Manylion y penderfyniad

Responsible Investing and Climate Risk

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

            Cyflwynodd Mr Buckland y sesiwn drwy atgoffa’r Pwyllgor pan gytunwyd ar y strategaeth fuddsoddi ddiwygiedig gan y Pwyllgor ym mis Chwefror 2020, cytunwyd hefyd ar bolisi Buddsoddi Cyfrifol ar fformiwla newydd. Ychwanegodd fod y Polisi Buddsoddi Cyfrifol yn cynnwys nifer o feysydd sylw allweddol a’i fod yn cynnwys datganiad am Newid Hinsawdd. Mae’r Gronfa’n cydnabod pwysigrwydd rhoi sylw i’r risgiau ariannol sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd, drwy ei strategaeth fuddsoddi, ac yn cydnabod hynny fel risg ariannol.

 

Mae’r Polisi Buddsoddi Cyfrifol hefyd yn cydnabod nifer o feysydd posibl i roi sylw iddynt, ac felly cytunwyd ar 5 blaenoriaeth strategol ar gyfer y 3 blynedd nesaf (2020-2023). Un o’r blaenoriaethau rheiny oedd gwerthuso a rheoli datguddio carbon. Gwnaeth Mr Buckland sylw i gloi y byddai sesiwn heddiw yn edrych ar ganlyniadau’r ymarfer ôl troed carbon yr oedd Mercer wedi ei wneud ar asedau ecwiti’r Gronfa. Cyn cyflwyno’r canlyniadau byddai Mr Gaston yn dechrau gyda sesiwn addysgiadol, wedi ei chynllunio i gynorthwyo dealltwriaeth y Pwyllgor o’r canlyniadau.

 

Cyflwynodd Mr Gaston o Mercer sesiwn hyfforddi fanwl i helpu dealltwriaeth aelodau’r Pwyllgor o ran ôl troed carbon. Ystyriodd fater Newid Hinsawdd, a chynhesu byd-eang a nododd ar hyn o bryd, fod y byd ar ei ffordd at tua + 3?C o gynhesu cyn diwedd y ganrif, ac felly daeth i’r casgliad fod angen gwneud mwy o waith yn fyd-eang er mwyn bodloni uchelgais Cytundeb Paris. Aeth yn ei flaen i ystyried ymarferoldeb mesur ôl troed carbon, ac edrychodd ar y metrigau y dylid rhoi sylw iddynt, a thrafododd fater allyriadau Cwmpas 1, 2 a 3 a sut y cânt eu hasesu.

 

Aeth Mr Gaston yn ei flaen wedyn i ystyried canlyniadau’r dadansoddiad ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd. I ddechrau cyfeiriodd at fater cynnwys yr holl ddosbarthiadau asedau, a nododd ar y funud fod y dadansoddiad wedi ei gyfyngu i fuddsoddiadau ecwiti cyhoeddus, gyda pheth gwybodaeth ar gael ar gyfer incwm sefydlog a buddsoddi mewn eiddo.

 

Er mwyn rhoi hyn mewn cyd-destun, atgoffodd Mr Buckland y Pwyllgor am y strategaeth fuddsoddi bresennol a nododd ar gyfer y dadansoddiad ôl troed carbon, fod Mercer wedi cynnwys ecwiti rhestredig (10% ecwiti Byd-Eang, 10% ecwiti Marchnadoedd Datblygol) a mwyafrif y portffolio TAA/Syniadau Gorau. O ystyried fod y Gronfa yn amrywiol a’i bod yn agored i farchnadoedd preifat, pwysleisiodd Mr Buckland anhawster dadansoddi ôl troed carbon yn hyn o beth. Aeth Mr Gaston yn ei flaen i nodi, pan gafodd ôl troed carbon ei ddadansoddi ar 31 Mawrth 2020, llwyddwyd i asesu 18.6% o’r gronfa, ac ar 30 Medi 2020, oherwydd newidiadau mewn cymysgedd asedau, roedd y gyfran a ddadansoddwyd wedi cynyddu i 26.5 o’r Gronfa.

 

Canolbwyntiodd Mr Gaston ar ddarganfyddiadau’r crynodeb gweithredol. Soniodd fod y portffolio ecwiti a restrir ychydig yn fwy carbon effeithiol na’r meincnod byd-eang MSCI ACWI. Roedd gostyngiad hefyd yn nwysedd carbon o c9% sydd wedi ei yrru’n rhannol gan y gostyngiad yn nwysedd y carbon mewn asedau a ddelir gan Bartneriaeth Pensiynau Cymru a throsglwyddo ecwiti goddefol gyda BlackRock i’w Cronfa Ecwiti ESG.

 

Gofynnodd Mr Hibbert a oedd yr ôl troed carbon a ddangoswyd yn y cyflwyniad yn ddadansoddiad gan reolwr y gronfa ei hun, neu a oedd Mercer wedi dadansoddi’r rhain ar wahân. Cadarnhaodd Mr Gaston fod Mercer wedi gwneud y dadansoddiad ar sail daliadau stoc rheolwyr y gronfa, ac offeryn MSCI. Mae hyn yn sicrhau fod asesiad cyson ac annibynnol yn cael ei ddefnyddio ar draws pob portffolio wrth eu cymharu.

 

Nododd Mr Gaston y pwyntiau allweddol ychwanegol:

-       Rhannodd y dadansoddiad y gronfa gyfan rhwng y rheolwyr a rhestrir, a’r daliadau o fewn y portffolio TAA/Syniadau Gorau.

-       Yn gyffredinol, mae’r cronfeydd ecwiti a restrir yn y portffolio yn fwy effeithlon na’r meincnod ar 30 Medi 2020.

-       Roedd cronfa Cyfleoedd Byd-Eang Russell Partneriaeth Pensiynau Cymru wedi gweld gwelliant sylweddol yn ei ôl troed rhwng 31 Mawrth 2020 a 30 Medi 2020.

-       Roedd gan gronfa traciwr ESG BlackRock ôl troed cyfystyr i tua 60% o’r indecs meincnod. Roedd hyn yn unol â’r disgwyliadau ar gyfer y Gronfa.

-       O fewn y portffolio Syniadau Gorau, roedd dau ddaliad yn arbennig yn dylanwadu ar y canlyniadau; y gronfa ecwiti Seilwaith LGIM, ac roedd gan gronfa Adnoddau Naturiol Byd-eang Investec ôl troed carbon hynod o uchel.

 

Nodwyd fod yr ôl troed hwn yn debygol o newid oherwydd nifer o ffactorau yn y misoedd i ddod, yn enwedig trosglwyddo asedau marchnadoedd datblygol i Bartneriaeth Pensiynau Cymru Russell.

 

Nododd Mr Buckland fod swyddogion yn gweithio trwy’r argymhellion gan Mercer yn y cyflwyniad, ac y byddant yn cael eu datblygu yn amcanion strategol i’r Pwyllgor gytuno arnynt yn nes ymlaen.

 

Soniodd Mr Gaston am yr “argymhellion” a thynnodd sylw at y ffaith mai’r pedwerydd argymhelliad yw’r mwyaf uchelgeisiol pan fydd angen i’r Gronfa ystyried a ydynt am fabwysiadu amcan strategol net sero.

 

Argymhellodd Mr Latham bod rhaglen waith glir iawn yn cael ei datblygu. Cytunodd Mr Harkin a Mr Buckland fod hyn yn briodol ac y byddai’n cael ei drafod gyda swyddogion cyn dod yn ôl at y Pwyllgor i gael ei ystyried.

 

Cadarnhaodd Mr Latham mai’r argymhelliad yw i’r Pwyllgor ddim ond nodi a thrafod unrhyw sylwadau sydd ganddynt ar yr agenda.

 

Roedd trafodaeth a oedd gwrthdaro posibl rhwng y Pwyllgor o ystyried dyletswydd ymddiriedol i gynyddu elw, a’r awydd i sicrhau fod y portffolio yn cael ei fuddsoddi’n gynaliadwy.  Tynnodd Mr Everett sylw at yr angen i sicrhau y gall y Pwyllgor edrych ar hyn er mwyn bod yn hyderus fod y gofyniad ymddiriedol yn dal i gael ei fodloni.  Cytunodd Mr Gaston, a thynnodd sylw hefyd fod newid hinsawdd yn risg systemig a thrwy beidio â gweithredu, byddai hynny’n effeithio ar bob cwmni a sector wrth ddyrannu asedau a thrwy hynny’n effeithio ar y gallu i wneud yr elw mwyaf.

 

            Cytunwyd ar yr argymhellion mewn egwyddor ar yr amod bod swyddogion yn dod yn ôl at y Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol gyda chynllun gwaith clir ac yn argymell amcanion.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi a gwneud sylw ar y cyflwyniad ar ôl troed Carbon.

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 21/05/2021

Dyddiad y penderfyniad: 25/11/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/11/2020 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: