Manylion y penderfyniad

Application for a Private Hire / Hackney Carriage (Joint) Driver Licence

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor Trwyddedu

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu’r adroddiad i ystyried cais ar gyfer Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/ Hacni (ar y cyd), wedi ei thrwyddedu gan yr Awdurdod. 

 

Esboniodd y Swyddog Trwyddedu fod y cais wedi gofyn am fanylion unrhyw gollfarnau blaenorol a bod yr ymgeisydd wedi darparu tystysgrif cofnodion troseddol manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a oedd yn dangos tri chollfarn a rhybudd.  Ar ôl derbyn tystysgrif DBS yr ymgeisydd a oedd wedi'i chwblhau gan Gyngor Sir y Fflint ar gyfer y cais hwn dangoswyd yr un tri chollfarn ac un rhybudd. Roedd hwn ynghlwm fel atodiad B i’r adroddiad. Gofynnwyd i'r ymgeisydd ddarparu esboniad ysgrifenedig o'i gollfarnau a oedd ynghlwm fel atodiad C i'r adroddiad. 

 

Adroddodd y Swyddog Trwyddedu fod yr ymgeisydd eisoes wedi cyflwyno dau gais i Gyngor Sir y Fflint am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/ Hacni (ar y cyd) a chyfeiriodd at wrandawiadau'r Is-bwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2015 a 29 Chwefror 2016. Ar ei ffurflen gais hysbysodd yr ymgeisydd ei fod hefyd wedi gwneud ceisiadau am drwydded debyg i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a wrthodwyd. Nid oedd ei gais cyfredol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi cael gwrandawiad eto.

 

Dywedodd y Swyddog Trwyddedu fod Cyngor Sir y Fflint wedi mabwysiadu canllawiau ar drin collfarnau, rhybuddion a chosbau eraill a gofnodwyd, ac roedd hyn ynghlwm fel atodiad F i'r adroddiad. Manylwyd ar baragraffau perthnasol y canllawiau yn yr adroddiad. 

 

Oherwydd natur collfarnau blaenorol yr ymgeisydd a'i gais i yrru tacsi neu gerbyd hurio preifat a oedd yn cynnwys gyrru am gryn amser, ddydd a nos, a bod mewn cerbyd ar ben ei hun o bosibl gyda phlant, oedolion diamddiffyn, a phobl a allai fod wedi yfed alcohol neu gymryd sylweddau eraill, gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymddangos gerbron yr Is-bwyllgor Trwyddedu i benderfynu a oedd yn berson addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru ar y Cyd gyda'r Awdurdod. 

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i aelodau'r Panel ofyn mwy o gwestiynau.Ceisiodd y Panel fwy o wybodaeth gan yr ymgeisydd yngl?n ag amgylchiadau a oedd wedi achosi ei euogfarnau.Holwyd yr ymgeisydd hefyd am ei geisiadau blaenorol a'r gwrthodiad i roi trwydded iddo. Ymatebodd yr ymgeisydd ei fod yn siomedig ond nad oedd yn ddig am y penderfyniad a derbyniodd y canlyniad ar y pryd. 

 

Cyfeiriodd y Cyfreithiwr at wiriad DVLA yr ymgeisydd a ddosbarthwyd cyn y gwrandawiad a dangosodd fanylion yr holl ardystiadau blaenorol. Tynnodd sylw at yr hysbysiad cosb benodedig yn 2017 a gwrandawiad ymddygiad yn 2017 a gofynnodd i'r ymgeisydd esbonio'r rhesymau dros y troseddau, y cadarnhaodd yr ymgeisydd eu bod yn ymwneud â defnyddio ffôn symudol.  Cyfeiriodd y Cyfreithiwr hefyd at ffurflen gais yr ymgeisydd a gofyn iddo pam nad oedd wedi cynnwys manylion yr hysbysiad cosb benodedig yn adran 5 a ofynnodd am fanylion unrhyw achlysuron pan gafodd yr ymgeisydd ei rybuddio neu ei ddyfarnu'n euog o unrhyw droseddau (gan gynnwys mân droseddau moduro). Ymddiheurodd yr ymgeisydd am y diffyg a dywedodd nad oedd wedi bwriadu twyllo ond ei fod wedi cyfeirio at ei dystysgrif DBS yn ei gais a’i fod ar ddeall ei bod yn cofnodi manylion ei gollfarnau, hysbysiadau, ceryddon a rhybuddion.  Dywedodd ei fod hefyd yn deall bod y drosedd wedi’i chofnodi ar ei drwydded DVLA a fyddai'n cael ei ddarparu i'r gwrandawiad. 

 

Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd yn fanwl am ei gollfarn ym 1995 am achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus a gofynnodd i'r ymgeisydd esbonio'r amgylchiadau a oedd wedi achosi'r drosedd. Cyfeiriodd y Cyfreithiwr at y canllawiau ar ymdrin ag euogfarnau, rhybuddion, cyhuddiadau troseddol neu gosbau eraill a gofnodir, a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad. Esboniodd yr ymgeisydd ei fod yn difaru’n fawr y ddamwain a dywedodd ei fod wedi digwydd oherwydd yr amodau ar y ffordd bryd hynny a’i fod wedi pledio’n euog i’r drosedd. Dywedodd fod ei yrru wedi gwella trwy brofiad a'i fod yn ofalus nawr. 

 

Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd am ei gollfarn am efadu dyletswydd yn dwyllodrus yn 2002 a gofynnodd iddo egluro'r amgylchiadau a arweiniodd at y drosedd, y gorchymyn iawndal cost, a'i wahardd rhag gyrru. Amlinellodd yr ymgeisydd y rôl yr oedd wedi'i chyflawni mewn cynllun twyllodrus a weithredwyd ar y cyd ag eraill ac a oedd wedi arwain at y gollfarn. Dywedodd ei fod yn difaru ei weithredoedd ac ers bwrw ei ddedfryd roedd yn gymeriad diwygiedig a oedd am “wneud yn iawn” a gofynnwyd iddo roi enghreifftiau o sut y ceisiodd gyflawni hyn. 

 

Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd am y rhybudd a gafodd yn 2018 am ddefnyddio geiriau neu ymddygiad bygythiol, ymosodol, sarhaus gyda’r bwriad i achosi ofn neu bryfocio trais, a gofynnodd i’r ymgeisydd ddisgrifio’r digwyddiadau a arweiniodd at y gollfarn.  Hysbysodd yr ymgeisydd nad oedd y drosedd yn cynnwys heddwas ond ei fod yn ymwneud â digwyddiad rhwng dyn drws a dynes a'i fod wedi ymyrryd i helpu gan ei fod yn teimlo ei bod yn cael ei cham-drin. Wrth fyfyrio dywedodd yr ymgeisydd y byddai'n fwy gofalus o'i iaith a'i weithredoedd yn y dyfodol ond nad oedd yn difaru ceisio cynorthwyo person arall mewn sefyllfa anodd.

 

Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd am ei geisiadau blaenorol i Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sir Wrecsam a phenderfyniadau'r gwrandawiadau dilynol. Cyfeiriodd hefyd at benderfyniad dilynol yr ymgeisydd i herio dyfarniad yr Is-bwyllgor Trwyddedu yn y Llys Ynadon a Llys y Goron.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r ymgeisydd amlinellu ei resymau dros wneud cais am drwydded yrru ar y cyd. Esboniodd yr ymgeisydd ei statws cyflogaeth a'i sefyllfa a dywedodd ei fod yn dymuno cael y drwydded fel y gallai fod yn yrrwr wrth gefn yn ei fusnes.  

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon fod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gofynnodd i’r ymgeisydd, y parti cysylltiedig a’r Swyddog Trwyddedu adael y cyfarfod wrth i’r panel benderfynu ar y cais.

 

3.1       Penderfynu ar y Cais  

 

Wrth benderfynu’r cais, ystyriodd yr Is-bwyllgor ganllawiau’r Cyngor ar ymdriniaeth ag euogfarnau, rhybuddion, cyhuddiadau troseddol neu gosbau eraill a gofnodir, a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

            Gwahoddwyd y Swyddog Trwyddedu, yr ymgeisydd â’r parti cysylltiedig yn ôl a chafodd y cyfarfod ei ailymgynnull.

 

 

 

 

3.2       Penderfyniad

           

Dywedodd y Cadeirydd wrth yr ymgeisydd fod y Panel yn bryderus iawn am ei gollfarnau a bod ganddo ddyletswydd gyffredinol i amddiffyn y cyhoedd. Gyda hynny mewn golwg, penderfyniad y Panel oedd gwrthod y cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/ Hacni Ar y Cyd gan nad oedd y Pwyllgor o'r farn bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded o'r fath.  Ystyriodd y Pwyllgor y cais, yr adroddiad, a'r sylwadau a wnaed gan yr ymgeisydd a chanllawiau'r Cyngor ar gollfarnau ac roedd wedi rhoi sylw i rannau perthnasol y Safonau Statudol Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat.  Nid oedd y Pwyllgor o'r farn bod unrhyw reswm cymhellol i wyro oddi wrth y canllawiau ar gollfarnau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Gwrthod y cais gan nad oedd yr ymgeisydd yn cael ei ystyried yn berson addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru Cerbydau Hurio Preifat / Hacni (ar y Cyd) o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.  

 

 (Dechreuodd y gwrandawiad am 10.00 a.m a daeth i ben am 12.00 p.m.)

 

 

Awdur yr adroddiad: Gemma Potter

Dyddiad cyhoeddi: 18/06/2021

Dyddiad y penderfyniad: 08/04/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 08/04/2021 - Is-bwyllgor Trwyddedu

  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  •