Manylion y penderfyniad

Strategic Housing and Regeneration Programme (SHARP) Update Report

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes

Diben:

To provide an update on progress of the Councils SHARP Housebuilding programme.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd rhaglen adeiladu tai y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol ar gyfer eiddo Cymdeithasol, Rhent Fforddiadwy a Rhannu Ecwiti.

 

            Roedd yr adroddiad hefyd yn sôn am newidiadau yn yr angen o ran tai, a’r sail resymegol dros adolygu ac addasu’r mathau o ddeiliadaeth ar gyfer datblygu eiddo yn y dyfodol. Roedd yr adroddiad hefyd yn trafod y llwybrau cyflenwi ategol yr ymwneir â nhw ochr yn ochr â Chartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru, yn cynnwys caffael eiddo Adran 106, Pecynnau Dylunio ac Adeiladu ac argaeledd Cytundeb Fframwaith Adeiladu Tai Gogledd a Chanolbarth Cymru.

 

Sir y Fflint oedd un o’r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i ddechrau adeiladu tai cymdeithasol a fforddiadwy drwy ei Raglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) gyda'r nod o ddarparu hyd at 500 o eiddo Cymdeithasol ar Rent newydd gan y Cyngor ac eiddo newydd ar Rent Fforddiadwy dros gyfnod o bum mlynedd, ynghyd â nifer o flaenoriaethau strategol economaidd ac adfywio ehangach.

 

Mae’r Cyngor yn y broses o ddarparu 447 o gartrefi newydd yn Sir y Fflint, ac mae hefyd wedi darparu 148 o gartrefi newydd eraill y tu hwnt i SHARP, sy’n gyflawniad arwyddocaol ac mae wedi creu capasiti ychwanegol yn y farchnad dai.

 

Cafodd y rhaglenni adeiladu eu hysgogi o ganlyniad i’r angen o ran tai ac mae tua 1,900 o aelwydydd ar gofrestr Un Llwybr Mynediad at Dai ar hyn o bryd, gyda’r galw mwyaf mewn ardaloedd yn Yr Wyddgrug, Mynydd Isa, Bwcle, Cei Connah, Y Fflint, Queensferry a Shotton.  

 

Tai Teg sy’n rheoli’r Gofrestr Tai Fforddiadwy ar ran y Cyngor ac ar hyn o bryd mae 120 o ymgeiswyr wedi cofrestru i brynu a 216 wedi cofrestru i rentu. Mae cyfanswm o 54 aelwyd ar y gofrestr tai arbenigol ar hyn bryd, gyda 47 ohonynt angen eiddo wedi’i addasu a saith ohonynt angen eiddo sydd â phedair neu ragor o ystafelloedd gwely.

 

Mewn perthynas â Chronfa Rhyddhau Tir Llywodraeth Cymru, bu’r Cyngor yn llwyddiannus yn ei gais am gyllid gwerth cyfanswm o £213,000 yn ymwneud â dau safle yng Nghei Connah sy’n safleoedd segur ar hyn o bryd. Mae astudiaethau desg a gwaith ymchwiliad tir yn cael eu gwneud ar hyn o bryd i weld a fyddai’r safleoedd hynny’n hyfyw.

 

Bu Tîm y Rhaglen Dai yn datblygu fframwaith rhanbarthol ar gyfer adeiladu tai a byddant yn ceisio darparu tai newydd yn y dyfodol drwy'r cwmnïau adeiladu rhanbarthol yng Nghymru. Mae’r broses dendro wedi ei chwblhau ac mae’r Cyngor yn cysylltu â chwmnïau ac yn trafod prosiectau sydd ar gweill yn y dyfodol.

 

Mae cyllideb flynyddol o £121,000 ar gyfer gwaith ymchwilio ac astudiaethau dichonoldeb yn y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol a bydd yr adroddiad yn ceisio defnyddio hwn er mwyn cynorthwyo i gyflwyno cynlluniau gan ddefnyddio'r fframwaith adeiladu newydd.

 

Gwnaeth y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) sylw ar nifer yr unedau y llwyddwyd i’w darparu hyd yma.

 

            Croesawodd yr aelodau’r adroddiad gan nodi mai canlyniad y bleidlais dai a gynhaliwyd yn 2012 oedd y canlyniad cywir, a bod yr adroddiad hwn yn brawf o hynny.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r cynnydd yn y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol;

 

 (b)      Cymeradwyo’r defnydd o lwybrau cyflenwi ar gyfer cartrefi cymdeithasol newydd a chartrefi newydd ar rent fforddiadwy gan gynnwys Cytundeb Fframwaith Adeiladu Tai Gogledd a Chanolbarth Cymru; a

 

 (c)       Chymeradwyo ailddyrannu cyllideb o £121,000 ar gyfer gwaith ymchwilio cynlluniau a gwaith dichonoldeb i gefnogi llwybrau cyflenwi newydd.

 

Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine

Dyddiad cyhoeddi: 01/11/2021

Dyddiad y penderfyniad: 16/02/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/02/2021 - Cabinet

Yn effeithiol o: 25/02/2021

Dogfennau Atodol: