Manylion y penderfyniad
Safeguarding Adults and Children’s Annual Report to include the “New Safeguarding Procedures”
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide Members with statistical information in relation to Safeguarding - Adults and Children. To provide an overview of the new Safeguarding Procedures and information on the launch and use of the new procedures within the Council.
Penderfyniadau:
Rhoddodd yr Uwch-reolwr – Diogelu a Chomisiynu gyflwyniad byr am yr adroddiad cyn trosglwyddo’r awenau i Reolwr Gwasanaeth yr Uned Ddiogelu a ddywedodd wrth yr Aelodau mai Sir y Fflint oedd un o’r awdurdodau lleol cyntaf yng Ngogledd Cymru, o ran Diogelu Oedolion a Phlant, i gymryd camau cyflym er mwyn symud at gyfarfodydd rhithiol pan ddaeth y cyfnod clo i rym. Yna rhoddodd adroddiad manylach am y canlynol:-
· Effaith COVID 19 ac ymateb yr Uned Ddiogelu
· Diogelu Oedolion dan amodau COVID 19
· Gweithdrefnau Diogelu Cenedlaethol Newydd
· Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid
· Diogelu Oedolion ac Oedolion sydd mewn Perygl
· Diogelu Plant a’r Gofrestr Amddiffyn Plant
· Nifer y Cynadleddau Achosion Diogelu Plant a gynhaliwyd
· Plant sy'n Derbyn Gofal
· Cysylltiadau â’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol:
Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey a oedd nifer yr achosion o drais domestig wedi cynyddu oherwydd sefyllfa’r argyfwng yn ystod y cyfnodau ynysu.Dywedodd Rheolwr Gwasanaeth yr Uned Ddiogelu y gwelwyd cynnydd bach o safbwynt diogelu oedolion yn neufis cyntaf y cyfnod clo ond na welwyd newid sylweddol dros y chwe mis diwethaf. Gyda phlant, y categori uchaf yn y 2 flynedd ddiwethaf o gofrestru oedd cam-drin emosiynol yn gysylltiedig â thrais domestig a’r categori uchaf yn y 12 mis diwethaf oedd esgeulustod. Mae angen gwell dealltwriaeth o’r newid a welwyd yma. Byddai’n ddiddorol gweld ai cam-drin emosiynol yw’r categori uchaf erbyn hyn, yn hytrach nag esgeulustod, pan gawn ni’r data ar gyfer y 6 mis diwethaf. Mae nifer o ardaloedd wedi nodi cynnydd mewn trais domestig ond nid yw hynny’n wir am Sir y Fflint.
Cynigiwyd argymhellion yr adroddiad gan y Cynghorydd Wisinger ac eiliwyd gan y Cynghorydd Lowe.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn yr adroddiad fel gwybodaeth berthnasol mewn perthynas ag Uned Ddiogelu Sir y Fflint ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020 a darparwyd gwybodaeth ychwanegol; a
(b) Bod yr aelodau yn nodi’r amrywiaeth o weithgareddau ar draws yr Uned Ddiogelu a datblygiad a gwelliannau parhaus o ran darpariaeth gwasanaeth.
Awdur yr adroddiad: Jane Davies
Dyddiad cyhoeddi: 23/02/2021
Dyddiad y penderfyniad: 03/12/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 03/12/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: