Manylion y penderfyniad
Performance Mid-Year Monitoring Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To consider the approach to reviewing the Council Plan for 2021/22.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ac eglurodd fod Mesurau Adrodd Cyngor Sir y Fflint ar gyfer 2020/21 wedi’u dynodi gan y portffolios ac wedi’u cymeradwyo gan y Cabinet fis Medi 2020. Cyflwynai’r adroddiad hwn grynodeb o berfformiad erbyn canol y flwyddyn.
Roedd yr adroddiad monitro perfformiad ganol y flwyddyn ar gyfer Mesurau Adrodd 2020/21 yn dangos bod 69% o’r dangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar eu targedau. Yn y meysydd lle gellid mesur perfformiad yn erbyn y llynedd, roedd dirywiad o 64% yn y duedd, gyda 31% o fesurau’n gwella ar berfformiad y llynedd a 5% yn parhau i berfformio’n sefydlog.
Roedd yr adroddiad yn un ar sail eithriadau ac yn canolbwyntio ar danberfformio ar y targedau.
Cafodd yr adroddiad ei drafod yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol, ac ni fynegwyd unrhyw bryderon.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi ac adolygu perfformiad cyffredinol y dangosyddion o safbwynt y Mesurau Adrodd ar ganol y flwyddyn; a
(b) Bod y Cabinet wedi’i sicrhau gan yr eglurhad am yr achosion o danberfformio, a oedd yn bennaf o ganlyniad i amhariad y pandemig.
Awdur yr adroddiad: Karen Armstrong
Dyddiad cyhoeddi: 25/01/2021
Dyddiad y penderfyniad: 17/11/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/11/2020 - Cabinet
Yn effeithiol o: 26/11/2020
Dogfennau Atodol: