Manylion y penderfyniad

Council Fund Revenue Budget 2021/22

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide an update on the latest position for the Council Fund Revenue Budget 2021/22 following receipt of the Welsh Local Government Provisional Settlement in December.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad a oedd yn nodi (1) amcangyfrif agos i'r gyllideb derfynol yn barod i'r Cyngor bennu'r gyllideb flynyddol ym mis Chwefror (2) goblygiadau ariannol Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro Cymru (3) y materion sy'n weddill i'w datrys i gyrraedd cyllideb gytbwys ar gyfer argymhelliad i'r Cyngor a (4) yr amserlen pennu cyllideb.

 

            Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad yn crynhoi'r Setliad Dros Dro a'i oblygiadau i ddilyn y diweddariadau llafar a roddwyd i'r Cabinet a'r holl Aelodau ym mis Rhagfyr. Roedd yr adroddiad yn gam dros dro cyn argymell cyllideb gyfreithiol a chytbwys i'r Cyngor ym mis Chwefror, ac yn nodi'r materion a oedd yn weddill i'w datrys. Byddai unrhyw ddyfarniadau cyflog blynyddol dilynol yn parhau i fod yn risg agored yn ystod y flwyddyn gyda safbwynt y Cyngor ar gyflogau yn parhau'n glir, gan nad oedd darpariaeth benodol o fewn y Setliad Dros Dro ar gyfer dyfarniadau cyflog blynyddol ar gyfer 2021/22, na ellid cael un neu byddai'r baich yn disgyn ar gyflogwyr y sector cyhoeddus. 

 

            Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ddiweddariad manwl ar y materion sy'n weddill ar gyfer cau'r gyllideb, fel y nodir yn yr adroddiad, a disgwylir canlyniadau pendant cyn i'r Cabinet (ym mis Chwefror) allu argymell cyllideb gyfreithiol a chytbwys i'r Cyngor.  Awgrymodd y Prif Weithredwr y dylid cyflwyno'r adroddiad cyllideb a argymhellir i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar gyfer eu sylwadau cyn eu cyflwyno i'r Cabinet ym mis Chwefror, gydag unrhyw sylwadau/awgrymiadau'n cael eu gwneud ar lafar i'r Cabinet.

 

            Cefnogodd y Cynghorydd Roberts yr awgrym i gyflwyno'r adroddiad i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol cyn y Cabinet. Dywedodd nad oedd Cyhoeddiad Adolygiad o Wariant y DU Canghellor y Trysorlys yn gwneud unrhyw ddarpariaeth ar gyfer dyfarniadau cyflog y sector cyhoeddus ac er y byddai Aelodau'n bersonol yn sicr o gefnogi dyfarniad cyflog blynyddol, nid oedd cyllid i ganiatáu hyn wedi'i ddarparu ac felly ni ellid gweithredu un. Dywedodd y Prif Weithredwr fod yn rhaid i gost dyfarniadau cyflog gael ei hariannu gan y Llywodraeth gyda Chynghorau eraill yn cymryd yr un safbwynt. Ni ellid rhoi cyfrif am botensial dyfarniadau cyflog diweddarach wrth bennu'r gyllideb ac felly roedd hyn yn parhau i fod yn risg agored.        

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, dywedodd y Prif Weithredwr fod y Fforwm Cyllidebau Ysgolion wedi cefnogi safbwynt y Cyngor ar ddyfarniadau cyflog blynyddol gydag Undebau Llafur yn mynegi eu barn ar lefel genedlaethol.  

 

            Canmolodd y Cynghorydd Banks gronfa caledi Llywodraeth Cymru a oedd wedi cynorthwyo'r Cyngor i allu cynnig codiad treth y cyngor o dan 5%. Ailadroddodd y sylwadau a wnaed i ddyfarniadau cyflog blynyddol gael eu hariannu'n llawn ar lefel genedlaethol a gwnaeth yr achos dros gymorth ariannol i gynorthwyo lleoliadau y Tu Allan i'r Sir yn y tymor byr.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r cynnydd a wnaed o ran symud tuag at gyfres o argymhellion i'r Cyngor allu pennu cyllideb gyfreithiol a chytbwys ym mis Chwefror.

Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson

Dyddiad cyhoeddi: 24/03/2021

Dyddiad y penderfyniad: 19/01/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/01/2021 - Cabinet

Accompanying Documents: