Manylion y penderfyniad
Youth Services
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To report on changes to the delivery of Youth Services and proposals for the future.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ac eglurodd fod Darpariaeth Ieuenctid Integredig Sir y Fflint yn arloesi gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc.
Roedd yr arloesi’n adlewyrchu effeithiau a’r gwersi a ddysgwyd o’r ymateb i argyfwng y pandemig a newidiadau i’r cyd-destun cenedlaethol a lleol. Roedd yn cynrychioli’r cam nesaf yn Strategaeth Adfer gorfforaethol y Cyngor i ymateb i argyfwng y pandemig.
Roedd Darpariaeth Ieuenctid Integredig (DII) Sir y Fflint yn cynnig gwasanaeth cyfun a oedd yn blaenoriaethu:
- Ymgysylltu’n ddigidol ac o bell gyda phobl ifanc;
- Darpariaeth wedi’i thargedu mewn cymunedau a gyda phartneriaid i ddatblygu gwytnwch a lles ar gyfer plant a phobl ifanc mwy diamddiffyn;
- Tegwch o ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws holl wasanaethau DII Sir y Fflint;
- Gwaith partneriaeth gydag ysgolion i gefnogi pobl ifanc sydd mewn perygl o beidio â bod mewn cyswllt ag addysg; a
- Chefnogaeth i staff ac arferion o safon.
Roedd y cynnig yn creu arbedion blynyddol posib’ o £98,600 a oedd yn arbediad o 49% ar safleoedd ac 20% ar staffio.
Eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y byddai DII Sir y Fflint yn ymgynghori â phobl ifanc, staff DII Sir y Fflint a’r Cyngor a phartneriaid statudol a chymunedol yngl?n â chynigion yn y cyfnod a fyddai’n dod i ben fis Ionawr 2021. Byddai’r ymgynghoriad hwnnw’n llywio datblygiad Cynllun Darpariaeth Ieuenctid Integredig Sir y Fflint 2021-2024, i’w lansio yn chwarter 1 2021/2022.
Roedd y pandemig wedi newid sut roedd gwasanaethau’n cael eu darparu gan fod clybiau ieuenctid, gwasanaethau allgymorth, gweithgareddau cymunedol a’r rhan fwyaf o ysgolion wedi cau. Addasodd DII Sir y Fflint yn sydyn a chyflwynodd nifer o bethau a oedd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad. Byddai datblygiad gwasanaeth DII Sir y Fflint yn cynnwys gwersi o’r ymateb i’r pandemig i wireddu gweledigaeth Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru 2019.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y byddai Cynghorau Tref a Chymuned yn cael eu cynnwys yn yr ymgynghoriad.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr bod yr adroddiad wedi’i ystyried yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant lle cafodd dderbyniad da ac fe gydnabuwyd yr angen am newid.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo ymgynghoriad Darpariaeth Ieuenctid Integredig Sir y Fflint ar ddatblygu Cynllun Darpariaeth Ieuenctid Integredig Sir y Fflint 2021-2024.
Awdur yr adroddiad: Ann Roberts
Dyddiad cyhoeddi: 25/01/2021
Dyddiad y penderfyniad: 17/11/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/11/2020 - Cabinet
Yn effeithiol o: 26/11/2020
Dogfennau Atodol: