Manylion y penderfyniad

Budget 2021/22 - Stage 1

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

That the Committee review and comment on the Community, Housing and Assets cost pressures and overall budget strategy.  And advises on any areas of cost efficiency it would like to see explored further.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad cam cyntaf y gyllideb a oedd yn cynnwys y rhagolwg a’r pwysau o ran costau a fyddai’n creu cyfanswm y gyllideb angenrheidiol.

 

Roedd adroddiad i’r Cabinet ym mis Hydref wedi rhoi diweddariad ar y rhagolwg ariannol ar gyfer 2021/22 a’r ddwy flwyddyn ariannol ddilynol. Roedd adolygiad llawn wedi’i gynnal ar y rhagolwg i greu sylfaen gywir a chadarn o ran y costau fyddai angen eu hariannu. Roedd yr adolygiad wedi ystyried effeithiau’r argyfwng presennol gan gynnwys pa mor gyflym y gellid adfer incwm yn erbyn targedau penodol.

 

Roedd yr adroddiad hwn yn nodi’r ffyrdd eithaf prin oedd ar gael i ariannu pwysau’r costau ac roedd y strategaeth ariannu’n dibynnu’n helaeth ar ddigon o gyllid cenedlaethol ar gyfer llywodraeth leol.  Roedd manylion y costau ar gyfer Tai ac Asedau wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad manwl oedd yn trafod y meysydd canlynol:

 

  • Rhagolwg Ariannol ar gyfer 2021/22;
  • Y dyfodol – beth wnaethom ni ei gynghori yn ôl ym mis Chwefror;
  • Crynodeb o Gyfanswm Pwysau Costau;
  • Datrysiadau Tair Rhan a Chymryd Risgiau;
  • Sefyllfa Genedlaethol a Chyllid;
  • Sefyllfaoedd Cyllid Posib’;
  • Amserlen y Gyllideb;
  • Cefnogi a Herio Heddiw.

 

Darparodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) fanylion ychwanegol am gostau penodol eraill o ran Tai ac Asedau yn rhan o’r cyflwyniad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Brown, dywedodd y Prif Swyddog bod rhestr o unedau masnachol a oedd ar gael i’w rhentu i’w gweld ar wefan y Cyngor ac roedd gwaith yn cael ei wneud i’w gwneud yn fwy amlwg.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd am gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, eglurodd y Prif Weithredwr y byddai setliad dros dro’r gyllideb yn cyrraedd ar 22 Rhagfyr ac roedd cyfarfod briffio wedi’i drefnu at 23 Rhagfyr er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r holl Aelodau. 

 

Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried yr argymhellion a oedd yn yr adroddiad ac a nodwyd yn y cyflwyniad, a gafodd eu cynnig gan y Cynghorydd Kevin Rush a’u heilio gan y Cynghorydd Ron Davies.  

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)     Bod y Pwyllgor yn cefnogi strategaeth gyffredinol y gyllideb;

 

 (b)     Bod y Pwyllgor yn cadarnhau safbwynt y Cyngor ar bolisi trethu lleol;

 

 (c)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi disgwyliadau’r Cyngor o’r Llywodraethau, fel y nodwyd yn y cyflwyniad uchod;

 

 (d)     Nodi’r costau o ran Cymunedau, Tai ac Asedau, fel mae’r adroddiad yn ei nodi; ac

 

 (e)     Nad yw’r Pwyllgor yn cynnig unrhyw feysydd arbedion i gael eu hystyried ymhellach.

Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine

Dyddiad cyhoeddi: 04/01/2021

Dyddiad y penderfyniad: 04/11/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 04/11/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau

Accompanying Documents: