Manylion y penderfyniad
Care Inspectorate Wales – Assurance Visit Outcomes
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes
Diben:
To note the outcome of the Care Inspectorate Wales (CIW) Assurance Visit and to approve the response and action plan.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad gan egluro mai Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yw rheolydd annibynnol Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yng Nghymru. Maent yn rheoleiddio gofal cymdeithasol a gwasanaethau’r blynyddoedd cynnar gan ddefnyddio’r rheoliadau a’r safonau gofynnol cenedlaethol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru drwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Roedd yr adroddiad yn cyflwyno casgliadau’r Gwiriad Sicrwydd o Wasanaethau Gofal Cymdeithasol Sir y Fflint yr oedd AGC wedi’i gynnal yn ddiweddar ac yn nodi'r ymateb gweithredol a'r cynllun gweithredu ar gyfer y meysydd i’w gwella a ddynodwyd yn eu llythyr.
Cynhaliwyd y Gwiriad
Sicrwydd rhwng 19 a 23 Ebrill gydag wyth Arolygwr yn cyfarfod
unigolion, teuluoedd, ymarferwyr, rheolwyr ac asiantaethau partner
, cyfarfodydd gydag unigolion, teuluoedd, ymarferwyr, rheolwyr ac
asiantaethau partner.
Roedd prif drywyddon ymchwilio AGC yn canolbwyntio ar bedair
egwyddor Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014,
sef:
· Pobl – Llais a Rheolaeth
· Atal
· Lles
· Partneriaeth ac Integreiddio
Roedd yr adroddiad yn adlewyrchu adborth AGC bod llawer o gryfderau yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint ac roedd yr arolygwyr ‘yn dawel eu meddwl’ bod Sir y Fflint yn diwallu ei swyddogaethau statudol i gadw pobl yn ddiogel ac i hyrwyddo eu lles yn ystod y pandemig, a bod y Cyngor yn llwyddo i atal plant rhag gorfod mynd i mewn i ofal, a bod plant a phobl ifanc yn mynd yn ôl at eu teuluoedd os oedd hynny'n briodol.
Roedd y llythyr hefyd yn dynodi meysydd i’w gwella yn cynnwys rhoi rhagor o ystyriaeth i werth eiriolwyr annibynnol i gefnogi plant a phobl ifanc. Nodwyd fel maes i’w wella hefyd yr angen i ofalu bod digon o dystiolaeth o ddadansoddi angen a gwneud penderfyniadau yng nghofnodion gofal y Gwasanaethau Plant.
Canmolodd yr Aelodau’r Adroddiad Blynyddol a diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith.
Gofynnodd y Cynghorydd Bithell sut y cynigir gwasanaeth eiriolaeth annibynnol i bobl ifanc. Eglurodd yr Uwch Reolwr – Plant a’r Gweithlu bod ar y Cyngor ddyletswydd i wneud ‘cynnig gweithredol’ ar bwyntiau allweddol fel bod pobl ifanc yn ymwybodol o’u hawl i gael eiriolwr a beth y mae hynny'n ei olygu. Codwyd hyn hefyd yn ystod adolygiad pob unigolyn ifanc. Ychwanegodd bod Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi nodi bod staff yn dda ac yn rhagweithiol o ran siarad dros plant. Mewn ymateb i gwestiwn pellach gan y Cynghorydd Bithell am recriwtio, eglurodd yr Uwch Reolwr - Plant a'r Gweithlu mai Glynd?r yw Prifysgol gysylltiol y Cyngor er bod graddedigion o brifysgolion eraill wedi'u recriwtio yn y gorffennol hefyd.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r ymateb gweithredol a'r cynllun gweithredu.
Awdur yr adroddiad: Emma Cater
Dyddiad cyhoeddi: 21/12/2021
Dyddiad y penderfyniad: 13/07/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/07/2021 - Cabinet
Yn effeithiol o: 22/07/2021
Accompanying Documents: