Manylion y penderfyniad
Town Centre Regeneration – Property Intervention
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To consider the role the Council could play in helping towns to adapt to a changing economic situation through direct intervention in acquiring, redeveloping or managing properties.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad gan egluro bod canol trefi yn wynebu heriau economaidd cynyddol a bod y patrymau presennol o berchnogaeth eiddo yn rhwystro ymdrechion i'w helpu nhw i addasu.
Roedd yr adroddiad yn gweithredu fel cam cyntaf y broses o ddatblygu rhaglen uchelgeisiol ond cyflawnadwy o ymyraethau er mwyn cefnogi ailddyfeisio ac adfywio canol trefi yn Sir y Fflint.
Bwriad y rhaglen oedd:
· Lleihau nifer yr eiddo gwag hirdymor yng nghanol trefi;
· Lleihau'r nifer cyffredinol o ddarpariaethau manwerthu yng nghanol trefi drwy addasu unedau ar gyrion trefi at ddibenion gwahanol;
· Dod o hyd i ddefnyddiau mwy cynaliadwy ar gyfer unedau manwerthu a chynyddu nifer y mentrau cymunedol ar y Stryd Fawr;
· Cynllun i addasu a gwneud defnydd gwahanol o ganolfannau siopa llai hyfyw;
· Datblygu unedau cychwyn ar gyfer mentrau manwerthu newydd yng nghanol trefi;
· Annog buddsoddiad sector preifat mewn eiddo yng nghanol trefi; a
· Cydlynu a chefnogi ymyraethau portffolio eraill Cyngor Sir y Fflint er mwyn gwneud y mwyaf o’r effeithiau adfywiol a ddaw o fuddsoddiad ac adnoddau.
Yn yr adroddiad amlinellwyd manylion y prosiectau o fewn y rhaglen a’r hyn y byddent yn eu cynnwys. Hefyd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad roedd manylion y camau nesaf a oedd wedi’u nodi.
Eglurodd y Prif Weithredwr bod y rhanbarth ar fin newid o’r camau ymateb i camau adfer oherwydd y sefyllfa gadarnhaol yr oedd ynddi o ran rheoli'r pandemig. Un o’r chwe thema ar gyfer adfer oedd adfywio canol trefi, a byddai tystiolaeth yn cael ei ddarparu i'r llywodraeth wrth wneud cais am gyllid.
Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Swyddog bod gan yr awdurdod lleol y p?er i ymyrryd ag eiddo gwag, gyda chymorth pecyn cefnogaeth Llywodraeth Cymru (LlC) sy’n amlinellu pwerau gorfodi gyda rhai o’r enghreifftiau gwaethaf o eiddo sydd ddim yn cael eu cynnal, er mwyn dod â hwy yn ôl i ddefnydd er budd y gymuned leol a chanol trefi.
Siaradodd y Cynghorydd Thomas yngl?n â mentrau cadarnhaol a fyddai’n helpu canol trefi, gan gyfeirio at y caffi trwsio ym Mwcle a siopau dros dro fel enghreifftiau. Eglurodd y Prif Swyddog bod y cynllun hwn yn cymryd y camau hynny un cam ymhellach, gan gymryd eiddo a’i ddefnyddio i bwrpas gwahanol.
Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Mullin, eglurodd y Prif Swyddog y byddai gwaith yn cael ei wneud mewn partneriaeth â Rheolwyr Canol Trefi a Chynghorau Tref.
Pwysleisiodd y Cynghorydd Jones bwysigrwydd ystyried pobl ag anableddau dysgu ac anableddau corfforol, anawsterau iechyd meddwl a dementia, yn y broses. Dywedodd y Prif Swyddog bod adroddiad ar gyfer canol trefi penodol yn cael ei lunio ac y byddai’n sicrhau y caiff y pwyntiau hyn eu cynnwys.
PENDERFYNWYD:
Y dylid cytuno ar rôl y Cyngor wrth adfywio canol trefi drwy ymyraethau sy’n canolbwyntio ar eiddo.
Awdur yr adroddiad: Niall Waller
Dyddiad cyhoeddi: 21/12/2021
Dyddiad y penderfyniad: 20/04/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/04/2021 - Cabinet
Yn effeithiol o: 29/04/2021
Dogfennau Atodol: