Manylion y penderfyniad
Forward Work Programme and Action Tracking
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the Forward Work Programme of the Environment & Economy Overview & Scrutiny Committee and to inform the Committee of progress against actions from previous meetings.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Hwylusydd yr adroddiad a chyfeiriodd aelodau at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar dudalen 17. Rhoddodd ddiweddariad o'r eitemau a ddygwyd i gyfarfod 12 Mai ac esboniodd y byddai'r Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd yn cynnwys gwybodaeth am ganlyniad yr Arbrawf Agregau a Thyllau yn y ffordd. Yna cyfeiriodd yr Hwylusydd at y cyfarfod ar 8 Mehefin gan gadarnhau yn ychwanegol at adroddiad Cynllun Diwedd y Flwyddyn, Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon, y byddai diweddariad ar Lifogydd a Cefnogaeth â Chymorth hefyd yn cael ei drafod yn y cyfarfod hwnnw. O ran cyfarfod 6 Gorffennaf, cadarnhaodd yr Hwylusydd y byddai'r adroddiad Hawliau Tramwy Cyhoeddus, fel y'i cyflwynwyd gan y Cynghorydd Chris Dolphin, a Dyheadau Tanwydd Hydrogen yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod hwn.
Yna cyfeiriodd yr Hwylusydd at y tabl olrhain Camau Gweithredu a chadarnhaodd fod y mwyafrif bellach wedi'u cwblhau. Ar ôl cyfarfod mis Mai, yr adborth i’r pwyllgor ar yr Arbrawf Tyllau yn y ffordd a’r Clefyd Coed Ynn, gellid wedyn cau yr eitemau.
Gofynnodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad i’r Cynghorydd Hardcastle a oedd yn hapus gyda’r ymateb a ddarparwyd gan y Prif Swyddog ar y Polisi Bagiau Tywod. Cadarnhaodd y Cynghorydd Hardcastle ei fod yn hapus gyda’r ymateb gan y Prif Swyddog.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Chris Dolphin a’r Cynghorydd Joe Johnson.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.
Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones
Dyddiad cyhoeddi: 07/02/2022
Dyddiad y penderfyniad: 09/03/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 09/03/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi
Dogfennau Atodol: