Manylion y penderfyniad

Wales Pension Partnership Business Plan 2021/22 to 2023/24

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

            Gwnaeth Mr Latham atgoffa’r Pwyllgor fod yr holl Gronfeydd o fewn Partneriaeth Bensiynau Cymru wedi gweithio’n agos i ddatblygu cynllun busnes Partneriaeth Bensiynau Cymru sy’n cael ei adolygu ar hyn o bryd, gyda’r pwyslais ar Fuddsoddi Cyfrifol, peryglon hinsawdd a marchnadoedd preifat. Rhaid i’r wyth Awdurdod Cyfansoddol sy’n cymryd rhan ym Mhartneriaeth Bensiynau Cymru gymeradwyo’r cynllun busnes.

 

            Mynegodd Mr Hibbert ei bryder ynghylch cynigion ar sut byddai penodi Cynrychiolydd Aelodau’r Cynllun yn digwydd drwy’r Pwyllgor Cydlywodraethu.Gan fod penodi Cynrychiolydd Aelodau’r Cynllun yn rhan o’r cynllun busnes, roedd ganddo’i bryderon ynghylch cymeradwyo’r cynllun busnes gan y gallai hyn arwain at anwybyddu’r materion yn ymwneud â sut y gwneir y penodiad.Pwysleisiodd, ar sail trafodaethau blaenorol gan y Pwyllgor, fod awydd cryf i aelodau’r cynllun a’r cyrff sy’n eu cynrychioli i benodi Cynrychiolydd Aelodau’r Cynllun, yn hytrach na’r Pwyllgor Cydlywodraethu.

 

            Nododd Mr Latham y pryder ond dywedodd na ddylai hyn fod yn rheswm dros beidio â chymeradwyo’r cynllun busnes gan nad yw canolbwynt y cynllun busnes ei hun yn datgan pwy a benodir na sut y gwneir hynny.

 

            Awgrymodd Mrs McWilliam y dylid cymeradwyo’r cynllun busnes a gadael i’r Cadeirydd ymdrin â phryderon y Pwyllgor ar y mater hwn fel rhan o’r eitem ar wahân am y Pwyllgor Cydlywodraethu. Pwysleisiodd fod y Gronfa’n un o wyth ac felly, er fod y Cadeirydd wedi mynegi’r pryderon hyn, byddai’n rhaid i aelodau eraill y Pwyllgor Cydlywodraethu gytuno hefyd.

 

Cytunodd Mr Everett fod y sefyllfa’n anodd gan fod y Gronfa wedi ei dal yn y canol rhwng trefn ac egwyddor.Ei gyngor ef fyddai i’r Cadeirydd a Mr Latham sicrhau bod y disgwyliadau’n eglur o ran sut y penodir Cynrychiolydd Aelodau’r Cynllun.

 

Cytunodd holl aelodau’r Pwyllgor gyda’r argymhellion ar wahân i Mr Hibbert a nododd ei bryderon gyda’r drefn i benodi Cynrychiolydd Aelodau’r Cynllun.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyodd y Pwyllgor Gynllun Busnes drafft Partneriaeth Bensiynau Cymru, yn cynnwys amcanion y gronfa ar dudalen 7 a’r gyllideb ar dudalen 14, yn ymwneud â chyfnod 2021/22 hyd at 2023/24 cyn y bydd yn cael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Cydlywodraethu ar 24 Mawrth 2021. Cytunodd y Pwyllgor hefyd y bydd y Cadeirydd yn mynegi eu safbwynt i’r Pwyllgor Cydlywodraethu ar y broses i gymeradwyo Cynrychiolydd Aelodau’r Cynllun.

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 03/08/2021

Dyddiad y penderfyniad: 23/03/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/03/2021 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: