Manylion y penderfyniad

Blended Learning

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide oversight of the work of schools, GwE and the Portfolio to maintain quality educational provision during the pandemic

Penderfyniadau:

Croesawodd y Cadeirydd Jane Borthwick i’r cyfarfod. Mae hi ar secondiad gyda’r portffolio Addysg i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i ymgymryd â rôl Prif Ymgynghorydd Dysgu. Fe groesawodd David Edwards a Martyn Froggett o GwE i’r cyfarfod hefyd.

 

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad dysgu cyfunol, gan ddweud bod pandemig Covid-19 wedi cyflymu’r broses o gyflwyno dull dysgu cyfunol yn ysgolion Sir y Fflint. Cafwyd trosolwg yn yr adroddiad o gynnydd dysgu cyfunol, ac yn atodiadau’r adroddiad ceir amlinelliad o arferion da ar draws ysgolion Sir y Fflint.

 

            Roedd y Prif Swyddog yn gwerthfawrogi’n fawr y gefnogaeth a ddarparwyd i staff a dysgwyr gan Wasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol (GwE) gan alluogi staff yn yr ysgolion i wella eu sgiliau digidol, eu gwybodaeth o’r ffyrdd gwahanol y gellir cyflwyno dysgu ac amrywiaeth y platfformau dysgu sydd ar gael. Yn yr adroddiad, rhoddwyd trosolwg o sut mae’r dull yma wedi datblygu ers mis Mawrth 2020 a’r hyn sydd wedi cael ei gyflawni. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y buddsoddiad sylweddol o £50 miliwn gan Lywodraeth Cymru (LlC) trwy’r Rhaglen Hwb a’r gefnogaeth a roddwyd i ddysgwyr oedd heb declynnau electronig neu fand eang trwy’r Hwb a’r Cyngor i’w galluogi i gael gafael ar yr hyn sydd ar-lein.

 

            Cafwyd cyflwyniad manwl yn trafod y meysydd canlynol gan David Edwards a Martyn Froggett:       

·         Dysgu Cyfunol

·         Pam canolbwyntio ar Ddysgu Cyfunol r?an?

·         Beth yw Dysgu Cyfunol?

·         Y pedwar egwyddor

·         Yn ymarferol, beth mae Dysgu Cyfunol yn ei olygu?

·         Y camau nesaf

·         Dysgu Cyfunol mewn ysgolion uwchradd

·         Cynllunio ar gyfer dysgu cyfunol

·         Cynnydd hyd yn hyn

 

            Cytunwyd y byddai copi o sleidiau’r cyflwyniad yn cael eu dosbarthu i aelodau’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod. 

 

            Diolchodd y Cadeirydd ac Arweinydd y Cyngor i David Edwards a Martyn Froggett am y gwaith roeddynt wedi’i wneud yn cefnogi ysgolion yn ystod y sefyllfa o argyfwng, ac fe wnaethant longyfarch staff yr ysgolion am eu gwaith caled yn wynebu’r her.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Dave Mackie i’r swyddogion am y cyflwyniad a’r adroddiad. Fe soniodd am arolwg Estyn o sut mae ysgolion ac awdurdodau lleol wedi bod yn cefnogi dysgwyr yn ystod y sefyllfa o argyfwng, a gofynnodd bod yr adborth gan Estyn yn cael ei rannu gyda'r Pwyllgor. Fe soniodd hefyd am y pryder am blant nad oedd â mynediad at fand eang neu declynnau digidol a’r effaith negyddol y byddai hyn yn ei gael ar eu haddysg. Cadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai’r llythyr adborth ffurfiol am ddysgu cyfunol gan Estyn yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn y flwyddyn newydd.

 

            Gan ymateb i’r pryderon yngl?n â thrafferthion dysgwyr i gael gafael ar wasanaethau addysg, dywedodd y Prif Ymgynghorydd Dysgu bod gwaith yn mynd rhagddo i gynnal asesiad i ganfod y lefelau o fynediad at declynnau a band eang ar gyfer dysgwyr ar draws Sir y Fflint.  Gellir cyflwyno canlyniad yr asesiad yma i’r Pwyllgor yn nes ymlaen, fel rhan o’r adroddiad diweddaru am Raglen Ddigidol Hwb Cymru. Cadarnhaodd y Prif Swyddog bod nifer fawr o declynnau wedi cael eu darparu i ysgolion i’w dosbarthu i ddysgwyr sydd heb fynediad at declynnau digidol gartref. Fe gyfeiriodd at yr adnoddau sydd ar gael trwy Raglen Ddigidol Hwb Cymru a’r cyflenwad o 200 o liniaduron y Cyngor sydd wedi’u hailgylchu a’u dosbarthu i ysgolion. 

 

            Fe ganmolodd Mr David Hytch ymdrech pob aelod staff yn ystod y sefyllfa o argyfwng a diolchodd i GwE am eu harweinyddiaeth a’u cefnogaeth wrth weithredu dysgu ar-lein. Fe soniodd am ymarferoldeb band eang a gofynnodd a oedd ysgolion ar safleoedd cyfagos yn gallu cyflwyno dosbarthiadau ar-lein ar yr un pryd a gofynnodd a fyddai buddsoddiad pellach mewn technoleg yn cynorthwyo i wella band eang mewn ysgolion.  Fe soniodd hefyd am ddisgyblion yn cael eu rhoi mewn ‘swigod’ yn yr ysgol ac am yr anawsterau bod disgyblion yn aros mewn ystafell ddosbarth a’r athrawon yn dod atyn nhw os oedd o’n bwnc lle roedd angen offer arbenigol.  Roedd hi hefyd yn anodd rhoi disgyblion mewn ‘swigod’ yn seiliedig ar eu gallu gan nad oeddynt yn aros yn eu setiau mewn lleoliad ysgol, ond byddent yn cael eu dysgu yn eu hystafell ddosbarth ar-lein a fyddai’n achosi peth dryswch.  

 

            Dywedodd y Prif Swyddog bod Rhaglen Ddigidol Hwb Cymru yn ceisio gwella’r rhwydwaith digidol i bob ysgol a byddai canlyniad yr asesiad i sefydlu lefelau o fynediad at declynnau a band eang i ddysgwyr ar draws Sir y Fflint yn cynorthwyo i adnabod y gwelliannau sydd eu hangen. Byddai’r asesiad yn darparu tystiolaeth i LlC am y galw sydd ei angen yng Nghymru er mwyn dosbarthu adnoddau priodol. Fe soniodd Martyn Froggett am yr heriau i ysgolion wrth sicrhau iechyd a diogelwch disgyblion a dywedodd bod hyn wedi arwain at newid trefniadau lleoliadau gyda disgyblion yn cael eu dysgu mewn dosbarthiadau ble roedd y gallu’n gymysg.  

 

            Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Paul Cunningham yngl?n â chyfathrebu gydag Undebau Llafur, dywedodd y Prif Swyddog y bu yna ymgysylltu cenedlaethol gyda Llywodraeth Cymru ac na fu unrhyw heriau ar lefel leol. Dywedodd David Edwards mai un o’r prif ystyriaethau wrth weithredu dysgu cyfunol oedd lles staff ysgol ac mai un o’r manteision o’i roi ar waith oedd gwell cyfathrebu, felly nid oedd yn rhagweld y byddai dysgu cyfunol yn diflannu pan fyddai’r sefyllfa o argyfwng yn dod i ben.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Gladys Healey i GwE hefyd, ynghyd â holl staff ysgolion a swyddogion y Cyngor am eu gwaith caled yn ystod y sefyllfa o argyfwng. Gofynnodd pa gefnogaeth oedd ar waith ar gyfer plant a oedd angen cefnogaeth ychwanegol os mai iaith heblaw Saesneg oedd eu hiaith gyntaf, os oedd ganddynt dyslecsia neu os nad oeddynt yn hyderus yn defnyddio teclynnau digidol.  Fe soniodd y Prif Swyddog am y gefnogaeth ychwanegol oedd yn cael ei ddarparu gan y Tîm Cynhwysiant a rhoddodd eglurhad o’r ffordd y cafodd gwersi eu cynllunio, a darparu cefnogaeth i blant oedd ei angen. Cadarnhaodd y Prif Ymgynghorydd Dysgu bod gan ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol gynllun unigol, neu byddai’n ffurfio rhan o gynllun mwy o fewn yr ysgol.Byddai’r disgyblon yma’n cael eu rhannu mewn i dimau ac yn cael gwaith gwahanol gyda chefnogaeth cynorthwywyr addysgu a staff cymorth.

 

            Gan ymateb i gwestiwn gan Mrs. Lynn Bartlett yngl?n â phryder, dywedodd y Prif Swyddog bod y Tîm Cynhwysiant yn darparu cyngor ac arweiniad i ysgolion i ddelio â phryder cynyddol yn sgil y sefyllfa o argyfwng. Fe amlinellodd hi hefyd waith y Tîm Cwnsela Ysgolion sydd yn gweithio ym mhob ysgol i ddarparu cefnogaeth lle mae achosion wedi cael eu nodi.   

 

            Gofynnodd Mrs Bartlett gwestiwn am les disgyblion gan ddweud ein bod yn addysgu plant yn gyson am hylendid ar hyn o bryd, ac roedd ganddi bryderon bod rhai o’r plant yn dod yn or-wyliadwrus am faterion hylendid a gofynnodd a oedd hyn yn cael ei ystyried wrth symud ymlaen ac a ydi ysgolion yn derbyn cyngor er mwyn ymdopi pan fydd hyn yn troi’n bryder.  Wrth ymateb dywedodd y Prif Swyddog bod y ffordd y mae’n rhaid i ni fyw â’r straen rydym i’n ymdopi ag o yn mynd i amlygu ei hun mewn rhyw ffordd, ond nid oedd hi’n ymwybodol o hyn. Roedd y Tîm Cynhwysiant wedi rhoi cyngor ac arweiniad i ysgolion ac yn teimlo y byddai Penaethiaid yn gofyn i’r Tîm os oedd ganddynt bryderon am hyn, ond cytunwyd i atgyfeirio hyn at y Tîm Cwnsela Ysgolion sydd yn gweithio ym mhob ysgol er mwyn sicrhau bod Penaethiaid yn gallu adnabod y materion hyn a byddent yn galw ar y Tîm am gefnogaeth.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ian Smith yngl?n â sut mae’r £50 miliwn o gyllid trwy Raglen Ddigidol Hwb yn cael ei rannu rhwng awdurdodau lleol a faint roedd yn ei olygu i bob disgybl, cytunodd y Prif Swyddog i roi trosolwg gan y tîm TG, sydd yn arwain ar hyn, i’r Pwyllgor.

 

Diolchodd Mrs. Rebecca Stark i’r swyddogion am yr adroddiad. Fe soniodd am y gefnogaeth sy’n cael ei ddarparu i blant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a chanmolodd y modd y mae ysgolion wedi addasu ac ymgysylltu gyda’r plant. Mynegodd bryder am ddisgyblion sy’n symud o flwyddyn 6 i flwyddyn 7, ac am yr anawsterau wrth ymgysylltu â grwpiau sydd â gallu is, gydag anghyfartaledd rhwng dysgwyr dan anfantais, a gofynnodd a oedd hi’n bosibl i fonitro’r plant yma i sicrhau nad oeddynt yn disgyn ar ei hôl hi gyda’u dysgu ac asesu’r effaith roedd y sefyllfa o argyfwng wedi’i gael ar ddisgyblion. Fe awgrymodd y gellir adrodd yn ôl i’r Pwyllgor am hyn yn y dyfodol. Dywedodd y Prif Swyddog bod sicrhau nad yw plant yn disgyn ar ei hôl hi wedi cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru a oedd wedi clustnodi swm sylweddol o gyllid a oedd wedi’i ddirprwyo i ysgolion i’w galluogi i recriwtio staff cymorth ychwanegol ac i ddarparu rhaglenni adferiad i ddysgwyr. Byddai cydweithwyr o GwE yn goruchwylio’r cynlluniau adferiad.         

 

Awgrymodd Mr Hytch bod diolch y Pwyllgor yn cael ei basio i’r holl Benaethiaid a Staff Cymorth Ysgolion am eu gwaith caled ac ymroddiad yn ystod y sefyllfa o argyfwng er mwyn i’r dysgwyr allu elwa.  Cefnogwyd hyn gan y Pwyllgor. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Bob Connah.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)   Bod y Pwyllgor yn cydnabod y berthynas weithio gref rhwng ysgolion Sir y Fflint a GwE sydd wedi sefydlu dulliau llwyddiannus i ddysgu cyfunol i elwa dysgwyr yn ystod y pandemig;

 

 (b)   Bod y Pwyllgor yn cael sicrwydd o ansawdd dysgu cyfunol yn ysgolion Sir y Fflint hyd yn hyn ac yn nodi effaith cadarnhaol datblygiad proffesiynol gweithlu’r ysgolion i fodloni’r dull newydd yma tuag at addysgu a dysgu ac yn canmol aelodau’r gweithlu i fodloni’r heriau;

 

 (c)   Bod y Pwyllgor yn croesawu’r buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru yn isadeiledd digidol ysgolion, ond yn cydnabod bod hyn yn faes o alw cynyddol cyson er mwyn sicrhau y gellir cyflwyno dysgu cyfunol yn effeithiol wrth symud ymlaen; a

 

 (ch)Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at ysgolion ar ran y Pwyllgor i ddiolch iddynt am eu gwaith a’u hymroddiad trwy gydol y sefyllfa o argyfwng er mwyn i ddysgwyr allu elwa.

 

Awdur yr adroddiad: Vicky Barlow

Dyddiad cyhoeddi: 04/06/2021

Dyddiad y penderfyniad: 17/12/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/12/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Accompanying Documents: