Manylion y penderfyniad
Arosfa update
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To receive a progress report.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Uwch-reolwr – Plant a’r Gweithlu adroddiad i roi diweddariad am ailwampio Arosfa.Rhoddodd wybodaeth gefndir ac eglurodd bod adain o’r adeilad nad yw’n cael ei ddefnyddio wedi cael ei ailwampio i ddarparu dau le ychwanegol ar gyfer gwelyau.Dywedodd bod y gwaith adeiladu wedi cael ei gwblhau ac roedd y gwaith addurno mewnol yn mynd rhagddo.Mae Gweithredu dros Blant yn gweithio i ymestyn capasiti staff a sicrhau’r gymeradwyaeth ofynnol gan Arolygiaeth Gofal Cymru i ymestyn y gwasanaeth.Dywedodd bod asesiad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i adnabod y plant/teuluoedd a fyddai’n elwa fwyaf o’r ddarpariaeth a’r model cefnogi cysylltiedig.Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Adnoddau bod y gwaith sydd wedi cael ei wneud o safon uchel ac wedi’i ddylunio i fodloni anghenion cymhleth plant sy’n defnyddio’r gwasanaeth.
Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Paul Cunningham am leoliadau y tu allan i’r sir, fe eglurodd yr Uwch-reolwr y gallai cefnogaeth briodol ac amserol helpu teuluoedd i aros gyda’u gilydd a lleihau’r perygl bod y teulu’n chwalu. Roedd y Gwasanaeth yn ceisio adnabod y teuluoedd hynny lle byddai cefnogaeth o’r fath yn helpu i osgoi lleoliadau y tu allan i’r sir.
Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Mike Lowe a’i eilio gan y Cynghorydd Jean Davies.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r gwaith ailwampio sydd wedi cael ei gyflawni a chefnogi’r cynnydd i gam nesaf modelu’r gwasanaeth ac agor y ddarpariaeth pan fydd yr amodau rheoleiddio priodol wedi cael eu bodloni.
Awdur yr adroddiad: Neil Ayling
Dyddiad cyhoeddi: 05/10/2021
Dyddiad y penderfyniad: 04/03/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 04/03/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: