Manylion y penderfyniad
Council Plan 2021/22
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To present the draft Council Plan Part 1 prior to consideration by the Overview and Scrutiny Committees.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts Gynllun y Cyngor ar gyfer 2021/22 a fyddai'n parhau i ystyried adferiad yn ogystal ag amcanion strategol tymor hwy. Adeiladwyd y fframwaith cychwynnol ar gyfer Rhan Un o'r Cynllun o amgylch chwe thema, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, ac roedd datganiad strategol yn cyd-fynd â phob thema.
Amlinellodd y Prif Weithredwr y dull cadarnhaol o gynllunio ac arloesi gan y Cyngor a nododd fod y Cyngor yn parhau i berfformio'n dda yn erbyn targedau a osodwyd. Roedd Cynllun y Cyngor ar gyfer 2021/22 yn ymdrin yn glir â’r holl flaenoriaethau presennol a dywedodd ei bod yn bwysig i swyddogion gael cerrig milltir cadarnhaol i'w cyflawni ar ddiwedd y pandemig. Byddai'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn cael cyfle i fod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r Cynllun, a chafwyd adborth i ddechrau oddi wrth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ynghylch y themâu trawsbynciol ac awgrym y gallai'r Pwyllgor ddymuno arwain ar y thema Tlodi. Yn dilyn y cylch ymgynghori, byddai'r Cynllun yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn ei ail gam cyn i'r Cyngor Sir ei fabwysiadu ym mis Ebrill/Mai.
Adroddodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol ar y llinynnau gwaith i sicrhau bod amcanion llesiant yn cael eu hymgorffori yn y Cynllun. Roedd gwaith hefyd yn mynd rhagddo ar ran dau o'r Cynllun a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r Cabinet ym mis Mawrth/Ebrill.
Croesawodd y Cynghorydd Thomas y blaenoriaethau fel y'u nodwyd yn y Cynllun a oedd yn glir i'r holl asiantaethau partner eu dilyn. O ran y themâu trawsbynciol, soniodd am y cydweithio cadarnhaol rhwng portffolios gwasanaethau ac awgrymodd y dylid datblygu llwybr clir i nodi pa faes blaenoriaeth fyddai'n cael ei ystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn y dyfodol. Awgrymodd y Prif Weithredwr y byddai'r Cynllun yn cael ei rannu wrth adrodd yn chwarterol i Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu, gan gyfeirio'n benodol at y blaenoriaethau sy'n rhan o gylch gorchwyl pob Pwyllgor o fewn yr adroddiad eglurhaol perthnasol.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai Cynllun y Cyngor 2021/22 yn cael ei gyhoeddi pan fyddai wedi’i gwblhau a byddai ymgynghori’n digwydd gyda rhanddeiliaid yn ystod ei ddatblygiad.
Siaradodd yr Aelodau i gefnogi Cynllun y Cyngor a'r themâu a'r blaenoriaethau ategol a diolchwyd i'r holl swyddogion am gymryd rhan yn y gwaith o baratoi Cynllun y Cyngor.
PENDERFYNWYD:
Bod Rhan Un drafft o Gynllun y Cyngor 2021-22 yn cael ei rhannu â Phwyllgorau Trosolwg a Chraffu er mwyn ymgynghori â hwy.
Awdur yr adroddiad: Karen Armstrong
Dyddiad cyhoeddi: 24/03/2021
Dyddiad y penderfyniad: 19/01/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/01/2021 - Cabinet
Accompanying Documents: