Manylion y penderfyniad

Commencement of the Socio-Economic Duty

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To update Overview &Scrutiny of our preparedness for the commencement of the socio-economic duty.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar baratoadau’r Cyngor ar gyfer dechrau’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol.   Roedd hyn yn ofyniad statudol ar gyrff cyhoeddus perthnasol i roi sylw dyledus i’r angen i leihau anghydraddoldebau o ran canlyniadau o ganlyniad i anfantais economaidd-gymdeithasol.

 

Darparodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol a’r Rheolwr Budd-daliadau gyflwyniad ar y cyd yn ymdrin â’r canlynol:

 

·         Beth yw’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol a beth mae’n ei wneud?

·         Telerau Allweddol

·         Anghydraddoldebau canlyniadau

·         Enghreifftiau o dlodi

·         Dangos sylw dyledus – trywydd archwilio

·         Diwallu’r ddyletswydd – beth ydym ni’n ei wneud

·         Canlyniadau gwell

·         Astudiaeth Achos

 

Darparodd y cyflwyniad enghreifftiau ehangach o dlodi a oedd yn cysylltu ag un o’r blaenoriaethau o fewn Cynllun y Cyngor.   Roedd yr adroddiad yn cael ei rannu gyda’r holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu i godi ymwybyddiaeth o’r ymrwymiadau newydd.   Ymysg y camau gweithredu, byddai cynnwys canlyniadau Asesiad o Effaith Integredig ar adroddiadau pwyllgor yn gymorth i ddangos ystyriaeth o effeithiau posibl tlodi wrth wneud penderfyniadau strategol.   Fel y gofynnwyd, byddai copïau o’r cyflwyniad yn cael eu dosbarthu ar e-bost i’r Pwyllgor.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cadeirydd ar effaith tlodi digidol, siaradodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) am y gwaith i wella cysylltedd digidol a byddai’n rhannu manylion cyswllt y swyddog perthnasol.   Cymrodd y cyfle i dynnu sylw at friffio Aelodau ar y Strategaeth Ddigidol yn fuan.

 

Cydnabu’r Cynghorydd Patrick Heesom bwysigrwydd yr adroddiad o ystyried y materion hyn, a chyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno newid a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

 

Fel y gofynnwyd gan y Cadeirydd, byddai’r swyddogion yn darparu ymateb ar wahân ar niferoedd sydd wedi derbyn brechlynnau yn Sir y Fflint.

 

Gan groesawu’r adroddiad, diolchodd y Cynghorydd Paul Shotton i’r Rheolwr Budd-daliadau am ei gwaith i fynd i’r afael â thlodi bwyd.   Mewn ymateb i ymholiad, siaradodd am bwysigrwydd gweithio gyda chymunedau i ddeall effaith lawn anghydraddoldebau i breswylwyr a nodi camau i fynd i’r afael â hynny.

 

Croesawodd y Cynghorydd Richard Jones ystyriaeth y ddyletswydd ar lefel strategol a chynnig argymhelliad ychwanegol bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad chwarterol i ddangos sut yr oedd hyn yn cael ei wneud.  Roedd y Cynghorydd Paul Shotton yn eilio.

 

Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn nodi gofynion y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol.

 

(b)          Bod y Pwyllgor yn sicr bod y Cyngor yn barod i ddiwallu ei ddyletswydd newydd; a

 

(c)          Bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad chwarterol i ddangos sut mae gofynion y ddeddfwriaeth yn cael eu hystyried ar gyfer adroddiadau strategol.

Awdur yr adroddiad: Fiona Mocko

Dyddiad cyhoeddi: 21/07/2021

Dyddiad y penderfyniad: 10/06/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/06/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: