Manylion y penderfyniad

Adult Community Learning

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To consider the new approach to delivery of our statutory responsibilities for Adult Community Learning

Penderfyniadau:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad i roi trosolwg i’r Pwyllgor o sut roedd cyllid ar gyfer Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn newid yn Sir y Fflint. Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio cymeradwyaeth i fwrw ymlaen â ffurfio Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned ar y cyd rhwng Sir y Fflint a Wrecsam a fyddai'n goruchwylio ac yn rheoli Dysgu Oedolion yn y Gymuned ar draws ardal y ddau Gyngor.

 

            Roedd Cyngor Sir y Fflint yn gyfrifol am oruchwylio Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn Sir y Fflint ac am weinyddu’r Grant Dysgu Cymunedol ac am sicrhau bod partneriaid yn cydweithio’n effeithiol i gyflwyno darpariaeth o ansawdd uchel i ddysgwyr.  Roedd angen Cynllun Cyflawni ar gyfer y canllawiau newydd i gyflwyno darpariaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned ar gyfer 2020/21 ymlaen, oedd yn amlinellu’r holl arian Grant Dysgu Cymunedol o 1 Medi 2020. Roedd Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda Chynghorau yn ystod y cyfnod pontio, gan ystyried cyflwyno’r model cyllid newydd a’r heriau sylweddol y mae’r sefyllfa o argyfwng wedi’u cyflwyno.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog bod Cynghorau Sir y Fflint a Wrecsam wedi gweithredu partneriaethau gwahanol yn sgil y gwahaniaeth sylweddol yn y dyraniadau cyllid o Grant Dysgu Cymunedol Llywodraeth Cymru. Byddai’r newidiadau i gyllid yn rhoi cyfle i gyfuno’r ddwy bartneriaeth, a oedd ar y cyfan, yn cynnwys yr un partneriaid cyflawni. Y cynigion oedd ffurfio partneriaeth ar y cyd o 1 Ebrill 2021 a fyddai’n goruchwylio ansawdd, cwricwlwm, diogelu, hunanwerthusiad a chanlyniadau ar gyfer dysgwyr. Roedd LlC yn cefnogi’r cynnig i gyfuno’r ddwy bartneriaeth, a byddai hyn yn galluogi penderfyniadau strategol a gweithredol mwy effeithiol tra’n gwneud y mwyaf o gyllid ar gyfer pob ardal.        

 

            Gofynnodd Mr David Hytch am wybodaeth ar beth oedd y meini prawf ar gyfer Dysgu Oedolion yn y Gymuned ac a oedd hyn yn gysylltiedig â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r gofyniad i gynorthwyo pobl hyd at 25 oed. Dywedodd y Prif Swyddog nad oedd Dysgu Oedolion yn y Gymuned wedi’i gysylltu’n benodol i Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a bod cyllid grant wedi bod yn ei le ers peth amser, ond ni fu Sir y Fflint yn fuddiolwr cadarnhaol yn y gorffennol. Fe fyddai yna gyfle i edrych ar adnoddau i gefnogi nifer sylweddol o ddysgwyr ac roedd cydleoli’r Uned Cyfeirio Disgyblion yn fanteisiol iawn i nifer o’r dysgwyr trwy wella’r ddarpariaeth oedd ar gael. Fe fyddai’n gallu derbyn y dysgwyr hynny sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a darparu cyswllt i Ymddiriedolaeth Gymunedol Glannau Dyfrdwy i gefnogi oedolion gyda’u sgiliau Saesneg a Llythrennedd Digidol. Roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu cylch gwaith penodol er mwyn defnyddio’r cyllid, ond byddai’r effaith ar y gymuned yn sylweddol. Cytunwyd y byddai’r wybodaeth am beth oedd y meini prawf er mwyn cael gafael ar Ddysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei ddarparu i’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.

 

            Siaradodd y Cadeirydd am amrywiaeth o gyrsiau oedd ar gael yn y gymuned yn flaenorol a fu’n boblogaidd ymysg pobl h?n, ac ar ôl i’r cyllid newid bu ffocws ar sgiliau sylfaenol gan olygu bod y cyfleoedd wedi lleihau. Er ei fod yn croesawu’r cyllid ychwanegol a’r bartneriaeth gyda Chyngor Wrecsam, roedd yn teimlo o safbwynt cymunedol y dylai cyrsiau fod ar gael a fyddai o fudd i bobl yn y gymuned, yn enwedig wrth ddod allan o sefyllfa o argyfwng.  Fe soniodd y Prif Swyddog am y cyfleoedd sydd ar gael, ond fe eglurodd bod amodau ynghlwm â’r cynnydd mewn cyllid. Trwy weithio mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Glannau Dyfrdwy a chymysgu ffrydiau gyda’i gilydd, fe fyddai yna gyfle i gynnig amrywiaeth eang o gyrsiau y gallai pob aelod o’r gymuned gael gafael arnynt.  Fe allai’r Pwyllgor dderbyn y newyddion ddiweddaraf yn rheolaidd am ei gyflawni.      

 

Cynigiodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin yr argymhelliad a amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Janet Axworthy.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)   Bod y Pwyllgor yn nodi’r cyllid Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn Sir y Fflint a'r dyraniad cyllid uwch drwy'r Grant Dysgu Cymunedol gan Lywodraeth Cymru; a

 

 (b)   Bod y Pwyllgor yn nodi’r gwaith datblygu gyda Phartneriaeth Dysgu Oedolion Wrecsam a bod cymeradwyaeth yn cael ei rhoi i Sir y Fflint fwrw ymlaen â ffurfio Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned ar y cyd rhwng Sir y Fflint a Wrecsam.

 

 

Awdur yr adroddiad: Claire Homard

Dyddiad cyhoeddi: 04/06/2021

Dyddiad y penderfyniad: 17/12/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/12/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Accompanying Documents: