i bobl anabl yn cael ei nodi; a
(b) Bod y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020/21 cyn cymeradwyo gan y Cabinet.
Awdur yr adroddiad: Fiona Mocko
Dyddiad cyhoeddi: 04/05/2022
Dyddiad y penderfyniad: 01/07/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 01/07/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: