Manylion y penderfyniad

Recovery Strategy Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide oversight on the recovery planning for the Committee’s respective portfolio(s).

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad i roi cipolwg ar y cynllunio adferiad ar gyfer meysydd portffolio’r Pwyllgor. Cafodd diweddariad am gofrestr risg y portffolio a chamau i liniaru risg eu atodi i’r adroddiad.Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd bod y pwysau ar y Gwasanaethau Cymdeithasol yn sgil y pandemig wedi gwella’n ddiweddar. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y prif ystyriaethau fel y manylir ym mharagraff 1.05 yr adroddiad. 

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y gofrestr risg sydd wedi’i atodi i’r adroddiad hwn. Gan gyfeirio at risg SS01 yngl?n â gwariant ar leoliadau y tu allan i’r sir, fe soniodd am y cymhlethdodau sy’n rhan ohono.Gan gyfeirio at risg SS11 sy’n ymwneud ag amharodrwydd i fodloni anghenion cleifion sy’n cael eu rhyddhau o’r ysbyty, dywedodd fod y gwasanaeth wedi gwella llawer ac roedd swyddogion wedi gweithio’n galed i ddod o hyd i ddatrysiadau cyflym ac ymatebol i’r broblem.

 

Dywedodd y Prif Swyddog bod nifer o wasanaethau wedi cael eu cynnal trwy gydol y pandemig ac fe soniodd am enghreifftiau o wasanaethau diogelu, gwasanaethau ar gyfer plant diamddiffyn a phlant sy’n derbyn gofal, gwasanaethau plant, Mockingbird, datblygu DMST, datblygu Marleyfield, a gwasanaethau iechyd meddwl. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog a gofynnodd bod diolch y Pwyllgor yn cael ei basio i’w dîm am eu gwaith caled ac ymroddiad trwy gydol y pandemig.

 

Gan gyfeirio at Raglen Brechu rhag Covid-19 gofynnodd y Cadeirydd a oedd cyflenwad o’r brechlyn ar gael yn y cartrefi gofal a nyrsio er mwyn i staff cymwys yn y cartrefi roi ail frechlyn i breswylwyr a staff. Fe siaradodd y Prif Swyddog am lwyddiant cyflenwi a gweithredu’r rhaglen frechu yng Nghymru ac yn lleol yn Sir y Fflint. Dywedodd yr Uwch-reolwr – Diogelu a Chomisiynu bod yr ystadegau ar gyfer yr ail ddos o frechlyn i breswylwyr yn y cartrefi gofal eisoes yn 85% a mwy.Fe eglurodd mai’r bwriad yw rhoi yr ail ddos i holl staff iechyd a gofal cymdeithasol, gweddill y preswylwyr yn y cartrefi gofal a nyrsio, a’r grwpiau blaenoriaeth sy’n weddill.Fe ddywedodd hi hefyd fod y rhaglen frechu yn datblygu’n dda.

 

Mynegodd y Cynghorydd Carol Ellis bryder bod yna brinder o frechlyn yng Nghymru ac anghysonderau yn y rhaglen frechu.Dywedodd y Cadeirydd fod yna anghysonderau rhwng meddygfeydd a’r ganolfan frechu yng Nghanolfan Frechu Glannau Dyfrdwy a gofynnodd a oedd modd rhoi gwybod i’r Gr?p Brechu Strategol.Dywedodd yr Uwch-reolwr – Diogelu a Chomisiynu bod amhariad wedi’i gynllunio i’r cyflenwad o frechlyn yn ystod y pythefnos diwethaf, ond yr wythnos nesaf, byddai de Sir y Fflint yn rhoi 5000 o frechlynnau’r wythnos, byddai Gogledd Ddwyrain Sir y Fflint yn rhoi 1000 a Gogledd Orllewin Sir y Fflint yn rhoi 3000. 

 

Gan ymateb i bryder gan y Cynghorydd Davie Mackie am risg SS08 (methiant Clipper Finance System oherwydd oedran y feddalwedd a’i anghydweddiad gyda thechnoleg gweinyddion newydd) fe eglurodd y Prif Weithredwr bod gwaith yn mynd yn ei flaen i ailosod y system bresennol a oedd yn hen system, gyda system arall oedd yn gysylltiedig â system WCIS.   

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dave Mackie i gefnogi’r argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y gofrestr risg diweddaraf a’r camau gweithredu lliniaru ym mhortffolio Gwasanaethau Cymdeithasol a gafodd eu hatodi i’r adroddiad yn cael eu nodi.

 

 

Awdur yr adroddiad: Neil Ayling

Dyddiad cyhoeddi: 05/10/2021

Dyddiad y penderfyniad: 04/03/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 04/03/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: