Manylion y penderfyniad
Care Inspectorate Wales (CIW) - Assurance Check
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To note the content of the Annual Performance letter, Care Inspectorate Wales (CIW’s) assessment of the authority’s performance during the year 2020/21 and CIW's Performance Review Plan for 2020/21.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) ganfyddiadau’r adroddiad ar Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a oedd yn reoleiddiwr annibynnol o Wasanaethau Cymdeithasol Gofal a Gofal Plant yng Nghymru. Roedd y Gwiriadau Sicrwydd wedi eu cynnal yn rhithiol rhwng 19 a 23 Ebrill 2021. Roedd prif drywyddau ymchwilio AGC yn canolbwyntio ar bedair egwyddor Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014, sef:
· Pobl - Llais a Rheolaeth
· Atal
· Lles
· Partneriaeth ac Integreiddio
Ychwanegodd yr Uwch Reolwr - Plant a Gweithlu ei bod yn her cael wyth Arolygwr yn dod i mewn yn ystod Pandemig a’i fod yn gobeithio y gallai’r Pwyllgor weld o’r Cynllun Gweithredu eu bod wedi gwrando ar beth yr oedd yr arolygwyr wedi’i ddweud a gweithredu ar eu sylwadau i wella, dysgu ac adlewyrchu ar beth oedd angen ei wneud. Dywedodd fod y camau a nodwyd i gyd yn wyrdd ac eithrio Recriwtio Gweithlu a oedd yn oren oherwydd cyflenwad annigonol o Weithwyr Cymdeithasol cymwys profiadol o fewn Gwasanaethau Plant.
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd gan y Cadeirydd yn ymwneud â mater diogelu, dywedodd yr Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu bod hyn yn ymwneud ag un achos a sicrhaodd y Pwyllgor fod plant yn cael eu cadw’n ddiogel yn ystod y pandemig.
Ychwanegodd eu bod wedi edrych ar eu systemau a symud capasiti staff fel eu bod yn gallu cadw uwchben yr atgyfeiriadau a gwneud penderfyniadau byw a chofnodi sefyllfaoedd. Yn ogystal, roedd hyfforddwr a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru wedi’i gadarnhau ac roeddent yn cydymffurfio â’u prosesau ond yn gwneud awgrymiadau mewn rhai ardaloedd a weithredwyd. Hefyd, eglurodd nad oedd nawr yn bosibl aildrefnu cyfarfod os nad oedd asiant yn gallu mynychu a bod yn rhaid iddynt anfon adroddiad. Fodd bynnag, os oedd yn bosibl osgoi hyn a bod yn gorfod ei ohirio yna roedd angen ei gymeradwyo gan Reolwr Gwasanaeth.
Roedd y Cadeirydd ac Aelodau eraill yn awgrymu y dylai’r Pwyllgor anfon llythyr at holl staff yn eu llongyfarch am eu gwaith. Soniodd y Cynghorydd Marion Bateman am y gwaith anhygoel yr oedd Swyddogion Chwarae ac Aura Sports wedi ei wneud ynghyd â Theatr Clwyd ac awgrymodd y dylid eu gwahodd i un o gyfarfodydd eu Pwyllgor. Roedd y Cadeirydd, gyda chytundeb y Pwyllgor, yn awgrymu y dylid anfon llythyr diolch at Theatr Clwyd.
Diolchodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) i’r Pwyllgor am eu sylwadau y byddai’n eu trosglwyddo i staff a chroesawodd y cynnig i Theatr Clwyd fynychu cyfarfod yn y dyfodol.
Gofynnodd y Cynghorydd Cunningham a oedd Coed Duon yn parhau i gael ei ddefnyddio fel cyfleuster cam-i-lawr. Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) nad oedd yn cael ei ddefnyddio mwyach gan fod yna lai o alw ar ôl blwyddyn ond roedd yn gam cadarnhaol i’w ddefnyddio yn fuan yn y pandemig.
Roedd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yn diolch i’r Pwyllgor am eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth. Ychwanegodd y Cynghorydd Cunningham bod y cydbwysedd gwleidyddol ar y Pwyllgor yn eithriadol ac eisiau gwneud beth sydd orau i Sir y Fflint.
Cynigiwyd argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Gladys Healey ac eiliwyd gan y Cynghorydd Cunningham.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr adborth
cadarnhaol a dderbyniwyd gan AGC yn dilyn Gwiriad Sicrwydd yn
Ebrill 2021 yn cael ei nodi; a
(b) Bod yr ymateb i feysydd gwella a nodwyd gan AGC a chynllun gweithredu’r Gwasanaeth i fynd i’r afael â’r rhain yn cael ei nodi.
Awdur yr adroddiad: Neil Ayling
Dyddiad cyhoeddi: 17/05/2022
Dyddiad y penderfyniad: 09/09/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 09/09/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: