Manylion y penderfyniad

The Welsh Government Bus Emergency Scheme

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To seek approval to support Welsh Government’s alternative funding mechanism for public bus services in Wales.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad a oedd yn gofyn cymeradwyaeth i ymuno â'r Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau 2 (BES2) a fyddai'n cefnogi gweithredwyr drwy gam nesaf y pandemig.

 

Roedd sefyllfa Covid-19 wedi effeithio'n ddifrifol ar deithio ar fysiau gyda nifer y teithwyr yn gostwng, tra bod gofynion cadw pellter cymdeithasol a glanhau ychwanegol wedi gosod beichiau a chostau ychwanegol ar weithredwyr. BES2 oedd y cynllun diweddaraf a ddilynodd y ddau flaenorol – BES1 ym mis Gorffennaf a BES1.5 ym mis Awst 2020.  Drwy lofnodi'r cytundeb diweddaraf hwn, gallai cynghorau sicrhau cymorth ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector bysiau a chaniatáu i Lywodraeth Cymru sefydlu perthynas ag awdurdodau lleol a oedd yn sicrhau bod y cyllid brys parhaus yn bodloni blaenoriaethau'r awdurdodau hynny ac yn cael ei ddarparu ar eu rhan.

 

Adroddodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda Thrafnidiaeth Cymru, bellach yn bwriadu ymrwymo i'r cytundeb BES2 tymor hwy hwn gyda gweithredwyr ac Awdurdodau Lleol i ddiogelu gwasanaethau. Dywedodd pe gellid rhoi sicrwydd y gallai llwybrau bysiau craidd barhau i weithredu wrth symud ymlaen, yna byddai cynghorau mewn sefyllfa i ddarparu gwasanaethau lleol i fwydo i mewn i'r gwasanaethau craidd a darparu gwasanaeth rheolaidd, fforddiadwy a dibynadwy i holl drigolion Sir y Fflint. 

 

Croesawodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad a soniodd fod trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol er mwyn sicrhau bod trigolion ar draws y Sir yn cadw mewn cysylltiad. Mynegodd bryder ynghylch amserlenni bysiau a'r angen i sicrhau eu bod yn cael eu diweddaru'n rheolaidd. Mewn ymateb, roedd y Cynghorydd Thomas o blaid yr angen i'r holl breswylwyr gael mynediad at yr wybodaeth ddiweddaraf a dywedodd y byddai cytundeb BES2 yn sicrhau bod gwasanaethau'n aros yr un fath am gyfnod hwy, gan leihau'r angen i newid amserlenni bysiau yn rheolaidd.

 

Amlinellodd y Cynghorydd Jones bwysigrwydd cadw cymunedau mewn cysylltiad i fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysu a'r effaith y mae hyn yn ei gael ar iechyd meddwl a lles.  Cytunodd y Cynghorydd Thomas, gan ddweud y dylid hefyd ystyried cludiant gan fysiau fel gwasanaeth a oedd yn cefnogi lles.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Cabinet yn cymeradwyo y dylai'r Cyngor ymrwymo i gytundeb BES 2 (Atodiad 1) fel yr awdurdod arweiniol rhanbarthol, er mwyn sicrhau cymorth ariannol (amodol) Llywodraeth Cymru i'r sector bysiau a chaniatáu i Lywodraeth Cymru sefydlu perthynas â'u hawdurdodau lleol cyfansoddol sy'n sicrhau bod y cyllid brys parhaus yn bodloni blaenoriaethau'r awdurdodau hynny ac yn cael ei ddarparu ar eu rhan; a

 

 (b)      Bod y Cabinet yn gofyn am adroddiad pellach ar gynigion i ddiwygio gwasanaethau bysiau mewn perthynas â rheoli gwasanaethau bysiau yng Nghymru yn y dyfodol.

Awdur yr adroddiad: Steve Jones

Dyddiad cyhoeddi: 24/03/2021

Dyddiad y penderfyniad: 19/01/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/01/2021 - Cabinet

Accompanying Documents: