Manylion y penderfyniad
Social Services Director's Annual Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the draft report prior to consideration at Cabinet.
Penderfyniadau:
Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) ei fod ef a’r Aelod Cabinet wedi llunio’r Adroddiad Blynyddol oedd yn ofyniad statudol i adolygu’r gwasanaethau yn 2020/21 a’r flwyddyn i ddod. Dywedodd gan mai hon oedd blwyddyn olaf y Prif Weithredwr, roedd yn addas iddo ysgrifennu’r cyflwyniad gan adael etifeddiaeth wych o gefnogaeth i’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Aeth drwy brif faterion yr adroddiad a chanmol Double Click - Menter Gymdeithasol Iechyd Meddwl am y gwaith a wnaed ganddynt i lunio’r adroddiad a chytunodd y Pwyllgor gyda hynny. Ychwanegodd y Rheolwr Rhaglen ADM a TSS fod yr adroddiad hwn wedi bod drwy’r broses ddylunio gyda Double Click a chroesawyd unrhyw sylwadau gan y Pwyllgor cyn iddo gael ei gwblhau.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd Partneriaethau ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol bod cael cyflawni gymaint mewn cyfnod mor anodd yn amlwg pa mor wych oedd y gwasanaeth a bod yr Adroddiad Blynyddol hwn yn sefyll allan fel un o’r adroddiadau gorau yn sgil yr amgylchiadau anodd.
Gofynnodd y Cynghorydd Wisinger am eglurhad yngl?n â Meddygfa Queensferry yn symud i Gei Connah a gofynnodd pa effaith fyddai’n ei gael ar breswylwyr h?n.
Dywedodd y Cynghorydd Mackie fod hyn wedi’i atgyfeirio i’r Cyngor Iechyd Cymuned a bod symud i Gei Connah yn opsiwn ond roedd yna opsiynau eraill o fewn y cynnig oedd yn fwy lleol. Dywedodd nad oedd yn ffafrio Cei Connah gan y byddai cleifion yn gorfod mynd heibio meddygfa arall er mwyn cyrraedd Canolfan Iechyd Cei Connah. Roedd yn credu bod y mater yn mynd i gael ei godi gyda Chyngor Cymuned Queensferry. Byddai’n hysbysu’r Pwyllgor am unrhyw ddiweddariadau cynnydd a dderbyniwyd drwy’r CIC.
Dywedodd y Cynghorydd Davies am broblemau parhaus gyda Chanolfan Feddygol Cei Connah ac nad oedd gan Feddygfa Sant Marc unrhyw feddygon yn ystod un diwrnod a bod pob apwyntiad wedi’i ganslo.
Roedd cysylltiadau cludiant yn bryder i’r Cynghorydd Cunningham ac roedd y Cynghorydd Gladys Healey yn bryderus am brinder MTon a pham nad oedd yn bosibl eu recriwtio.
Cytunodd y Pwyllgor gyda’r Cadeirydd y dylai llythyr gael ei ysgrifennu i’r Bwrdd Iechyd gyda’r holl faterion a godwyd yn y cyfarfod. Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y dylai’r llythyr gael ei anfon at Gyfarwyddwr Ardal y Bwrdd Iechyd ((Rob Smith) a’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gofal Sylfaenol (Gareth Bowdler) a’i fod yn hapus i gynorthwyo’r Hwylusydd i’w ysgrifennu.
Cynigiodd y Cynghorydd Gladys Healey yr argymhelliad yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Mike Lowe.
PENDERFYNWYD:
Bod yr adroddiad terfynol, sy’n cynnwys prif ddatblygiadau’r flwyddyn ddiwethaf a blaenoriaethau’r flwyddyn nesaf yn cael ei gymeradwyo.
Awdur yr adroddiad: Neil Ayling
Dyddiad cyhoeddi: 04/05/2022
Dyddiad y penderfyniad: 01/07/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 01/07/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: