Manylion y penderfyniad
Forward Work Programme and Action Tracking
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the Forward Work Programme of the Community Housing & Assets Overview & Scrutiny Committee and to inform the Committee of progress against actions from previous meetings.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol a’r adroddiad olrhain camau gweithredu a dywedodd fod y ddau gam gweithredu a oedd wedi codi o’r cyfarfod blaenorol wedi’u cwblhau.
Dywedodd yr Hwylusydd fod argymhelliad wedi’i wneud mewn cyfarfod diweddar o’r Pwyllgor Adferiad, sef fod y risgiau portffolio a nodir yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu priodol. Y risgiau a nodwyd ar gyfer y Pwyllgor hwn oedd rhai yn ymwneud ag Ôl-Ddyledion Rhent, Digartrefedd a Deunyddiau Crai. Dywedodd y byddai’r Pwyllgor yn cael adroddiad diweddaru ar Rhent Tai a Diwygo Lles yng nghyfarfod mis Rhagfyr, gyda diweddariad ar lafar gan y Prif Swyddog ar ddeunyddiau crai yn cael ei ystyried yng nghyfarfod heddiw. Byddai’n cysylltu â’r Swyddogion priodol i sicrhau bod adroddiad am Ddigartrefedd wedi’i ychwanegu at y rhaglen gwaith i’r dyfodol ar ôl y cyfarfod.
Cafodd yr argymhellion, fel a amlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’u heilio gan y Cynghorydd Mared Eastwood.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Nodi cynnydd y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.
Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton
Dyddiad cyhoeddi: 30/11/2021
Dyddiad y penderfyniad: 13/10/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/10/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau
Dogfennau Atodol: