Manylion y penderfyniad
Housing Rent Income - Year end outturn and latest position for 2021/22
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide the Year end outturn for 202021 and
an operational update on rent collection and current arrear levels
for 2021/22.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y diweddariad gweithredol ar berfformiad o ran casglu incwm rhent tai ar ddiwedd blwyddyn 2020/21, yn cynnwys y sefyllfa ddiweddaraf o ran casgliadau yn 2021/22.
Dywedodd y Rheolwr Refeniw y bu i’r canlyniad ar gyfer 2020/21 olygu ôl-ddyledion rhent o £1.854m o gymharu â £1.815m yn y flwyddyn flaenorol – cynnydd mewn ôl-ddyledion o £39k. Dywedodd fod y data’n gadarnhaol o’i gymharu â rhagolygon cynharach ar gyfer ôl-ddyledion rhent ar gyfer y gwasanaeth yn ystod y 12 mis diwethaf, yn arbennig ar amser pan fo’r pandemig Covid-19 wedi effeithio ar allu rhai tenantiaid i dalu eu rhent ar amser.
Cafwyd cyflwyniad manwl gan y Rheolwr Refeniw yn trafod y meysydd canlynol:-
- Casglu Rhent: sefyllfa derfynol 2020/21;
- Casgliadau Rhent a Thueddiadau dros 6 blynedd;
- Achosion ôl-ddyledion (£250+) Mawrth 2021; a
- Chasglu Rhent: 21/22 Sefyllfa Ddiweddaraf (at wythnos 10)
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd am adleoli meddalwedd, ychwanegodd y Rheolwr Refeniw bod y meddalwedd wedi bod yn llwyddiannus yn targedu’r tenantiaid hynny oedd angen cefnogaeth. Yn anffodus, roedd tenantiaid oedd ag ôl-ddyledion o fwy na £5,000 yn tueddu i beidio cysylltu â’r Cyngor, oedd wedi arwain at eu ôl-ddyledion rhent yn parhau i gynyddu.
Diolchodd aelodau’r Pwyllgor i’r Rheolwr Refeniw am yr adroddiad. Mewn ymateb i gwestiynau am gefnogaeth i breswylwyr, eu hangen i gael mynediad i nifer o wasanaethau cefnogaeth ac oedd preswylwyr ar y Gofrestr Tai os oedd ganddynt ddyledion, eglurodd y Prif Swyddog y byddai tenantiaid yn cael eu rhoi ym Mand 4 ar y Gofrestr Tai nes oeddent wedi clirio eu dyledion. Hefyd, soniodd am ddiwedd y cynllun Ffyrlo fel yr amlinellwyd wrth ystyried y diweddariad Diwygiad Lles yn gynharach yn y cyfarfod a dywedodd bod yna bryder am yr effaith y byddai hyn yn ei gael ar denantiaid a’r tîm cymorth. Ailgadarnhaodd nad bwriad Sir y Fflint oedd troi tenantiaid allan gan nad oedd o fudd i’r Cyngor ond amlygodd bod yna achosion difrifol ble na fyddai tenantiaid yn ymgysylltu ac yn yr achosion hynny ar ôl llawer o drafod roedd yn iawn y dylid ac y cymerir camau.
Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd David Wisinger a’i eilio gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson.
PENDERFYNWYD:
Nodi'r sefyllfa diwedd blwyddyn o £1.854m ar gyfer ôl-ddyledion rhent yn 2020/21 fel y nodir o fewn yr adroddiad.
Awdur yr adroddiad: David Barnes
Dyddiad cyhoeddi: 21/03/2022
Dyddiad y penderfyniad: 16/06/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/06/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau
Dogfennau Atodol: