Manylion y penderfyniad

School Reserve Balances Year Ending 31 March 2020

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To report the level of school balances to Audit Committee and to highlight the risks and internal processes associated with schools in deficit.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad blynyddol ar gronfeydd wrth gefn sydd gan ysgolion Sir y Fflint a’r risgiau a’r prosesau mewnol sy’n gysylltiedig ag ysgolion sydd mewn diffyg.  Roedd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant wedi rhoi ystyriaeth i’r adroddiad hefyd.

 

Roedd y sefyllfa ar ddiwedd mis Mawrth 2020 yn dangos gostyngiad sylweddol yn lefel y cronfeydd wrth gefn o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, gyda chynnydd o 44% yn y sefyllfa diffyg net ar gyfer ysgolion uwchradd a gostyngiad 26% mewn balansau ysgolion cynradd. Roedd nifer o ffactorau’n cyfrannu at risgiau sylweddol ar gadernid ariannol cyllidebau ysgolion, ac roedd ysgolion uwchradd yn bryder penodol a risgiau sy’n dod i’r amlwg yn y sector cynradd. Wrth gydnabod yr anhawster i ysgolion reoli’r pwysau parhaus hyn – yn ychwanegol i’r ansicrwydd o ran Covid-19 – roedd yr adroddiad yn crynhoi’r dull gweithredu cytbwys a gaiff ei ddilyn gan y portffolio i herio a thargedu cefnogaeth mewn ffordd gadarn fel bo’n briodol, gan ddefnyddio’r ‘Protocol ar gyfer Ysgolion ag Anawsterau Ariannol’ wedi’i ddiwygio. Roedd argymhellion o adolygiad cynghorol Archwilio Mewnol o’r Protocol wrthi’n cael eu gweithredu.

 

Soniodd y Cynghorydd Ian Roberts am effaith sylweddol mesurau llymder parhaus a dywedodd mai’r pryder allweddol oedd fod ysgolion yn cynnal safonau addysg a’r cwricwlwm ac roedd angen cyllid priodol ar gyfer hyn.  Byddai ef a’r Prif Weithredwr yn parhau i anfon sylwadau at Lywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer ymgodiad yn y Setliad, a byddai’r sefyllfa diwedd blwyddyn ar falansau cronfeydd wrth gefn ysgolion yn cael ei monitro’n agos.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod enghreifftiau o rai ysgolion uwchradd â chyllidebau mewn diffyg sefydlog neu sy’n gwaethygu, heb unrhyw ddatrysiadau lleol ar gyfer adfer ar ôl, ar wahân i ymyrraeth o ran cyllideb.  Roedd Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor wedi nodi bod angen ymgodiad penodol o ran y fformiwla ariannu er mwyn i ysgolion uwchradd fynd i’r afael â’r sefyllfa o ran diffyg. Roedd y Cyngor wedi parhau â’i achos i LlC fel eu bod ymhlith y rhai sy’n cael eu hariannu leiaf yng Nghymru o ran yr angen am Setliad uwch i ailgydbwyso cyllidebau ysgolion uwchradd sydd mewn diffyg.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan Allan Rainford, rhoddodd swyddogion eglurhad am y camau yn y Protocol gan bwysleisio bod sefyllfa dwy ysgol a amlygwyd o fewn yr adroddiad oherwydd diffyg ariannu a bod pob dewis a oedd ar gael ar gyfer adferiad wedi’u defnyddio yn yr achosion hynny.

 

Wrth ganmol lefel yr her a roddwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant i’r adroddiad, awgrymodd Sally Ellis fod diweddariadau mwy rheolaidd yn cael eu rhoi i’r Pwyllgor hwnnw i helpu i fonitro cynnydd. Holodd am effaith ymgodiad penodol ar gyfer cefnogi cyllidebau ysgolion o’r blaen a sicrhau y byddai unrhyw ymgodiad yn y dyfodol yn helpu i ddatrys y sefyllfa.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr fod yr ardoll ychwanegol ar Dreth y Cyngor yn 2018/19 er mwyn cynnal sefyllfa arian gwastad a chynorthwyo â phwysau chwyddiant mewn cyllidebau ysgolion fel mesur dros dro bryd hynny.  Nid oedd buddsoddiad o’r fath wedi’i gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf y tu hwnt i dâl a chwyddiant ac roedd angen strategaeth ariannu tymor hwy gan LlC.

 

Eglurodd Swyddogion fod ysgolion yn parhau i ddwyn rhai costau chwyddiannol heb unrhyw gapasiti i fuddsoddi mewn galw a chostau uwch am wasanaethau (fel rhai ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol) a’r amrywiaeth o opsiynau cwricwlwm. Nid oedd yr effaith gronnol barhaus hon wedi’i datrys a dim ond yn rhannol oedd y dyfarniad cyflog athrawon wedi’i ariannu gan LlC.

 

Cydnabu’r Cynghorydd Johnson fod hwn yn fater sy’n bod ers tro a’i fod y tu hwnt i reolaeth ysgolion gan mwyaf. O ran lefelau cronfeydd wrth gefn, eglurodd swyddogion rôl y Tîm Cyfrifyddiaeth Ysgolion o ran gweithio gydag ysgolion i gynllunio ar gyfer gofynion y gyllideb yn y dyfodol. Roedd proses fanwl ar waith ar gyfer cymeradwyo cynlluniau gwariant ar gyfer ysgolion. Nododd swyddogion gais y Cynghorydd Johnson, sef bod adroddiadau’n dangos data dros gyfnod tair blynedd yn y dyfodol.

 

Cydnabu’r Cynghorydd Dunbobbin fod y rhesymau dros y sefyllfa sydd mewn diffyg yn cynnwys effaith cytundebau cenedlaethol nad oeddent wedi’u hariannu’n llawn. Rhoddodd deyrnged i’r Prif Swyddog a’i thîm am eu cefnogaeth i ysgolion sy’n mynd drwy’r broses.

 

Wrth gydnabod graddfa’r pwysau, siaradodd y Cynghorydd Axworthy am effaith dewis rhieni a’r angen i ystyried cynaliadwyedd ysgolion.

 

Yn dilyn ei hawgrym cynharach, cydnabu Sally Ellis, er na fyddai diweddariadau mwy rheolaidd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn newid y sefyllfa, byddent yn helpu i sicrhau’r Pwyllgor Archwilio fod unrhyw ymgodiad posibl yn y dyfodol o ran cyllidebau ysgolion yn cael ei fonitro er mwyn sicrhau’r canlyniad cywir. Gofynnodd i swyddogion ystyried y ffordd orau o fonitro’r sefyllfa.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Dunbobbin a’r Cynghorydd Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi balansau cronfeydd wrth gefn ysgolion fel ag yr oedd ar 31 Mawrth 2020; a

 

(b)       Nodi’r newidiadau i’r Protocol ar gyfer Ysgolion ag Anawsterau Ariannol.

Awdur yr adroddiad: Lucy Morris

Dyddiad cyhoeddi: 02/03/2021

Dyddiad y penderfyniad: 18/11/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/11/2020 - Pwyllgor Archwilio

Accompanying Documents: