Manylion y penderfyniad
Families First - Funding Element
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To highlight evidenced achievements and to seek support for continuation of provision as detailed in the report.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ymestyn darpariaeth gwasanaethau atal a chymorth wedi’u hariannu Teuluoedd yn Gyntaf am hyd at 12 mis, yn ddibynnol ar i Lywodraeth Cymru gymeradwyo mwy o gyllid. Byddai hyn yn galluogi:
· Parhau i ddarparu gwasanaethau allweddol i rieni, pobl ifanc a theuluoedd sydd â phlant anabl yn Sir y Fflint a oedd yn elwa fwyaf o gymorth cynnar i ddatblygu gwytnwch a lles;
· Gweithredu’r Hwb Cymorth Cynnar yn effeithiol; a
· Gweithio gyda phartneriaid i werthuso, datblygu a chomisiynu gwasanaethau atal a chymorth i blant, pobl ifanc a theuluoedd Sir y Fflint.
Roedd yr Aelodau’n llwyr gefnogol o’r adroddiad a gwnaethant sylwadau ar ymyrraeth gynnar hanfodol oedd yn cael ei darparu gan y gwasanaeth hwn.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo estyniad, yn ddibynnol ar i Lywodraeth Cymru gymeradwyo mwy o gyllid am gyfnod o chwe mis, gydag opsiwn am chwe mis arall os oes angen.
Awdur yr adroddiad: Ann Roberts
Dyddiad cyhoeddi: 28/01/2021
Dyddiad y penderfyniad: 15/12/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/12/2020 - Cabinet
Yn effeithiol o: 24/12/2020
Dogfennau Atodol: