Manylion y penderfyniad
Forward Work Programme and Action Tracking
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi
Statws y Penderfyniad: Information Only
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the Forward Work Programme of the
Environment & Economy Overview & Scrutiny Committee and to
inform the Committee of progress against actions from previous
meetings.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol. Eglurodd fod eitem ar Gynllun y Cyngor a drefnwyd ar gyfer ei hystyried yn y cyfarfod heddiw wedi’i gohirio tan ddyddiad yn y dyfodol gan fod y Cynllun yn cael ei ddatblygu. Tynnodd sylw at yr eitemau a restrwyd i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor i’w gynnal ar 9 Chwefror 2021 a dywedodd yr awgrymwyd bod yr eitemau ar yr arolygon Clefyd Coed Ynn a Gwasanaeth Trên Lein Y Gororau yn cael eu gohirio ar gyfer cyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol. Roedd yr Hwylusydd hefyd yn cynghori bod diweddariadau ar y Cynllun Trafnidiaeth Integredig a Newid Hinsawdd wedi eu trefnu ar gyfer y rhaglen fel bo’n briodol.
Gan gyfeirio at y camau o’r cyfarfodydd blaenorol, dywedodd yr Hwylusydd nad oedd yna ddiweddariad i adrodd ar y camau heb eu cymryd a bod cynnydd yn parhau.
Cynigwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Paul Shotton a’u heilio gan y Cynghorydd Chris Dolphin.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; ac
(b) Awdurdodi’r Hwylusydd, ar ôl ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.
Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones
Dyddiad cyhoeddi: 26/02/2021
Dyddiad y penderfyniad: 12/01/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/01/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi
Dogfennau Atodol: