Manylion y penderfyniad
Adult Community Learning Partnership
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To seek approval to proceed with forming a
joint Wrexham and Flintshire Adult Community Learning Partnership
that will provide oversight and management of Adult Community
Learning (ACL)) for both counties.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad i roi trosolwg o sut roedd cyllid Dysgu Oedolion yn y Gymuned (ACL) yn newid yn Sir y Fflint a sut roedd y Cyngor yn ceisio sicrhau'r gwerth gorau i oedolion sy'n dysgu o'r cynnydd yn y dyraniad o'r Grant Dysgu Cymunedol (CLG) ar gyfer 2020 ymlaen. Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio cymeradwyaeth i fwrw ymlaen â ffurfio Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned ar y cyd rhwng Sir y Fflint a Wrecsam a fyddai'n goruchwylio ac yn rheoli Dysgu Oedolion yn y Gymuned ar draws ardal y ddau Gyngor.
Nododd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod Llywodraeth Cymru (LlC) bob blwyddyn yn rhoi cyllid i Gynghorau ar gyfer Dysgu Oedolion yn y Gymuned ar gyfer pobl dros 19 oed. Gyda'r dyraniadau cyllid newydd, rhagwelwyd y byddai cyllid blwyddyn lawn ar gyfer 2021/2022 oddeutu £216,152.
Roedd y Cyngor yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Gymunedol Glannau Dyfrdwy ar adeiladu Canolfan Gymunedol newydd yn Queensferry a byddai'r cyfleuster newydd yn darparu cyfleusterau cymunedol, dysgu oedolion a chwaraeon y mae mawr eu hangen. Byddai'r Ymddiriedolaeth yn cynorthwyo'r bartneriaeth i gyflawni rhai o'i hamcanion addysgol allweddol.Byddai rhan o'r cyllid yn cael ei ddefnyddio i gomisiynu'r Ymddiriedolaeth i ddatblygu a darparu cyfleoedd dysgu yn y gymuned leol a helpu i fodloni'r cynllun gweithredu y cytunwyd arno gyda Llywodraeth Cymru.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y cyllid Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn Sir y Fflint a'r dyraniad cyllid uwch drwy'r Grant Dysgu Cymunedol gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gydnabod; a
(b) Bod y gwaith datblygu gyda Phartneriaeth Dysgu Oedolion Wrecsam yn cael ei nodi a bod cymeradwyaeth yn cael ei rhoi i Sir y Fflint fwrw ymlaen â ffurfio Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned ar y cyd rhwng Sir y Fflint a Wrecsam.
Awdur yr adroddiad: Vicky Barlow
Dyddiad cyhoeddi: 24/03/2021
Dyddiad y penderfyniad: 19/01/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/01/2021 - Cabinet
Accompanying Documents: