Manylion y penderfyniad

Funding, Flight-Path and Risk Management Framework

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

            Rhoddodd Mr Middleman wybodaeth i’r Pwyllgor ar y pwyntiau canlynol:

 

·         Ar 31 Rhagfyr 2020, roedd gan y Gronfa lefel gyllid o 96%, oedd 4% ar y blaen i’r hyn a ddisgwyliwyd yn y prisiad actiwaraidd diwethaf.

·         Cododd y mater yngl?n ag ansicrwydd y farchnad yn ôl yr eitem agenda flaenorol, a allai effeithio ar prun ai fydd y Gronfa’n bodloni’r elw tymor hir disgwyliedig yn y cynllun ariannu, neu peidio.Er enghraifft, byddai gostyngiad o 0.25% y flwyddyn yn yr elw tymor hir disgwyliedig, yn gostwng y lefel ariannu o 4% yn ôl i 92%.Roedd hyn yn pwysleisio sensitifrwydd i elw a’r effaith posibl ar gyfraniadau cyflogwyr.

·         Roedd y Gronfa mewn sefyllfa dda o ystyried y rheoli risg perthnasol o fewn y llwybr hedfan i roi mwy o allu i ragweld canlyniadau. Er nad yw hyn yn cael gwared ar bob risg, mae’n rhoi lefel dda o amddiffyniad.

 

Gofynnodd Mrs McWilliam a fyddai unrhyw beth yn digwydd pe bai’r Gronfa yn cyrraedd lefel ariannu o 100%.Dywedodd Mr Middleman yn y sefyllfa honno y byddai’n rhaid i’r Gronfa adolygu ei strategaeth ac ystyried “bancio” peth o’r enillion drwy leihau’r risg ymhellach drwy strategaeth fuddsoddi e.e. gostyngiad mewn asedau twf.Bydd hyn yn dibynnu ar nifer o ffactorau, ac fe’u trafodir yn y Gr?p Ariannu a Rheoli Risg a’u gweithredu yn ôl y ddirprwyaeth.  Gallai canlyniad y drafodaeth honno fod yn wahanol pe bai’r lefel ariannu yn gwella i 110% o’i gymharu â lefel ariannu o 101% dyweder.

 

            Nododd Mr Latham fod y Gronfa wedi llwyddo i gyrraedd targedau gyda risg cymharol isel a gofynnodd i Mr Middleman a oedd hyn yn sylw teg.Cadarnhaodd Mr Middleman a dywedodd fod strategaeth y Gronfa yn llawer mwy ymwybodol o risg na nifer o gronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.Elfen hanfodol y fframwaith llwybr hedfan oedd monitro’r risg mewn ffordd fwy strwythuredig a sefydlogi a chyflawni targed y Gronfa.Roedd rhedeg y Gronfa ar risg isel wedi bod yn llwyddiant, ond er mwyn amddiffyn rhag ochr negyddol bydd yn rhaid ildio peth o’r ochr gadarnhaol, ond ym marn Mr Middleman, mae agwedd y Gronfa yn un gywir yn y tymor hir.

 

            Gofynnodd Mr Everett am ffigurau diweddaraf y lefelau ariannu.Eglurodd Mr Middleman fod y lefel ariannu yn debyg iawn i 31 Rhagfyr 2020 h.y. wedi ei ariannu 96%.Caiff hyn ei adolygu bob mis fel arfer.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â chyllido a’r cynnydd a wnaed ar y gwahanol elfennau o'r Fframwaith Rheoli Risg.

 

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 21/05/2021

Dyddiad y penderfyniad: 10/02/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/02/2021 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: