Manylion y penderfyniad

School Improvement and Examinations 2021 Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

To consider School Improvement and update on proposals for Examinations in 2021

Penderfyniadau:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad Diweddaru Gwella Ysgolion ac Arholiadau 2021 a chroesawodd y swyddogion GwE canlynol i’r cyfarfod, a fyddai’n cynorthwyo i gyflwyno’r adroddiad:-

 

  • Mr. Martyn Froggett, Arweinydd Craidd Uwchradd Sir y Fflint
  • Mr. David Edwards, Arweinydd Craidd Cynradd Sir y Fflint
  • Mrs. Gaynor Murphy, Ymgynghorydd Gwella Uwchradd 
  • Mrs. Vicky Lees, Ymgynghorydd Gwella Cynradd

 

Soniodd y Prif Swyddog am yr adroddiad Dysgu Cyfunol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr ac eglurodd fod yr adroddiad hwn yn rhoi trosolwg ehangach o’r gefnogaeth roedd y gwasanaeth rhanbarthol wedi’i darparu i bob awdurdod lleol yn ystod y sefyllfa argyfwng. Roedd y canolbwynt wedi bod ar les dysgwyr, cymunedau ysgol a staff, a oedd wedi helpu i lunio a chynnal y canolbwynt ar welliant ysgol ym mhob ysgol wrth ddarparu cefnogaeth yn ystod y pandemig.  

 

Rhoddodd y Prif Swyddog drosolwg o’r gefnogaeth a ddarparwyd ar gyfer sgiliau craidd llythrennedd a rhifedd a’r cynllun datblygu proffesiynol a ddarparwyd gan GwE er mwyn i athrawon a chymorthyddion dosbarth sicrhau dysgu o safon yn yr ystafell ddosbarth neu drwy ddysgu digidol o bell.  

 

Cafwyd cyflwyniad manwl am y Rhaglen Dysgu Carlam, a oedd yn trafod y meysydd canlynol:-

 

  • Cyd-destun - llythrennedd a rhifedd, darparu a chynnal addysgu o ansawdd uchel ar draws y cwricwlwm gydag ymyriadau strwythuredig, o ansawdd uchel wedi’u targedu;
  • Cyflymu’r dysgu;
  • Cynradd – enghreifftiau o ddilyniannau dysgu, adolygiadau tystiolaeth a strategaethau addysgu a dysgu;
  • Cyflymu’r dysgu yn y Sector Uwchradd;
  • Pecyn Gwaith Llythrennedd;
  • Cynnig Llythrennedd wedi’i Dargedu;
  • TGAU Saesneg Iaith – Casgliadau, Cyflymu;
  • Mathemateg GwE;
  • Effaith

 

Gan ymateb i sylw gan y Cynghorydd Ian Smith, cytunwyd bod copi print mwy o’r model sgiliau carlam, a ddangoswyd fel rhan o’r cyflwyniad, yn cael ei ddosbarthu i’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.

 

            Diolchodd Mr David Hytch i swyddogion am yr adroddiad a’r cyflwyniad, roedd yn teimlo eu bod yn llawn gwybodaeth a soniodd am gydlynu a chydweithredu cadarnhaol rhwng yr awdurdod lleol, ysgolion a GwE. Soniodd am yr ymatebion i arolygon unigol, fel a ddangoswyd yn yr atodiad i’r adroddiad, a holodd a oedd hyn yn ymwneud â Chymru gyfan yn hytrach na dim ond Sir y Fflint, ac awgrymodd y dylid amlygu yn yr adroddiad fod lles disgyblion a staff o’r flaenoriaeth uchaf. Soniodd hefyd am y straen enfawr roedd ysgolion yn ei deimlo o ran sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng gwelliant ysgol a blaenoriaethu lles staff a dysgwyr, fel a nodwyd yn yr adroddiad, ac er ei fod yn croesawu’r ffaith fod ymgynghorwyr yn ceisio gwirio ansawdd dysgu, dan yr amgylchiadau, roedd yn gobeithio y byddai’r pwysau sydd ar ysgolion yn cael ei ystyried. Dywedodd y Prif Swyddog nad eu bwriad oedd rhoi pwysau ychwanegol ar ysgolion, ond roedd gan yr awdurdod lleol gyfrifoldeb dros safonau mewn ysgolion ac roeddent yn ymgysylltu’n rheolaidd gydag Estyn. Rhoddodd sicrwydd i Aelodau nad oedd pwysau ychwanegol yn cael ei roi ar ysgolion, roedd yn achos o fonitro’r sefyllfa ac addasu cefnogaeth yn unol â hynny.  

 

            Eglurodd Mr. Froggett nad oedd yn bosibl cynnal y safon arferol o ran sicrhau ansawdd a chadarnhaodd fod y canolbwynt ar gefnogi ysgolion yn ystod amser anodd, gyda’r flaenoriaeth ar les. Roedd trafodaethau wedi’u cynnal gyda Phenaethiaid a rôl GwE oedd lliniaru eu pryderon a’u cefnogi trwy’r argyfwng. Roedd Mr. Edwards yn cefnogi’r sylwadau a rhoddodd enghreifftiau o sesiynau byw a ddarparwyd ar gais ysgolion.     

 

            Gan ymateb i gwestiwn gan Mrs Bartlett, amlinellodd y Prif Swyddog bwysigrwydd darparu cefnogaeth i rieni a dywedodd fod GwE wedi bod yn rhagweithiol o ran y mater hwn wrth roi cyngor i ysgolion o ran sut ddylai cynnig dysgu cyfunol effeithiol edrych.  Roedd dogfen wedi’i darparu i ysgolion a oedd yn darparu canllaw o ran cyfathrebu â rhieni i ddarparu sicrwydd. Soniodd Mrs. Gaynor Murphy am fideos a ddarparwyd i ysgolion eu rhannu gyda rhieni i’w cynorthwyo i gefnogi eu plant gyda llythrennedd sylfaenol. Diolchodd Mrs. Bartlett i swyddogion am eu hymateb a soniodd am ei phrofiad personol ei hun a’r ffordd gadarnhaol roedd ysgolion wedi addasu yn ystod y sefyllfa argyfwng, ond mynegodd bryderon am les athrawon a rhieni.

 

            Soniodd y Cynghorydd Dave Mackie am gefnogaeth llythrennedd a rhifedd a gofynnodd a oedd hyn yn ychwanegol at gefnogaeth bresennol. Soniodd hefyd am ddysgu carlam a gofynnodd a oedd hyn yn golygu bod tasgau’n cael eu cwblhau mewn cyfnod byrrach, ac a oedd yn gwella argaeledd deunyddiau. Atebodd Mrs. Lees fod y Rhaglen Dysgu Carlam yn rhoi adnoddau i ysgolion fesur lle roedd disgyblion o ran eu dysgu ar-lein er mwyn cynorthwyo pan fyddent yn dychwelyd i ddysgu wyneb i wyneb mewn ysgolion. Roedd y Rhaglen yn cryfhau sgiliau llythrennedd a rhifedd a darparu cefnogaeth i helpu’r disgyblion i ddangos cynnydd.

 

            Diolchodd y Cadeirydd i GwE am y ffordd yr oeddent wedi ymateb i’r sefyllfa argyfwng ac am y pecynnau cefnogaeth a ddarparwyd i ysgolion a rhieni, a oedd wedi’u hategu gan les myfyrwyr. Rhoddodd sylwadau am yr her i GwE o ran cysylltu ag ysgolion i greu graddau ar gyfer TGAU a Lefel A, a gofynnodd a fyddai angen sefyll y profion darllen a rhifedd cenedlaethol o hyd. Ymatebodd y Prif Swyddog trwy ddweud bod heriau sylweddol o’n blaenau, a dyma pam roedd cydweithio mewn ysgolion yn allweddol o ran nodi ffynonellau tystiolaeth i seilio’r farn honno arnynt a chaiff hyn ei rannu gyda disgyblion a rhieni. Byddai’r wybodaeth hon yn dryloyw iawn, a byddai dysgwyr yn ymwybodol o’r dyddiad pan oedd rhaid cyflwyno’r asesiadau terfynol.Roedd Cymwysterau Cymru yn gweithio i ddarparu canllawiau ar hyn. Roedd yn her sylweddol i ysgolion a byddai GwE yn darparu cefnogaeth strwythuredig ond yr ysgolion fyddai’n gwneud y penderfyniadau hyn, nid GwE. Cadarnhaodd Mrs. Lees fod Asesiadau Personol Cenedlaethol ar gyfer Darllen a Rhifedd Llywodraeth Cymru yn dal i fod yn fyw, ac roedd ysgolion yn gallu cael mynediad i gyfrif pob plentyn, ond nid oedd gofyniad i ysgolion gynnal y profion hyn yn ystod y sefyllfa bresennol. Cadarnhaodd y Prif Swyddog fod y canllawiau hyn wedi’u dosbarthu trwy’r Ffederasiwn Penaethiaid a chadarnhaodd Mr. Edwards hefyd fod pob ysgol wedi cael gwybod y gallent ddefnyddio’r profion hyn at ddibenion diagnostig, fel bo’n briodol.  

 

            Soniodd y Cynghorydd Mackie am yr amryw ddewisiadau hyfforddiant sydd ar gael i athrawon trwy GwE ac awgrymodd y gallai gwybodaeth gael ei chynnwys yn adroddiadau’r dyfodol am faint o athrawon oedd wedi cymryd rhan yn y sesiynau hyfforddiant, eu hadborth am y sesiynau hyfforddiant, a faint o sesiynau hyfforddiant oedd wedi’u cynnal. Soniodd hefyd am ddisgyblion nad oeddent yn ymgysylltu a gofynnodd pa gefnogaeth ychwanegol oedd yn cael ei darparu i gynorthwyo disgyblion i ail-ymgysylltu a sut, pa gefnogaeth fyddai’n cael ei darparu i atal y disgyblion hyn rhag bod gormod ar ei hôl hi pan fyddant yn dychwelyd i ddysgu wyneb i wyneb mewn ysgolion. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y Cynnig Dysgu Proffesiynol a oedd wedi’i ddarparu fel rhan o’r adroddiad, a oedd yn galluogi’r Pwyllgor i weld amrywiaeth a dyfnder cyrsiau dysgu proffesiynol a oedd yn cael eu cynnig i ysgolion.  Soniodd Mr. Froggett am y nifer o gyfleoedd hyfforddiant sydd ar gael a’r Rhaglenni Cenedlaethol fel MPQH ac arweinyddiaeth ganol, a oedd wedi ailddechrau’n ddiweddar, gyda nifer fawr o bobl yn cofrestru yn Sir y Fflint. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai ysgolion yn ymgysylltu â pha bynnag agwedd ar gefnogaeth roeddent yn teimlo oedd ei hangen arnynt ac eglurodd fod y cynnig dros y we hefyd yn golygu bod yr hyfforddiant yn fwy hygyrch a’i bod i fyny i ysgolion drafod â’r Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant i ymgysylltu ag unrhyw raglenni roeddent yn teimlo bod eu hangen arnynt.

 

            Rhoddodd Arweinydd y Cyngor sylwadau am yr amrywiaeth o dechnegau oedd yn cael eu defnyddio gan athrawon i ymgysylltu â phobl ifanc yn ystod y sefyllfa argyfwng a dywedodd y byddai angen gweithgareddau chwarae strwythuredig er mwyn caniatáu i ddisgyblion ddatblygu’n academaidd a chymdeithasol. Mynegodd bwyll o ran y disgwyliadau sy’n cael eu rhoi ar bobl ifanc, yn enwedig plant iau a fyddai angen addasu i strwythur yr ysgol unwaith eto, a dywedodd fod angen asesu pob person ifanc er mwyn canfod eu hanghenion.  Roedd wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg fel Llefarydd Addysg CLlLC, i ofyn am adnoddau ychwanegol i fodloni cost cefnogaeth ychwanegol ofynnol. 

            Canmolodd Mrs. Wendy White y pecynnau hyfforddiant a ddarperir yn Sir y Fflint a darparodd wybodaeth am hyfforddiant a datblygu arweinwyr a oedd yn cael ei ddarparu mewn Ysgolion Catholig, a bod hyn ar gael i unrhyw athro neu aelod staff cyswllt.  Roedd y rhaglen hon yn bodoli ar draws esgobaeth y gogledd orllewin ac roedd ar gael ar-lein, gyda chanolbwynt ar ddatblygu pobl sy’n dod i mewn i Ogledd Cymru, yn enwedig o ran rheoli talent, er mwyn amlygu beth oedd gan Gymru i’w gynnig yn eu hysgolion gwych. Roedd hyn yn gweithio mewn undod â Sir y Fflint.

 

            Siaradodd Mrs Bartlett i gefnogi’r sylwadau a wnaeth Arweinydd y Cyngor, a dywedodd ei bod yn falch iawn bod y canolbwynt yng Nghymru wedi bod ar les a pheidio â gadael i’r plant hyn feddwl eu bod wedi methu. Roedd yn teimlo y dylid llongyfarch disgyblion am sut roeddent wedi datblygu ffyrdd newydd o ddifyrru eu hunain, cefnogi eu teuluoedd, datblygu diddordebau newydd a datblygu eu sgiliau TG yn ystod y pandemig hwn.  

 

Cafodd yr argymhellion a amlinellir yn yr adroddiad, gan gynnwys y geiriad ychwanegol sy’n nodi bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r amrywiaeth o gefnogaeth a ddarperir gan GwE, fel a awgrymodd y Cadeirydd, eu cynnig gan y Cynghorydd Paul Cunningham a’u heilio gan Mrs Lynne Bartlett.               

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)     Bod y Pwyllgor yn cadarnhau ei fod wedi gallu craffu’n effeithiol ar waith GwE o ran eu modd o ddarparu gwasanaethau gwella ysgol i ysgolion Sir y Fflint yn ystod pandemig Covid-19;

 

(b)     Bod y Pwyllgor yn cydnabod a chymeradwyo’r amrywiaeth helaeth o gefnogaeth a ddarperir gan GwE i alluogi ysgolion i newid eu modelau darpariaeth addysgol yn gyflym ac effeithiol i ymateb yn uniongyrchol i bandemig Covid-19; ac

 

(c)     Bod y Pwyllgor yn cydnabod y gwaith partneriaeth effeithiol rhwng GwE a’r Portffolio Addysg i sicrhau bod ysgolion Sir y Fflint yn cael cefnogaeth amserol o ansawdd uchel mewn cyfnod digynsail o ran newid a phryder.

 

Awdur yr adroddiad: Claire Homard

Dyddiad cyhoeddi: 07/06/2021

Dyddiad y penderfyniad: 28/01/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/01/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Dogfennau Atodol: