Manylion y penderfyniad
Quarter 4 Treasury Management Update 2020/21
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide an update on matters relating to the Council’s Treasury Management Policy, Strategy and Practices to the end of February 2021.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Technegol Dros Dro ddiweddariad ar faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor hyd at ddiwedd Chwefror 2021. Adroddwyd ar sefyllfa’r Cyngor yngl?n â buddsoddiadau a benthyca tymor hir a thymor byr, yn ogystal â diweddariad ar gyd-destun economaidd a’r rhagolygon cyfraddau llog.
Cododd Allan Rainford nifer o bwyntiau yngl?n â’r portffolios buddsoddi a benthyca tymor byr. Eglurodd y Rheolwr Cyllid Technegol Dros Dro fod defnyddio Cronfeydd Marchnad Arian yn helpu i arallgyfeirio buddsoddiadau o fewn rhychwant y strategaeth, a bod buddsoddiadau’n cael eu rheoli bob dydd i wneud yn fawr o’r sefyllfa a chynllunio at y dyfodol.
Wrth ymateb i gwestiwn gan Sally Ellis, eglurwyd fod defnyddio Cronfeydd Marchnad Arian yn bodloni dull darbodus y Cyngor o fuddsoddi – yn enwedig yn ystod sefyllfa’r argyfwng – er mwyn rheoli risg ac elw.
Yngl?n â ffurf yr atodiadau, awgrymodd y Cynghorydd Paul Johnson fod y portffolio buddsoddi yn cynnwys y cyfanswm o’r flwyddyn flaenorol er mwyn eu cymharu a bod y portffolio benthyca tymor byr yn cael ei restru yn nhrefn y dyddiad cychwyn er mwyn gweld y patrwm benthyca drwy gydol y cyfnod. Wrth ymateb i gwestiwn pellach, nid oedd effaith sylweddol ar y llif arian yn deillio o’r sefyllfa frys.
Wrth i’r Aelod Cabinet Cyllid, roedd y Cynghorydd Glyn Banks yn croesawu darganfyddiadau’r adroddiad.
Awgrymodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod swyddogion ynystyried y sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Johnson i nodi ffordd fwy hygyrch o gyflwyno’r wybodaeth.
Cytunai’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a hyn gan ddweud y gellid dangos gwelliannau tebyg yn yr adroddiad canlyniad sydd i ddod yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
Ar y sail hwnnw, cynigiodd y Cynghorydd Paul Johnson gefnogi’r argymhelliad ac fe’i eiliwyd gan Sally Ellis.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod diweddariad chwarter Rheoli Trysorlys 2020/21 yn cael ei gefnogi; a
(b) Bod swyddogion yn ymchwilio i ddewisiadau yngl?n a’r ffordd orau o gyflwyno’r data yn adroddiadau’r dyfodol.
Awdur yr adroddiad: Louise Elford
Dyddiad cyhoeddi: 17/06/2021
Dyddiad y penderfyniad: 24/03/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/03/2021 - Pwyllgor Archwilio
Dogfennau Atodol: