Manylion y penderfyniad

Housing Repairs Service procurement of a Dynamic Resource Scheduling System and Review of the Team Leader Job Profile

Statws y Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad a oedd yn darparu trosolwg o’r achos busnes ac arwydd o sut gallai buddsoddi mewn technoleg ddarparu swyddogaeth atgyweirio tai sy’n canolbwyntio fwy ar gwsmeriaid.

 

            Rhoddodd yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau gyflwyniad manwl, a gafodd ei rannu ar y sgrin.

            Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog a’r Uwch Reolwr Tai ac Asedau am eu cyflwyniad cynhwysfawr.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Billy Mullin, dywedodd yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau fod ymgynghoriad wedi’i gynnal gydag Undebau Llafur Unison ac Unite am y cynigion a amlinellwyd yn yr adroddiad ac roedd adborth cadarnhaol wedi’i ddarparu.

 

Gan ymateb i gwestiynau a godwyd gan Aelodau am yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad, eglurodd y Prif Swyddog fod angen i’r modiwl atgyweirio gofynnol a thrwyddedau cysylltiedig fod yn y contract presennol gyda Capita. Awgrymodd hefyd bod y Pwyllgor yn cael adroddiad diweddaru blynyddol mewn cyfarfodydd yn y dyfodol er mwyn galluogi’r Pwyllgor i gael sicrwydd bod y cyflawniadau a amlinellir yn y cynllun busnes yn cael eu bodloni.   

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Veronica Gay, dywedodd yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau na fyddai Swyddogion Tai yn defnyddio’r dechnoleg a gynigiwyd, a rhoddodd enghreifftiau o’r dechnoleg maen nhw’n ei defnyddio ar hyn o bryd wrth gynorthwyo tenantiaid y Cyngor. Roedd potensial i ymestyn y dechnoleg a gynigir i Swyddogion Tai yn y dyfodol i gynorthwyo â threfnu apwyntiadau.

                 

            Awgrymwyd bod y Pwyllgor yn cefnogi’r argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. Cafodd hyn ei gynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’i eilio gan y Cynghorydd Geoff Collett. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi prynu a gweithredu datrysiad Atgyweirio Tai symudol sy’n cynnwys modiwl atgyweiriadau, trwyddedau cysylltiedig ac adnodd Dynamic Resource Scheduler (DRS);

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi rhyddhau uchafswm o £420,000 o gyllid y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer gweithredu o flaen llaw a chostau cefnogaeth a chynnal a chadw parhaus yn unol â dyfarnu contract ar gyfer y datrysiad uchod;

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r modiwl gofynnol a thrwyddedau cysylltiedig yn y contract presennol gyda Capita;

 

(d)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi caffael datrysiad DRS trwy Gytundeb Fframwaith Datrysiad Data a Chymwysiadau (DAS) am 5 mlynedd, gydag estyniad dewisol am ddwy flynedd arall; a

 

(e)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi rhoi dirprwyaeth i’r Prif Swyddog (Tai ac Asedau) i ymestyn y contract(au) +1 +1 ar ddiwedd cyfnod y contract, sef 5 mlynedd.

 

Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine

Dyddiad cyhoeddi: 07/06/2021

Dyddiad y penderfyniad: 23/02/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/02/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau

  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  •