Manylion y penderfyniad
Marleyfield House update
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To receive a progress report
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Integredig a’r Arweinydd Oedolion adroddiad a oedd yn disgrifio’r cynnydd. Dywedodd bod y prosiect 32 gwely i ehangu T? Marleyfield ym Mwcle yn mynd rhagddo yn awr, gan gynyddu’r capasiti mewnol o 90 i 112. Dechreuodd y gwaith ym mis Ebrill 2020 ac roedd y cynnydd wedi bod yn sylweddol a’r dyddiad cwblhau oedd 21 Mai 2021, gyda’r dyddiad agor yn ystod ail wythnos Mehefin 2021. Byddai’r preswylwyr yn symud i mewn fesul cam.
Dywedodd yr Uwch Reolwr bod cyllid cyfalaf ar gael i adnewyddu’r T? Marleyfield gwreiddiol ac roedd gwaith yn cael ei wneud i du allan a thu mewn i'r adeilad er mwyn diweddaru ei ymddangosiad. Estynnodd wahoddiad i’r Pwyllgor ymweld â’r eiddo cyn iddo gael ei agor, yn unol â chanllawiau Covid-19 a dywedodd y gellir cydlynu’r ymweliad hwn drwy’r Cadeirydd a Hwylusydd y Pwyllgor yn agosach at yr amser. Esboniodd y byddai’r model cymorth yn cynnwys 16 lleoliad i ryddhau, er mwyn asesu ac adfer, “cyfleuster camu i lawr” ac 16 o leoliadau ychwanegol tymor hwy, a chynnal rhywfaint o hyblygrwydd o ran y lleoliadau er mwyn cyflawni anghenion gwasanaeth. Ychwanegodd y byddai’r hyn a ddysgwyd wrth agor T? Treffynnon yn sail i’r gwaith o asesu ac adfer lleoliadau. Derbyniwyd cefnogaeth dda gan BCUHB a sicrhawyd cyllid ar gyfer uwch ymarferydd nyrsio yn ogystal â chefnogaeth gan nyrsys ardal, a byddai meddyg ymgynghorol yn gyfrifol am oruchwylio’r gwelyau.
Croesawodd y Cynghorydd Carol Ellis y diweddariad, a dywedodd ei bod yn falch iawn o’r cynnydd a gyflawnwyd a’i bod yn edrych ymlaen at agoriad y cyfleuster ym Mwcle. Diolchodd i’r Prif Swyddog, y Rheolwr Gwasanaeth a’r holl staff perthnasol a hefyd i arweinydd blaenorol y Cyngor am symud y fenter hon yn ei blaen ar ran trigolion Bwcle a Sir y Fflint.
Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan Carole Ellis a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd David Wisinger.
PENDERFYNIAD:
(a) Mae’r Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar Brosiect Ehangu T? Marleyfield fel blaenoriaeth strategol i’r Gwasanaethau Cymdeithasol;
(b) Mae’r Pwyllgor yn nodi gweithgareddau allweddol y prosiect ar ddod, gan
gynnwys datblygu a chyflwyno’r model gweithredol gyda’r Bwrdd Iechyd.
Awdur yr adroddiad: Susie Lunt
Dyddiad cyhoeddi: 07/04/2021
Dyddiad y penderfyniad: 21/01/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/01/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: