Manylion y penderfyniad

Recovery Strategy (Planning, Environment & Economy Portfolio)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide oversight on the recovery planning for the Committee’s respective portfolio(s).

Penderfyniadau:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) a rhoddodd ddiweddariad rheolaidd ar strategaeth adfer y portffolio a blaenoriaethau adfer yn dilyn y pandemig. Amlygwyd y prif amcanion yn yr adroddiad, a oedd yn cynnwys meysydd parcio mewn safleoedd cyrchfan fel Parc Gwepra a Thalacre a'r goblygiadau o ran ailagor busnesau nad ydynt yn hanfodol, adeiladau trwyddedig a lletygarwch.  Cyfeiriodd y Prif Swyddog at yr arolwg Clefyd Coed Ynn gan adrodd ar y bwriad i dynnu coed ar yr A541 Wyddgrug – Dinbych. Byddai’n rhaid cau’r ffordd am ddiwrnod wrth ddefnyddio’r offer sy'n tynnu coed i lawr ar unwaith, gan leihau aflonyddwch i'r cymunedau lleol. Byddai adroddiad yn cael ei ddychwelyd i’r pwyllgor ar hyn.  Yna tynnodd y Prif Swyddog sylw a darparu gwybodaeth am y risgiau i'r pwyllgor. 

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom at eitem 1.01 yn yr adroddiad a gofynnodd beth oedd ystyr trefniadau trosglwyddo.   Yna cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom at y Gr?p Strategaeth Cynllunio a oedd, yn ei farn o, yn becyn cymorth pwysig iawn, yn seiliedig ar aelodau etholedig. Awgrymodd y byddai’n ddefnyddiol adolygu’r strwythur hwnnw yn yr hinsawdd sydd ohoni. Yna cyfeiriodd at y Cynllun Datblygu Lleol a gofynnodd am ddiweddariad ar ble roeddem ni o ran hyn ac a allai bellach fynd yn ei flaen. Adroddodd y Cynghorydd Heesom ar yr anawsterau hirsefydlog i gysylltu â staff cynllunio, gydag unrhyw newyddion ar welliannau i'w croesawu'n fawr.

Mewn ymateb, cyfeiriodd y Prif Swyddog at dudalen 69 a gwrandawiad y Cynllun Datblygu Lleol, a oedd i fod i gychwyn ym mis Chwefror ond a oedd wedi ei ohirio ddwy waith, ond a oedd bellach i fod i ddechrau ar 13 Ebrill.Yr unig reswm am yr oedi oedd am nad oedd yr Arolygiaeth ar gael.  Yna cyfeiriodd y Prif Swyddog at gylch gorchwyl y Gr?p Strategaeth Cynllunio a adolygwyd yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol diwethaf.Dwy swyddogaeth y gr?p hwn oedd arwain gwaith cynhyrchu'r Cynllun Datblygu Lleol, a delio ag unrhyw faterion mewn perthynas â'r broses gynllunio statudol. Nid oedd y Cylch Gorchwyl wedi newid dros y pedair blynedd diwethaf. Yr hyn a oedd wedi newid oedd bod y ffocws yn bennaf ar ddelio â'r Cynllun Datblygu Lleol ac roedd yn teimlo ei fod wedi treulio ei amser yn briodol ers i'r cylch gorchwyl gael ei ddiwygio. O ran cyfathrebu â'r portffolio Cynllunio, adroddodd ar e-bost a oedd yn cael ei anfon at yr holl Aelodau yr wythnos hon a fyddai, gobeithio, yn lleddfu pryderon aelodau.  Yna cyfeiriodd y Prif Swyddog at y trefniadau trosglwyddo ar gyfer adferiad a nododd fod y Cyngor mewn cyfnod ymateb 12 mis yn ôl pan oedd cyfnod clo Covid yn weithredol. Cafodd meysydd critigol eu blaenoriaethu gyda'r swyddogion hynny sy'n hanfodol i ddarparu gwasanaeth. Adroddodd ar swyddogion o fewn rolau diogelu Cymuned a Busnes a symudwyd i gefnogi ymateb Covid. Fodd bynnag, eglurodd na ddaeth yr un gwaith arall i ben, yn hytrach roedd yn achos o newid y ffordd yr ymgymerwyd â'r gwaith mewn ymateb i Covid 19. Yna, cyfeiriodd y Prif Swyddog at y pwynt ynghylch anawsterau wrth recriwtio staff mewn perthynas â Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd ac na fu unrhyw anawsterau wrth recriwtio unrhyw aelodau eraill o staff.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Joe Johnson a’u heilio gan y Cynghorydd Owen Thomas, a'r Cynghorydd Heesom yn ymatal.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn goruchwylio'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â chynllunio adferiad ar gyfer y portffolio Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi.

(b)       Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys y gofrestr risg portffolio wedi'i diweddaru a’r camau lliniaru.

Awdur yr adroddiad: Andrew Farrow

Dyddiad cyhoeddi: 07/02/2022

Dyddiad y penderfyniad: 09/03/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 09/03/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Accompanying Documents: