Manylion y penderfyniad

End of Year Performance Monitoring Report

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

To review the levels of progress in the achievement of activities, performance levels and current risk levels as identified in the Council Plan.

Penderfyniadau:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad mewn fformat newydd diwygiedig.  Dywedodd fod monitro’r gwasanaethau yn gadarnhaol yn bennaf ond bu’n flwyddyn heriol ac nad oedd cyflawni rhai gwasanaethau wedi cwrdd â’u targedau ond bod Gwasanaethau Oedolion a Phlant wedi bod yn wydn iawn ac wedi darparu lefelau da iawn o wasanaeth o ystyried amgylchiadau’r pandemig.

 

            Roedd yr Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu wedi ehangu ar y dangosydd plant a adroddwyd oedd wedi rhedeg i ffwrdd.  Eglurodd fod gan Sir y Fflint bellach weithiwr ymroddedig oedd yn cwrdd â’r bobl ifanc i ganfod ble yr oeddent wedi bod a beth oeddent wedi bod yn ei wneud ac i gynnwys cynllun rheoli risg o amgylch y plentyn unigol.  Roedd hefyd yn helpu i ddatblygu darlun yngl?n â ble yr oeddynt yn ymgynnull gyda’i gilydd a ble bo’n briodol, roedd gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda’r Heddlu.    Roedd y dangosydd yn dangos bod ychydig llai na 75% o blant wedi cael cyfweliad ac roedd data nawr yn cael ei chasglu i ddangos y sawl oedd wedi cael cynnig cyfweliad ond oedd wedi gwrthod rhoi gwell dangosydd.

 

            Mewn ymateb i faterion a godwyd gan y Cynghorydd Ellis, eglurodd yr Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu eu bod wedi parhau i recriwtio Gofalwyr Maeth drwy’r pandemig ac y byddai targedau wedi eu cyrraedd ond effeithiwyd arnynt gan faterion amseru gyda chyfarfod y Panel ym mis Ebrill.  Os byddai’r Panel wedi cyfarfod ym mis Mawrth, byddai’r targedau wedi eu cyflawni.

 

            Eglurodd mewn perthynas â’r cyfarfodydd Gr?p Teulu, roedd y galw wedi cynyddu yn ystod y pandemig - y targed oedd cefnogi 280 o deuluoedd ac roedd 382 o deuluoedd wedi eu cefnogi mewn gwirionedd.  Oherwydd y cynnydd yn y galw, roedd gwaith wedi’i wneud i ehangu’r gwasanaeth.

 

            Roedd Amddiffyn Plant yn dangos yn oren oherwydd y ffaith eu bod 1% i ffwrdd o’u targed.  Ychwanegodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu eu bod yn 94.14% a bod y targed yn 95% ac roedd chwarter 3 yn cyd-daro â chyfnod y Nadolig a allai fod yn amser heriol i gysylltu â theuluoedd.    Ymatebodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) i’r pwynt olaf yn ymwneud â’r materion ar duedd ar i lawr mewn adroddiad a bod hyn yn rhannol oherwydd y pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau oherwydd y pandemig ond roedd angen cynnal perfformiad ac na allent ddefnyddio hyn fel rheswm ar gyfer popeth.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey a oedd y 75% o’r rhai oedd wedi rhedeg i ffwrdd y rhai oedd wedi dychwelyd.    Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu fod pob plentyn sy’n rhedeg i ffwrdd yn dychwelyd ond roedd yn rhaid eu nodi ar goll os nad oeddent yn dychwelyd ar adegau penodol, hyd yn oed os oedd rhywun yn gwybod ble’r oedden nhw.  Roedd 75% ohonynt yn derbyn cyfweliad i siarad am ble’r oeddent wedi bod, y risgiau yr oeddynt yn destun iddynt a phwysigrwydd cadw at ffiniau.    Y 25% arall oedd y rhai oedd wedi gwrthod cael cyfweliad.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y byddai’n adborth y sylwadau i’r tîm a wnaed gan y Cynghorydd Mackie am hwylustod dilyn adroddiad a diolchodd y Pwyllgor i’r Tîm SPOA mewn perthynas â sut yr oeddent wedi delio gyda’r cynnydd sylweddol yn y galw i’r gwasanaeth.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Gladys Healey yr argymhelliad yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Ellis.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones

Dyddiad cyhoeddi: 04/05/2022

Dyddiad y penderfyniad: 01/07/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 01/07/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Dogfennau Atodol: