Manylion y penderfyniad
Social Media and Internet Safety
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide Members with an update on the
Portfolio’s Social Media and Internet Safety policy and
provision
Penderfyniadau:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch-Reolwr Gwella Ysgolion a’r Ymgynghorydd Dysgu (Iechyd, Lles a Diogelu) i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am bolisi Cyfryngau Cymdeithasol a Diogelwch ar y Rhyngrwyd y Portffolio, gan ganolbwyntio ar ddiogelwch a lles dysgwyr.Mae technoleg wedi caniatáu i addysg barhau yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, er y manteision, mae ymddygiad a chynnwys niweidiol ar-lein yn gallu rhoi dysgwyr mewn perygl os nad oes strategaethau priodol ar waith.Cadarnhaodd fod yr Awdurdod a'r ysgolion yn cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif.
Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu (Iechyd, Lles a Diogelu) yr adroddiad a gyflwynwyd i sicrhau’r Pwyllgor bod plant a phobl ifanc yn derbyn cymorth priodol mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol a diogelwch ar y rhyngrwyd. Mae’r adroddiad yn amlygu gwaith yr Awdurdod ynghyd â’r canllawiau cenedlaethol.Mae llwyfannau cyfryngau cymdeithasol wedi galluogi ysgolion a’r Awdurdod i gyfathrebu’n gyflym gyda phlant a rhieni ond mae yna fanteision ac anfanteision, gyda phobl ifanc yn wynebu’r un heriau ag oedolion sy’n defnyddio’r llwyfannau hyn. Mae’r adroddiad yn cynnwys data a chanllawiau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, sydd bellach yn cael eu dilyn yn lleol.Darperir gwybodaeth am y Fframwaith Cymhwysedd Digidol a Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion a chadarnhawyd y bydd yr arolwg nesaf yn cael ei gynnal yn ystod yr hydref.
Tynnodd yr Ymgynghorydd Dysgu sylw’r aelodau at y Mesur Diogelwch Ar-lein, y Cynllun Gweithredu, y Canllawiau a’r Cwricwlwm i Gymru.Amlinellwyd gwybodaeth am gylch gwaith Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan ynghyd â’r rhaglen “Getting on Togerther” sy’n edrych ar herio eithafiaeth.I gloi, amlinellodd Fframwaith Arolygu newydd Estyn a dywedodd y bydd prosiect peilot yn dechrau yn ystod gwanwyn 2022.
Croesawodd y Cynghorydd Mackie yr adroddiad a’r dolenni at ddogfennau ar-lein cysylltiedig.Fel llywodraethwr ysgol, gofynnodd pa gwestiynau y dylai ef fod yn gofyn i’w ysgolion ac a yw ysgolion yn gwybod am yr adroddiad hwn.
Mewn ymateb, eglurodd yr Ymgynghorydd Dysgu fod gan yr Awdurdod ddyletswydd i ddarparu hyfforddiant a chyngor priodol a bod hyn eisoes yn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Portffolio.Ychwanegodd ei bod yn gobeithio y bydd hyfforddwr sydd wedi darparu hyfforddiant ar gyfer y rhaglen ysgolion yn gallu cynnal sesiwn i lywodraethwyr ysgol a fydd yn cynnwys cwestiynau iddynt ofyn i’w cyrff llywodraethu.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Martin White at bwynt 1.08 lle nodir fod 68 allan o 78 o ysgolion wedi cofrestru ar gyfer 360 Degree Safe Cymru a gofynnodd sut y mae modd annog y 10 ysgol sy’n weddill i gofrestru.Mewn ymateb dywedodd yr Uwch-Reolwr fod hwn yn offeryn pwysig ond bod rhai ysgolion o bosibl yn defnyddio offerynnau eraill sydd ar gael. Fodd bynnag, cytunodd y byddai o fantais petai bob ysgol yn cofrestru. Bydd hyn yn rhywbeth a fydd yn cael ei annog yn y flwyddyn academaidd newydd.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at y ffigyrau bwlio seiber disgybl i ddisgybl, sydd i lawr i 20% o ddysgwyr yn rhoi gwybod am achosion o’r fath o gymharu â 23% yn 2017 (ond sy’n dal yn uwch na’r cyfartaledd o 18%).Cyfeiriodd at y Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd i’r Cyngor yn 2019, lle llofnododd bob aelod addewid i beidio â defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd sy’n dirmygu unigolion eraill. Gofynnodd sawl aelod a fyddai’n gallu ailddatgan yr addewid hwnnw.
Roedd yr Ymgynghorydd Dysgu yn cefnogi sylwadau’r Cadeirydd ac awgrymodd y gall hyn a bwlio ar-lein gael ei hyrwyddo yn y flwyddyn academaidd newydd a’i gynnwys mewn newyddlenni ysgol, ar Twitter a gwefannau ac ati. Gall Tîm Cyfathrebu’r Awdurdod hyrwyddo hyn ymhellach a gwneud safiad yn erbyn bwlio seiber, sy’n bwysig iawn.Cefnogwyd hyn gan y Pwyllgor.
Talodd y Cynghorydd Axworthy deyrnged i’r diweddar y Cynghorydd Kevin Hughes a oedd yn cefnogi dod â bwlio seiber i ben.Dywedodd fod hwn yn bwnc pwysig iawn a chroesawodd yr hyfforddiant i lywodraethwyr a’r camau i symud hyn yn ei flaen.
Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey a oes modd cynnwys ysgolion cynradd yn ogystal ag ysgolion uwchradd gan fod plant iau hefyd yn defnyddio ffonau a’r cyfryngau cymdeithasol.Teimlodd y Cynghorydd Healey petai plant yn dysgu sut i barchu ei gilydd a sut i ddilyn y polisi dim bwlio yn ifanc iawn yna, erbyn iddynt fynd i’r ysgol uwchradd, byddai hynny’n helpu i leihau’r problemau.
Mewn ymateb cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Dysgu bod yr arolwg yn cael ei gynnal mewn ysgolion uwchradd yn unig ond bod prosiect peilot yn cael ei gynnal gydag ychydig o ddisgyblion blwyddyn 6.Cafodd y prosiect peilot cynradd ei oedi oherwydd y pandemig ac nid oes amserlen ar ei gyfer ar y funud. Fodd bynnag, mae negeseuon allweddol yngl?n â diogelwch ar-lein wedi’u cynnwys yn y cwricwlwm o’r cyfnod sylfaen ymlaen.
Cafodd yr argymhelliad, fel y nodir yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Janet Axworthy a’i eilio gan y Cynghorydd Sian Braun.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad; a
(b) Bod y Pwyllgor wedi'u sicrhau ynghylch lefel y sicrwydd a roddir ar gyfer y cynnig addysg i ysgolion mewn perthynas â diogelwch ar-lein, yn cynnwys y cyfryngau cymdeithasol.
Awdur yr adroddiad: Claire Sinnott
Dyddiad cyhoeddi: 15/10/2021
Dyddiad y penderfyniad: 01/07/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 01/07/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Dogfennau Atodol: