Manylion y penderfyniad

Action Tracking

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To inform the Committee of progress against actions from previous meetings.

Penderfyniadau:

Wrth gyflwyno adroddiad yn rhoi diweddariad ar gynnydd  materion yn deillio o gyfarfodydd blaenorol, darllenodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr ymateb gan Jo Whithead, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ar becynnau gofal wedi’u cyd-ariannu, a oedd wedi’i rannu â’r Pwyllgor.

 

Atgoffodd y Cynghorydd Richard Jones yr aelodau bod pryderon wedi codi ynghylch gwahaniaethau yn y broses apelio yn erbyn anghytundeb am becynnau gofal wedi’u cyd-ariannu gyda’r Bwrdd Iechyd yn dilyn colli’r £0.133m o gyllid yr adroddwyd yn ei gylch yn y cyfarfod ym mis Mawrth. Dywedodd bod y ffigwr o £0.937 yr adroddwyd yn ei gylch ym mis Gorffennaf yn swm sylweddol sy’n dal yn ddyledus i’r Cyngor ac sy’n effeithio ar y sefyllfa gyllidol.

 

Gan gydnabod y pryderon, croesawodd y Prif Weithredwr y ffaith bod Prif Weithredwr newydd BIPBC wedi codi’r mater ei hun wrth gydnabod yr angen am newid. Rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd i'r Aelodau y byddai'n parhau i fynd ar ôl hyn drwy gyswllt rheolaidd â BIPBC i sicrhau bod gan y Cyngor hawl i ymateb mewn perthynas ag apeliadau. Dywedodd hefyd bod y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) a’i dîm yn parhau i weithio i leihau lefel y ddyled sy’n deillio o becynnau gofal a ariennir ar y cyd.

 

Yn dilyn trafodaeth bellach, cynigiodd y Cynghorydd Jones bod llythyr yn cael ei anfon at BIPBC, wedi'i lofnodi gan Gadeirydd y pwyllgor hwn a Chadeirydd  y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn diolch am yr ymateb ac yn aros am gynnydd ar y broses apelio. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Geoff Collett.

 

Nodwyd bod adroddiad y gwnaed cais amdano eisoes ar y symiau a gollwyd yn sgil pecynnau gofal wedi'u cyd-ariannu yn mynd  gerbron y cyfarfod ym mis Rhagfyr.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi’i wneud; a

 

(b)       Bod llythyr yn cael ei anfon gan Gadeiryddion y Pwyllgor hwn a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd at Brif Weithredwr y Bwrdd Iechyd er mwyn (i) diolch am yr ymateb a (ii) pwysleisio pryderon ynghylch y broses o apelio mewn perthynas ag achosion a ariennir lle mae anghydfod, a lefel bresennol y ddyled.

Awdur yr adroddiad: Robert Robins

Dyddiad cyhoeddi: 22/12/2021

Dyddiad y penderfyniad: 11/11/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/11/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: