Manylion y penderfyniad

Investment and Funding Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Pwysleisiodd Mrs Fielder y sefyllfa gref roedd y Gronfa ynddi ar hyn o bryd a nododd y pwyntiau allweddol canlynol:

 

  • Roedd y gwaith parhaus gyda Buddsoddi Cyfrifol wedi cymryd cryn dipyn o amser Mrs Fielder yn ychwanegol at ei dyletswyddau arferol.
  • Yn dilyn y cyflwyniad a roddwyd i’r Pwyllgor ym mis Tachwedd, bwriedir i’r tîm adrodd wrth y Pwyllgor ym mis Mehefin gyda map ffordd yn amlinellu bwriadau’r Gronfa o ran mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
  • Argymhellodd Mrs Fielder fod y Gronfa yn dod yn aelod cysylltiedig o Penions for Purpose, oedd yn fenter gydweithredol o reolwyr effaith, cronfeydd pensiwn, mentrau cymdeithasol ac eraill oedd yn rhan neu a diddordeb mewn buddsoddiad effaith.Yn ychwanegol at y gwaith mae’r Gronfa yn ei ddatblygu i fynd i’r afael â risg yr hinsawdd, byddai hyn yn cynorthwyo bwriad y Gronfa i fuddsoddi, lle bo modd, yn uno a’r nodau datblygu cynaliadwy. Mae The Good Economy yn gwmni cynghori cymdeithasol, sy’n arbenigo mewn mesur effaith a rheoli ac mae Mrs Fielder wedi bod yn rhan o rai o’u gweithgorau nhw hefyd.
  • Mae Mrs Fielder hefyd wedi bod yn rhan o sawl cyfarfod gydag aelodau Gwasanaethau Ynni Llywodraeth Cymru ac mae wedi cynnwys rheolwyr allanol y Gronfa allai gynnig canllawiau a chymorth ar rai o’r prosiectau unigol.
  • Mae Bwrdd Cynghori’r Cynllun wedi creu gr?p cynghori ar fuddsoddi cyfrifol sy’n cynnwys detholiad o Reolwyr Cronfa, Ymgynghorwyr a chynrychiolwyr o Gronfeydd a grwpiau awdurdod gweinyddu allweddol y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Penodwyd Mrs Fielder yn gynrychiolydd cronfeydd Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol Cymru.Mae Mr Buckland hefyd wedi ei benodi ar ran Mercer.
  • Mae’r Gronfa wedi bod yn rhan o’r Sefydliad Effaith a lansiwyd yn 2019 gyda'r bwriad o gyflymu'r twf a gwella effeithlonrwydd effaith y farchnad buddsoddiad effaith yn y DU ac yn rhyngwladol.Maen nhw wedi datblygu pedair egwyddor arweiniol ar gyfer cynlluniau pensiwn ac argymhellir fod y Gronfa yn mabwysiadu’r egwyddorion hyn gan eu bod wedi eu alinio i Bolisi Buddsoddi Cyfrifol y Gronfa.
  • O ran y Cyfrifoldebau Dirprwyedig, mae’r Gronfa yn dal a llif arian cadarnhaol.Mae Mercer a’r Gronfa wedi cydweithio a chafodd £15 miliwn ei ymrwymo i reolwr Ecwiti Preifat, Livingbridge.

 

Ychwanegodd Mr Latham ei fod wedi derbyn gwahoddiad i gyfarfod gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yngl?n â phenderfyniad i dynnu nôl o fuddsoddi mewn tanwyddau ffosil a buddsoddi mewn buddsoddiadau lleol. Roedd y Cynghorydd Williams yn ymwybodol o hyn.

 

O ran Gwasanaethau Ynni Llywodraeth Cymru, gofynnodd Mr Everett beth allai’r Gronfa ddisgwyl o ran amserlen.Dywedodd Mrs Fielder nad oedd hi’n sicr ar hyn o bryd.Nododd nad oes gan y Gronfa yr arbenigedd ac nad yw wedi ei harfogi i ddadansoddi’r prosiectau unigol ei hun, o ystyried fod y gwaith yn cael ei gwblhau drwy reolwr buddsoddi fel arfer. Gwnaeth Mrs Fielder sylw y gallai rhai o reolwyr presennol y Gronfa hwyluso hyn ond y byddai’n rhaid i’r gronfa weithio gyda Phartneriaeth Pensiynau Cymru yn hyn o beth.

 

            Holodd y Cynghorydd Bateman a oedd unrhyw sôn am b?er niwclear ar Ynys Môn yn y trafodaethau.Ymatebodd Mrs Fielder na all drafod unrhyw fanylion am brosiectau unigol.          

Nododd y Cadeirydd fod cyswllt y Gronfa ar lefel genedlaethol yn wych yngl?n â’r amrywiol fentrau Buddsoddiad Cyfrifol, sy’n amlwg yn mynd i fod o fudd i’r Gronfa drwy fod ar flaen y gad gyda’r syniadau diweddaraf.

                                      

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Pwyllgor yn ystyried a nodi’r diweddariad ar gyfrifoldebau dirprwyedig.

(b)  Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo diweddariad y geiriad ar gyfer rheoli arian i’w gynnwys yn y Datganiad Strategaeth Buddsoddi fel y’i hamlinellir ym mharagraff 1.01.

(c)  Cymeradwyodd y Pwyllgor ddod yn aelod cysylltiedig o Pensions for Purpose fel yr amlinellir ym mharagraff 1.05 a mabwysiadu’r amcanion Sefydliad effaith fel yr amlinellir ym mharagraff 1.06.

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 21/05/2021

Dyddiad y penderfyniad: 10/02/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/02/2021 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: