Manylion y penderfyniad
Recovery Strategy Update
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To provide oversight on the recovery planning
for the Committee’s respective portfolio(s).
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad i roi cipolwg ar y cynllunio adferiad ar gyfer portffolio’r Pwyllgor hwnnw. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod diweddariad i gofrestr risg y portffolio a chamau gweithredu lliniaru risg i’w gweld yn Atodiad 1 a 2 yr adroddiad. Rhoddodd wybod fod manylion y diweddariad ar amcanion adfer portffolio'r gwasanaeth wedi eu nodi i’r Pwyllgor ym mharagraff 1.05 yr adroddiad ac adroddodd ar yr ystyriaethau allweddol.
Eglurodd y Prif Swyddog, ble roedd gwasanaethau wedi eu hadfer yn rhannol, y byddai’r oriau gwaith a’r defnydd arferol yn unol â chyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru. Cyfeiriodd at y cyfnod clo presennol a dywedodd y byddai rhai gwasanaethau yn cael eu hatal yn ystod y ‘cyfnod atal byr’ ond byddai rhai yn parhau ar gyfer pobl a phlant hynod ddiamddiffyn.
Mynegodd y Cadeirydd ei ddiolch ar ran y Pwyllgor i’r Prif Swyddog a’i dîm am eu gwaith caled a’u hymrwymiad i barhau i ddarparu gwasanaethau yn ystod y pandemig. Llongyfarchodd y Prif Swyddog hefyd am gyflawniadau’r Gwasanaethau Cymdeithasol Plant ac Oedolion drwy gydol heriau’r flwyddyn hon.
Gwnaeth y Cynghorydd Cindy Hinds sylw ar fater iechyd meddwl a gofynnodd a oedd cynnydd wedi bod yn yr unigolion oedd yn dioddef salwch meddwl o ganlyniad i effaith Covid-19. Ymatebodd y Prif Swyddog bod cynnydd wedi bod yn nifer y rhai oedd yn dioddef problemau iechyd meddwl yn ystod y saith mis diwethaf gan fod rhai yn ei chael yn anodd wynebu effeithiau seicolegol cyfnod clo. O ran cefnogaeth i’r gweithlu, eglurodd yr Uwch Reolwr:Gwasanaethau Integredig, Arweinydd Oedolion fod y Gwasanaeth yn gweithio’n agos gyda MIND a bod rhaglen o gefnogaeth i gynorthwyo pob unigolyn oedd angen cymorth o fewn y gweithlu.
Ategodd y Cynghorydd Dave Mackie sylwadau’r Cadeirydd yngl?n â llwyddiant perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol yn lliniaru effaith Covid-19 ac awgrymodd y dylid newid yr argymhelliad yn yr adroddiad i ddarllen Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gofrestr risg diweddaraf a’r camau gweithredu er mwyn lliniaru risg o fewn portffolio’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Cytunodd y Pwyllgor i hyn.
Cynigiodd y Cynghorydd David Wisinger yr argymhelliad yn yr adroddiad ac eiliwyd gan y Cynghorydd Jean Davies.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gofrestr risg diweddaraf a’r camau gweithredu i liniaru risg ym mhortffolio’r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Awdur yr adroddiad: Emma Cater
Dyddiad cyhoeddi: 14/12/2020
Dyddiad y penderfyniad: 22/10/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 22/10/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Accompanying Documents: