Manylion y penderfyniad
Welfare Reform Update
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes
Diben:
To receive an update on the impact of Welfare Reform on Flintshire Residents.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd bod y Cyngor, ar y cyd a’i bartneriaid, wedi bod yn gwneud gwaith i rwystro effeithiau llawn y diwygiadau lles rhag disgyn ar breswylwyr agored i niwed Sir y Fflint. Roedd yr adroddiad y ystyried sut y byddai’r Cyngor yn parhau i reoli effeithiau’r diwygiadau a gyflwynwyd dan ddarpariaethau Deddf Diwygio Lles a Gwaith 2016.
Cafwyd diweddariad ar yr effeithiau y mae diwygiadau lles yn parhau i’w cael ar drigolion Sir y Fflint a’r gwaith sy’n digwydd i’w lliniaru ac i gefnogi’r aelwydydd perthnasol.
Mae Covid-19 wedi effeithio’n arwyddocaol ar aelwydydd agored i niwed ac roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am amrywiaeth o fesurau a ddatblygwyd i helpu'r rhai hynny sydd wedi'u heffeithio gan y pandemig a'r gefnogaeth a roddwyd i drigolion er mwyn ceisio lliniaru'r effeithiau negyddol.
Tynnodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) sylw’r Aelodau at y manylion yn yr adroddiad yngl?n â: dileu’r cymhorthdal ystafell sbâr; y cap ar fudd-dal; credyd cynhwysol a’r effeithiau yr oedd y rhain wedi’u cael yn Sir y Fflint. Rhoddodd fanylion hefyd ar ddiweithdra yng Nghymru ac yn Sir y Fflint; y gwasanaeth help i hawlio; Credyd Cynhwysol – ‘ymfudo a reolir’; y Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor; y cynllun cadw swyddi; taliad grant cymorth yn sgil cyfarwyddyd y gwasanaeth profi ac olrhain GIG i ynysu; taliadau bonws gofalwyr; gwasanaethau cymorth a thaliadau tai yn ôl disgresiwn.
Ychwanegodd nad yw Cymorth Cyllidebu Personol bellach yn cael ei ariannu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Fodd bynnag, byddai cymorth lles a chyllidebu yn parhau i gael eu darparu gan y Tîm Diwygio Lles oherwydd yr adnoddau ychwanegol a gafwyd ar gyfer y ddwy flynedd nesaf ac mae pwysau ariannol pellach wedi'i amlygu ar gyfer blwyddyn tri.
Diolchodd yr aelodau i’r tîm am yr holl help a chefnogaeth a roddwyd i breswylwyr i rwystro gwaeth sefyllfaoedd.
PENDERFYNWYD:
Cefnogi’r adroddiad gan gynnwys y gwaith parhaus i reoli'r effeithiau y mae'r Diwygiadau Lles yn eu cael ac y byddant yn parhau i’w cael ar yr aelwydydd mwyaf diamddiffyn Sir y Fflint.
Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine
Dyddiad cyhoeddi: 21/12/2021
Dyddiad y penderfyniad: 13/07/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/07/2021 - Cabinet
Yn effeithiol o: 22/07/2021
Accompanying Documents: