Manylion y penderfyniad

Funding, Flight-Path and Risk Management Framework

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Amlygodd y Cadeirydd, am y tro cyntaf ers i Gyngor Sir y Fflint ddod yn awdurdod gweinyddu, bod y Gronfa wedi rhagori ar y lefel ariannu o 100% a’i fod ar 102% yn unol â’r adroddiad.

 

            Roedd Mr Latham yn falch o adrodd ar y sefyllfa a ariannir yn llawn a chadarnhaodd fod y Gronfa wedi tyfu o £300 miliwn yn 1996 i £2.1 biliwn heddiw.Dywedodd fod hanes y sefyllfa ariannu yn rhan o ddiweddariad ariannol Mrs Fielder.

 

            Nododd y pwyntiau allweddol canlynol mewn perthynas â llwybr y Gronfa i sefyllfa sydd wedi’i hariannu’n llawn:

 

-       Credodd mai un o’r rhesymau allweddol dros y llwyddiant yw dull rheoli’r Gronfa drwy'r llwybr hedfan a’r fframwaith rheoli risg sy’n gweithredu yn ôl y disgwyl.

-       Mae hyn wedi’i gyflawni gan y Gronfa drwy bortffolio amrywiol a risg isel.

-       Mae lefel y rhagfantoli ar gyfer chwyddiant a chyfraddau llog wedi bod yn fuddiol i lwyddiant y Gronfa.

-       Mae’r amlygiad ecwiti yn darparu sicrwydd ond, er hynny, ni fu angen hynny gan fod y marchnadoedd wedi parhau i godi.

-       Drwy ragfantoli’r risg bresennol, mae’r Gronfa wedi ennill £15.8 miliwn ers dechrau’r strategaeth hon.

-       Peth arall cadarnhaol yw bod modd rhyddhau £100 miliwn arall tra’n cynnal yr un risg/adenillon cyffredinol. Gellir defnyddio’r cyllid ychwanegol hwn ar gyfer ymrwymiadau i asedau marchnadoedd preifat cynaliadwy yn y dyfodol.

 

            Nododd Mr Middleman, gan fod y lefel ariannu dros 100%, y cytunwyd i ystyried a ddylid lleihau’r risg ymhellach ac, os felly, beth fyddai’r goblygiadau ar gyfer adenillon ac, yn y pen draw, ar lefel a sefydlogrwydd gofynion cyfraniadau cyflogwyr.Eglurodd Mr Middleman beth yw’r camau nesaf o ran ystyried unrhyw gam gweithredu y dylid ei gymryd – bydd y rhain yn cael eu trafod yn ystod cyfarfod nesaf yr FRMG.Ar dudalen 31, eitem 1.07, amlinellir y camau a’r camau gweithredu posibl nesaf i’w hystyried, sy’n cynnwys gwneud dim, lleihau’r amlygiad ecwiti a/neu gynyddu lefelau rhagfantoli – yn enwedig ar gyfer chwyddiant o ystyried yr ansicrwydd presennol.

 

Cadarnhaodd Mr Middleman fod y lefel ariannu wedi parhau i wella ac amcangyfrifir ei bod yn oddeutu 103%.

 

            Gofynnodd Mr Everett pa mor nodweddiadol yw sefyllfa ariannol y Gronfa yn erbyn Cronfeydd LGPS a chronfeydd pensiwn eraill. Cadarnhaodd Mr Middleman bod hyn yn gysylltiedig â strategaeth pob Cronfa. Er enghraifft, byddai cronfeydd pensiwn eraill sydd â dyraniad ecwiti uwch wedi gweld mwy o welliant yn y sefyllfa ariannu ac fel arall.Fodd bynnag, bydd gan y Gronfa fwy o sadrwydd o gymharu â chronfeydd pensiwn eraill oherwydd y mesurau diogelwch sydd yn eu lle e.e. rhagfantoli a strategaeth diogelu ecwiti.Felly mae’n debygol y bydd llai o sefyllfaoedd ffyniant a methiant.

 

            Credodd Mr Everett petai’r Gronfa yn dal mewn sefyllfa wedi’i hariannu’n llawn erbyn y gwerthusiad tair blynedd nesaf, y byddai angen ystyried cynnal neu leihau cyfraniadau cyflogwyr oherwydd yr heriau cyllidol ar gyfer cyflogwyr wrth gydbwyso eu cyllidebau. Cytunodd Mr Middleman bod hyn yn ystyriaeth ac ychwanegodd bod angen mwy o drafodaethau gyda chyflogwyr yngl?n â lefel unrhyw ostyngiad oherwydd, po fwyaf y bydd cyfraniadau yn lleihau y mwyaf tebygol maent o fynd yn uwch yn y dyfodol, yn enwedig os yw’r arian dros ben yn cael ei ddefnyddio. Byddai hyn yn ystyriaeth allweddol o ran y cydbwysedd rhwng cyllidebau cyflogwyr yn y tymor byr a sefydlogrwydd hirdymor y cyfraniadau. Mae Mr Middleman yn disgwyl i’r drafodaeth hon ddigwydd gyda’r cynghorau mawr fel rhan o adolygiad ariannol dros dro sy’n cael ei gynnal yn ddiweddarach eleni.

 

            Holodd Mr Hibbert a fyddai modd i’r Gronfa leihau ei amlygrwydd i ecwitïau tanwydd ffosil dwys i helpu’r Gronfa gyrraedd y targed sero net erbyn 2050. Nododd Mr Middleman fod y map ffordd i ymrwymiad sero net yn ganolog o fewn y strategaeth llwybr hedfan felly byddai unrhyw newid yn bendant yn ystyried yr amcanion hyn.Er enghraifft, bydd yr effaith gymdeithasol ac amgylcheddol yn ganolog o ran lle caiff y £100 miliwn o warantau o’r strategaeth ei fuddsoddi.

 

Holodd y Cyng. Williams a ddylai'r Gronfa leihau ei fuddsoddiadau mewn tanwyddau ffosil o ystyried bod y Gronfa wedi rhagori ar ei sefyllfa o fod wedi’i hariannu’n llawn ac y gallan nhw gymryd yr “ergyd” o’u gwerthu’n rhwydd. Dywedodd Mr Harkin y byddai hyn yn cael ei grybwyll dan yr eitem nesaf ar y rhaglen.Cadarnhaodd nad oes gan y Gronfa lawer o amlygiad i stociau tanwydd ffosil dwys ond credodd y dylai hyn fod yn rhan o integreiddio cyfannol i gyflawni’r ymrwymiad sero net.

 

Nododd Mr Harkin fod y £100 miliwn o warantau o’r strategaeth llwybr hedfan yn amcangyfrif ceidwadol a bod potensial i’w defnyddio fel rhan o fuddsoddiadau Marchnad Preifat.

 

Gofynnodd y Cyng. Bateman beth yw’r FRMG.Cadarnhaodd Mr Middleman mai’r Gr?p Cyllid a Rheoli Risg (Funding and Risk Management Group) yw’r FRMG a sefydlwyd fel rhan o strwythur llywodraethu’r Gronfa.Mae’r gr?p yn cynnwys Mr Middleman fel Actiwari, Nick Page fel Ymgynghorydd Risg, Mr Harkin fel Ymgynghorydd Buddsoddiadau, Mr Latham fel Pennaeth y Gronfa Bensiynau a Mrs Fielder fel Dirprwy Bennaeth y Gronfa.Mae gofyn i Mr Latham gymeradwyo materion a drafodwyd yn y gr?p dan gynllun dirprwyo cytunedig y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi ac yn ystyried cynnwys yr adroddiad.

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 15/09/2021

Dyddiad y penderfyniad: 09/06/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 09/06/2021 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: