Manylion y penderfyniad
Welsh Housing Quality Standard (WHQS) Update
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide an update on the WHQS specific to
environmental works
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau adroddiad oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ddarparu Safon Ansawdd Tai Cymru a ddarperir gan y Cyngor drwy ei Raglen Buddsoddi Cyfalaf. Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar elfennau gwaith allanol y rhaglen ynghyd â chyflawniadau hyd yma a chynnal y safon wrth symud ymlaen.
Roedd y rhaglen gwella Ffensio a Garddio wnaeth ddechrau yn 2015 wedi’i datblygu yn rhaglen fwy cynhwysfawr, ar ôl i’r mwyafrif o waith mewnol a gwaith arall gael ei gwblhau i gyrraedd cydymffurfiaeth SATC. Byddai’r rhaglen yn canolbwyntio yn bennaf ar y ffiniau eiddo yn sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn addas ac yn unol â manyleb/gofynion y Cyngor. Hefyd wedi’i gynnwys fyddai dyraniad llwybrau, gerddi a storio. Roedd manylion y ffrydiau gwaith wedi eu hamlinellu o fewn yr adroddiad.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Brian Lloyd, cytunodd yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau i drafod gyda’r Uwch Dîm Rheoli y posibilrwydd o sesiynau mynd am dro gyda Chynghorwyr yn eu Ward er mwyn i Aelodau ddangos materion sydd yn eu barn nhw angen sylw.
Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Ray Hughes yngl?n â ffens a ddisodlwyd yn ei ward, roedd yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau wedi cytuno i siarad gyda’r Cynghorydd Hughes yn dilyn y cyfarfod a threfnu ymweliad safle yn ei ward.
Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Ray Hughes a’i eilio gan y Cynghorydd Kevin Rush.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf yn ei flwyddyn olaf o fuddsoddiad wrth i’r Cyngor ddechrau’r cyfnod cynnal a chadw o Safonau Ansawdd Tai Cymru.
Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine
Dyddiad cyhoeddi: 21/03/2022
Dyddiad y penderfyniad: 16/06/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/06/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau
Dogfennau Atodol: