Manylion y penderfyniad
Plas yr Ywen (Holywell Extra Care)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To receive a progress report
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Integredig a’r Arweinydd Oedolion yr adroddiad i roi gwybodaeth am gynnydd cyfleuster gofal ychwanegol newydd gwerth £8.5 miliwn yn Nhreffynnon. Er y dylai’r cyfleuster fod wedi agor ym mis Mawrth 2020, dywedodd bod y rheoliadau tân wedi newid cyn ei agor a bod hyn wedi golygu gwneud gwaith pellach er mwyn cyflawni’r rheoliadau newydd. Hefyd, roedd Covid-19 wedi creu heriau ychwanegol, ac roedd hyn wedi golygu mwy o amser i gwblhau’r datblygiad. Bydd y cyfleuster yn cynnig 55 o randai moethus gyda nifer ohonynt yn cael eu clustnodi ar gyfer pobl â Dementia. Ychwanegodd bod datrysiad digidol clyfar newydd yn cael ei ddefnyddio yng nghynllun Plas yr Ywen (Hwb Byw Appello), a oedd yn cynnwys nodweddion fel larwm argyfwng digidol, galwadau llais a fideo, hysbysiadau, mynediad drws fideo, cydnawsedd teleofal a chysylltedd cartref clyfar. Y buddiannau i’r staff oedd cofnodion galwadau a hanes 7 niwrnod, rheoli dyfeisiau larwm gwddf, rhybuddion a hysbysiadau oes batris.
Dywedodd yr Uwch Reolwr, er bod y lleoedd yn llawn fis Mawrth y llynedd, nid oedd angen lle mwyach ar rai o’r bobl y dyrannwyd lle ar eu cyfer, am resymau amrywiol. Darparodd sicrwydd bod 45 o geisiadau ac y byddai pobl yn symud i mewn cyn gynted ag y byddai’n ymarferol. Y nod oedd dilyn traean angen lefel uchel, traean lefel canolig a thraean nad oes angen cymorth arnynt eto. Roedd y staff a oedd wedi’u recriwtio wedi’u dosbarthu i feysydd gwaith arall i ddarparu gofal, e.e. T? Treffynnon. Byddai’r dyddiad agor yn cael ei adolygu ym mis Chwefror, gyda’r bwriad o agor yng nghanol mis Mawrth, yn amodol ar y mesurau cyfyngiadau symud.
Diolchodd y Cynghorydd Dave Mackie i Uwch Reolwr y Gwasanaethau
Integredig, Arweinydd Oedolion a’i thîm am eu gwaith
rhagorol. Cytunodd y Cadeirydd â
sylwadau’r Cynghorydd Mackie, a diolchodd i’r Uwch
Reolwr a’i thîm am eu cyflawniadau yn ystod y cyfnod
heriol presennol.
Croesawodd Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol y sylwadau cadarnhaol gan yr Aelodau. Cyfeiriodd at Gynllun y Cyngor a sut yr oedd y ddarpariaeth yn cael ei chynyddu er mwyn gwneud yn si?r bod Sir y Fflint yn ddarparwr arweiniol yn y Sir a dywedodd bod Cynllun y Cyngor yn dangos ymrwymiad i ehangu’r ddarpariaeth fewnol ymhellach yn y dyfodol. Croesawodd y Cadeirydd y sylwadau gan y Prif Swyddog a dywedodd ei bod yn gobeithio y byddai’r Cyngor yn parhau i adeiladu cyfleusterau gofal ychwanegol yn y dyfodol, ac awgrymodd nad oedd ardaloedd fel Penyffordd, Brychdwn ac ardaloedd eraill yn derbyn darpariaeth yn y cyfnod presennol.
Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan David Wisinger a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNIAD:
Bod y Pwyllgor yn nodi cynnydd Cynllun Gofal Ychwanegol Plas yr Ywen a’r amserlen weithredol.
Awdur yr adroddiad: Susie Lunt
Dyddiad cyhoeddi: 07/04/2021
Dyddiad y penderfyniad: 21/01/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/01/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: