Manylion y penderfyniad

Multisystemic Therapy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide an update on the multi-agency service to provide intensive therapeutic support to young people.

Penderfyniadau:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) a Dirprwy Arweinydd y Cyngor (Partneriaethau) ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol ac Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu). Roedd yr adroddiad yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y gwasanaeth aml-asiantaeth i ddarparu cefnogaeth therapiwtig ddwys i bobl ifanc. Llongyfarchodd Dîm Therapi Aml Systemig Gogledd Ddwyrain Cymru oedd wedi derbyn gwobr ar gyfer “Whatever it takes” am fynd yr ail filltir y tu hwnt i’r hyn oedd yn cael ei gydnabod drwy gydol Rhaglen Therapi Aml Systemig, a chafodd ei roi i unigolion yn y gymuned Therapi Aml Systemig sydd wedi arddangos gwasanaeth rhagorol a haeddiannol.  Fe eglurodd bod y tîm wedi cynllunio, cychwyn, cyflwyno a llwyddo trwy gydol y pandemig.

            Cyflwynodd yr Uwch Reolwr yr adroddiad sydd yn rhoi trosolwg o ddull partneriaeth y tîm a dywedodd bod Gogledd Cymru wedi sicrhau cyllid LlC i edrych ar greu prosiectau partneriaeth i drawsnewid y modd mae Gwasanaethau Plant yn gweithio. Roedd yr arian yn rhanbarthol ond daeth i mewn drwy ôl troed y Bwrdd Iechyd yn lleol ar gyfer Wrecsam, Sir y Fflint a BIPBC.  Roedd y prosiect newydd dderbyn gwerthusiad dros dro gan Brifysgol Brooks Rhydychen o ran sylfaen y dystiolaeth am y gwasanaeth yma.  Yr hyn oedd yn amlwg oedd y gwaith partneriaeth cadarnhaol gyda’r adran Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Ysgolion i ddarparu cefnogaeth ddwys i blant a theuluoedd oedd ar fin derbyn gofal. Roedd hyn yn galluogi cefnogaeth ddwys, ataliol er mwyn osgoi’r angen i blant dderbyn gofal a sicrhau eu bod yn gallu aros gyda’u teuluoedd. 

 

 Roedd y cyflwyniad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am:-

  • Asesiad Sylfaenol – Beth sy’n gweithio? - Nodweddion cyffredin – Amcanion
  • Pam Therapi Aml Systemig? - Yngl?n â Therapi Aml Systemig – Nod Therapydd Aml Systemig yw: 
  • Gweithredu
  • Y gefnogaeth hyd yn hyn
  • Gwerthuso – Canfyddiadau’r gwerthusiad
  • Canfyddiadau Allweddol
  • Cam 2

 

            Roedd y Cadeirydd yn credu bod hyn yn chwa o awyr iach yn enwedig y staff oedd yn gweithio bob awr o’r dydd a gofynnodd bod yr Uwch Reolwr yn rhoi gwybod iddynt bod y Pwyllgor yn canmol eu gwaith wrth gamu i’r adwy i gefnogi’r rhieni.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Mackie petai’r teuluoedd yma’n cael eu cefnogi i gyflawni newid gwirioneddol o ran rhianta, gobeithio y gallai hyn dreiddio lawr i’r genhedlaeth nesaf ac yn y blaen a oedd mor bwysig.  Roedd yn falch o ddarllen 1.08 o ran y tîm “Whatever it takes” a oedd yn gadarnhaol iawn.

 

            Cyfeiriodd at dudalen 34, y Dadansoddiad a’r paragraff olaf am Hanes Teulu, a gofynnodd a oedd yr awdurdod wedi cael pethau’n gywir yn y gorffennol tra’n gweithio gyda’r teuluoedd yma o ran ymyraethau, ac a fyddai symud i’r system newydd yma’n torri’r gylchred.  

 

             Wrth ymateb, fe eglurodd yr Uwch Reolwr bod ymddygiad rhai o’r teuluoedd roeddynt yn gweithio gyda nhw wedi’i hen sefydlu ac yn genedliadol, a gyda gwaith amddiffyn plant, roedd yn canolbwyntio meddyliau teuluoedd i greu newid.  Ar ôl i’r plant gael eu tynnu oddi ar y Gofrestr Amddiffyn Plant, mater gwirfoddol oedd gweithio gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol, ac nid oedd modd ei orfodi.  Byddai’r gwasanaeth yma’n darparu model mwy therapiwtig gan gydweithwyr CAHMS er mwyn mynd i’r afael â materion sylfaenol ar gyfer y rhieni a phlant a dangos sut y gallent gyflawni newid eu hunain.  Dywedodd bod angen amser i weithio drwy faterion megis camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl isel ac yn y gorffennol nid oedd modd i weithwyr cymdeithasol roi cymaint o amser oherwydd llwyth gwaith. Roedd y gwasanaeth yma’n dod â’r holl arbenigedd yma ynghyd gan edrych ar y teulu cyfan er mwyn sicrhau newid cynaliadwy. Cyfeiriodd at wasanaethau Blynyddoedd Cynnar a Dechrau’n Deg oedd yn cefnogi rhieni o 0-7 oed, ond wrth gyrraedd blynyddoedd yr arddegau, nid oedd y gefnogaeth gystal ag dylai fod ac roedd y prosiect yma’n dangos i ble roedd yr awdurdod eisiau mynd gyda’n gwasanaethau a chynnig i deuluoedd.

 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at Where We Go Next yn yr adroddiad ac awgrymodd y dylid ystyried gwasanaeth tebyg i Mockingbird a fyddai’n darparu amgylchedd teulu cyfan lle gallent fynd pan fyddant angen cymorth.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Cunningham at dudalen 40 yn yr adroddiad “Out of Hours Support 24/7” oedd yn brawf bod y gwasanaeth ardderchog yn gweithio a dywedodd nad oedd yn credu bod yr awdurdod wedi cael pethau’n anghywir yn y gorffennol, ond efallai nad oedd pethau wedi gweithio iddynt.

 

            Roedd y Cadeirydd yn teimlo bod yr awdurdod yn dysgu drwy’r amser ac y gallai hyn weithio ond roedd yn poeni am y nifer o bobl a fyddai’n cael eu gwrthod oherwydd nad oedd y staff neu’r capasiti ar gael i bawb. 

 

Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr at uchelgais y Cyngor i gyflawni gofal preswyl mewnol. Cafodd hyn ei drafod yn seminar y Cyngor. 

Wrth i ni symud ymlaen gyda gofal preswyl, fe sylweddolwyd bod hyn yn ymwneud â mwy nag adeilad, y gofal, y gefnogaeth, yr asesiad a therapi oedd yn digwydd yn yr adeilad oedd yn bwysig. 

 

Roedd model FIT Therapi Aml Systemig yn cael ei ddefnyddio felly pan fyddai gofal preswyl yn cael ei ymestyn, fe fyddai yna dîm FIT yno i weithio gyda’r plant hynny.  Fe ychwanegodd mai’r nod oedd y byddai plant yn dychwelyd adref neu’n symud i ofal maeth pan fyddai’n ddiogel ac yn briodol i wneud hynny, ac mai agwedd Sir y Fflint at leoliadau ‘Tu Allan i’r Sir’ oedd adeiladu ar yr hyn sydd wedi cael ei ddysgu drwy’r Therapi Aml Systemig a sut rydym ni’n dod â’r mentrau yma ynghyd.    

 

            Fe soniodd y Prif Swyddog bod y cyfryngau cenedlaethol yn llawn straeon am Wasanaethau Plant a heriau am y niferoedd uchel o blant sy’n derbyn gofal yng Nghymru o’i gymharu â rhannau eraill o’r DU. Fe ychwanegodd bod y gwasanaeth yn dysgu’n gyson a bod Therapi Aml Systemig wedi dangos sut i ddiwygio a gwella sbectrwm y gwasanaethau’n well. Roedd yna gymaint o fentrau cadarnhaol yn Sir y Fflint oedd yn ymwneud â Gwasanaethau Plant oedd yn rhoi anogaeth yn cynnwys Mockingbird, Therapi Aml Systemig, Gofal Preswyl, agweddau gweithlu a Chanolfan Cymorth Cynnar.  Rhoddodd deyrnged Craig, Jenny Frost a Peter Robson am ddatblygu’r gwasanaeth mewn cyfnod heriol iawn ar gyfer yr holl wasanaethau cyhoeddus dros y 18 mis diwethaf.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Mackie ei fod yn hapus iawn â’r nifer o fentrau a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gofal Cymdeithasol ac Iechyd sydd yn gwneud ei waith o o graffu yn anodd iawn gan ei fod yn gweld prosiectau da, a’u bwriad yw cael effaith cadarnhaol ar bopeth sydd yn mynd ymlaen. 

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion, a amlinellwyd yn yr adroddiad, gan y Cynghorwyr Paul Cunningham a Jean Davies.

 

PENDERFYNWYD:

(a)          Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith er mwyn mynd ati’n ddiogel i leihau nifer y plant sydd angen gofal drwy ddarparu cymorth ddwys Therapi Aml Systemig wedi’i dargedu i deuluoedd.

 

(b)          Bod y Pwyllgor yn cefnogi sefydlu Cartref Gofal Preswyl i Blant yn yr awdurdod lleol fel rhan o ddull o ail gydbwyso darpariaeth gofal i blant, gan roi sylw i sicrhau amrediad fforddiadwy a digonol o leoliadau lleol o ansawdd uchel.

Awdur yr adroddiad: Craig Macleod

Dyddiad cyhoeddi: 28/10/2021

Dyddiad y penderfyniad: 17/06/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/06/2021 - Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: