Manylion y penderfyniad
Forward Work Programme and Action Tracking
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the Forward Work Programme of the
Education Youth & Culture Overview & Scrutiny Committee and
to inform the Committee of progress against actions from previous
meetings.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r adroddiad a chadarnhaodd fod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol wedi’i diwygio ers y cyfarfod diwethaf.Roedd diwygiad arfaethedig arall, sef cyflwyno adroddiad ar Ran 1 Cynllun y Cyngor 2022/23 i’r Pwyllgor ar 3 Chwefror 2022.
Gan gyfeirio at y camau gweithredu yn Atodiad 2 yr adroddiad, cadarnhaodd yr Hwylusydd fod llythyr wedi’i anfon at bob ysgol gan y Cadeirydd ar ran y Pwyllgor.O ran y Cyfryngau Cymdeithasol a Diogelwch ar y Rhyngrwyd, mae’r eitem hon wedi’i gohirio tan gyfarfod mis Chwefror gyda gweithdy yn cael ei drefnu i’r Aelodau cyn y cyfarfod hwnnw ar yr “Addewid Caredigrwydd". Bydd y sesiwn friffio hon hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y cyfryngau cymdeithasol.
Gan ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Tudor Jones ar y pwysau ar y gyllideb a darparu Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) mewn ysgolion gwahanol, dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod hwn yn fater cymhleth iawn. Mae ysgolion ar ganol newid mawr o ran darpariaethau ADY ac mae gwaith yn cael ei wneud gyda phenaethiaid i benderfynu ar y ffordd orau i ddefnyddio cyllidebau i gefnogi hyn. Awgrymodd y Prif Swyddog y dylid cyflwyno adroddiad cryno i’r Pwyllgor ym mis Mehefin 2022.
Adroddodd yr Uwch-Reolwr (Cynhwysiant a Dilyniant) ar y gwaith sy’n cael ei wneud gyda phenaethiaid ysgolion cynradd o ran dyrannu’r gyllideb a sut y bydd hynny’n cael ei wneud dan y system newydd.Roedd y Pwyllgor wedi canolbwyntio ar effaith y ddeddfwriaeth newydd ond byddai adolygiad o’r broses gyfan, gan edrych ar y gwasanaethau a gynigir i ysgolion a sut mae’r rheiny’n cael eu hariannu, yn fuddiol i’r Pwyllgor.Awgrymodd y Prif Swyddog y dylai'r Cynghorydd Tudor Jones gwrdd â’r Uwch-Reolwr er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r gwaith sy'n cael ei wneud.Diolchodd y Cynghorydd Tudor Jones i’r Prif Swyddog a’r Uwch-Reolwr, gan ddweud y byddai’n trefnu hynny yn y flwyddyn newydd.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dave Mackie ar y cynnydd yn nifer y disgyblion a oedd yn ailsefyll arholiadau ym mis Tachwedd, cyfeiriodd y Prif Swyddog at gyfarfod diweddar â phenaethiaid ysgolion uwchradd a dywedodd nad oedd hyn wedi’i amlygu. Cytunodd i siarad efo’r Uwch-Reolwr (Gwella Ysgolion) ac anfon rhagor o wybodaeth at y Cynghorydd Mackie ar ôl y cyfarfod.Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gan ddweud y byddai modd cynnwys hyn yn adroddiad Asesiadau Arholiadau 2022 sy’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor fis Chwefror 2022.
Awgrymodd y Prif Swyddog y dylid cynnwys adroddiad ar raglenni Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles Llywodraeth Cymru yn y cyfarfod ar y cyd gyda’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mis Mehefin.Mae rhaglen lwyddiannus Haf o Hwyl wedi nodi meysydd allweddol a fyddai’n cefnogi gwaith lles plant a phobl ifanc yn y dyfodol.Maes nesaf rhaglen Llywodraeth Cymru yw “Gaeaf Llawn Lles”.Adroddodd y Prif Swyddog ar effaith bwerus a chadarnhaol hyn ar blant a theuluoedd sydd wedi bod yn rhan o’r rhaglen.
Cafodd yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Paul Cunningham a’u heilio gan y Cynghorydd Bob Connah.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Nodi cynnydd y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.
Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton
Dyddiad cyhoeddi: 21/12/2021
Dyddiad y penderfyniad: 21/10/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/10/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Dogfennau Atodol: