Manylion y penderfyniad
Forward Work Programme and Action Tracking
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the Forward Work Programme of the Environment & Economy Overview & Scrutiny Committee and to inform the Committee of progress against actions from previous meetings.
Penderfyniadau:
Wrth gyflwyno’r adroddiad ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol, fe amlinellodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr eitemau a restrwyd ar gyfer cyfarfodydd Medi a Hydref. Fe soniodd hefyd am yr eitemau parhaus yn yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu a thynnu sylw at y rhai a oedd wedi’u cwblhau.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at e-bost a oedd wedi’i anfon at aelodau’r pwyllgor yn gofyn am awgrymiadau i’w cynnwys yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. Oherwydd bod nifer fawr o awgrymiadau wedi dod i law, roedd y rhain wedi cael eu rhannu â’r Prif Swyddogion er mwyn eu hystyried. Gofynnodd a oedd yr aelodau’n hapus i roi amser i’r swyddogion adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ym mis Medi ar y ffordd orau i ymdrin â’r rhain.
Awgrymodd y Cynghorydd Mike Peers y byddai cynnwys amserlenni ar gyfer bob eitem yn ddefnyddiol iawn. Yna cafwyd trafodaeth fanwl am yr eitemau ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a dywedodd y Cynghorydd Peers fod rhai o’r amserlenni y tu hwn i reolaeth swyddogion. Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi), ei bod yn bwysig bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei rhoi ar waith ym mis Medi ac y byddai’n cadw’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Peers yngl?n ag amserlenni mewn cof.
Cafodd yr argymhellion, fel y nodir yn yr adroddiad, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Mike Allport a Mike Peers.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei chymeradwyo;
(b) Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.
Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones
Dyddiad cyhoeddi: 23/12/2022
Dyddiad y penderfyniad: 05/07/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 05/07/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi
Dogfennau Atodol: