Manylion y penderfyniad
Welfare Reform Update
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To provide an update on the impact of Welfare
Reform on Flintshire Residents.
Penderfyniadau:
Cafwyd diweddariad ar yr effeithiau y mae diwygiadau lles yn parhau i’w cael ar drigolion Sir y Fflint a’r gwaith sy’n digwydd i’w lliniaru ac i gefnogi’r aelwydydd perthnasol gan y Rheolwr Budd-daliadau. Mae’r pandemig wedi effeithio’n arwyddocaol ar aelwydydd agored i niwed hefyd ac roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am amrywiaeth o fesurau a ddatblygwyd i helpu'r rhai hynny sydd wedi'u heffeithio gan y pandemig a'r gefnogaeth a roddwyd i drigolion er mwyn ceisio lliniaru'r effeithiau negyddol.
Siaradodd y Rheolwr Budd-daliadau am y cynnydd yn y llwyth gwaith gostyngiad Treth y Cyngor a’r cynnydd ers y llynedd a oedd wedi’i adfer drwy gronfa gyllid Llywodraeth Cymru, oedd yn dangos y darlun mwy o’r pandemig a’r pecynnau cymorth sydd ar gael.
Roedd y Rheolwr Budd-daliadau yn mynegi ei phryder am ddiwedd y cynllun Ffyrlo ym mis Medi, gan nodi y byddai hyn yn cael effaith negyddol ar breswylwyr diamddiffyn. Ychwanegodd y byddai’r gefnogaeth Pandemig a thaliadau ynysu yn parhau ar gyfer y taliadau £500, ond dywedodd bod nifer y bobl oedd yn hawlio wedi gostwng. Hefyd, ychwanegodd bod y bonws Gofalwyr nesaf yn dal yn ei le ac roedd y taliad nesaf yn mynd allan eto ym mis Gorffennaf.
Dywedodd y Rheolwr Budd-daliadau bod yna gynnydd wedi bod mewn preswylwyr oedd yn ceisio cefnogaeth oedd yn gadarnhaol.
Llongyfarchodd y Cadeirydd y tîm am y gwaith yr oeddent yn ei wneud. Mewn ymateb i gwestiwn am gefnogaeth, dywedodd y Rheolwr Budd-daliadau bod atgyfeiriadau am gefnogaeth i’r Tîm Cymorth Diwygio Lles wedi cynyddu’n sylweddol.
Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd David Wisinger a’i eilio gan y Cynghorydd Geoff Collett.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith parhaus i reoli'r effeithiau y mae'r Diwygiadau Lles yn eu cael ac y byddant yn parhau i’w cael ar yr aelwydydd mwyaf diamddiffyn Sir y Fflint.
Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine
Dyddiad cyhoeddi: 21/03/2022
Dyddiad y penderfyniad: 16/06/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/06/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau
Accompanying Documents: