Manylion y penderfyniad
Sheltered Housing Review Update
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To provide an overview and update on the
Sheltered Housing Review.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaeth Tai ac Asedau'r diweddariad ar yr Adolygiad o Dai Gwarchod yn dilyn adolygiad y cam cyntaf a oedd wedi cael ei ystyried gan y Cabinet ym mis Chwefror 2019.
Dywedodd bod yr ystod o ofynion a chydymffurfiad yn parhau i gynyddu gydag un rhan o dair o’r stoc dai yn cael ei chyfrif yn dai gwarchod a bod angen sicrhau oes o 30 mlynedd wrth symud ymlaen. Roeddent ar hyn o bryd yn adolygu’r holl stoc warchod yn Nhreffynnon, Bwcle a’r Fflint a’r gobaith oedd cwblhau’r adolygiad erbyn Mawrth 2021. Roedd disgwyl i’r adolygiad ddatgelu pa stoc oedd yn gweithio’n dda a dod o hyd i’r rhai lle’r oedd angen gwaith arnynt. Roedd angen i’r holl stoc dai fod yn addas at y diben ac yn fywiog ac yn ymarferol ac roedd gwaith yn cael ei wneud i ddod o hyd i gyllid grant.
Holodd y Cynghorydd Helen Brown a oedd angen adolygiad gan fod adolygiad wedi’i gynnal ond ychydig flynyddoedd ynghynt. Cydnabu’r Prif Swyddog (Tai ac Asedau) sylwadau’r Cynghorydd Brown a dywedodd y byddai’r adolygiad presennol yn nodi pa gyfleoedd oedd ar gael i gael y canlyniad gorau i denantiaid a phan fyddai’r holl wybodaeth wedi’i chasglu, byddai adroddiadau eraill yn cael eu darparu i’r Pwyllgor eu hystyried.
Nododd y Prif Swyddog hefyd yr awgrym gan y Cynghorydd Brown i Ffederasiwn y Tenantiaid a’r Aelod Cabinet fod yn rhan o’r broses ymgynghori gan ychwanegu bod y gwaith a oedd wedi’i wneud hyd yma’n dal i fod yn y camau cynnar. Soniodd am werth ymgysylltu â Ffederasiwn y Tenantiaid a chadarnhaodd y byddai hyn yn cael ei wneud.
Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’u heilio gan y Cynghorydd Ted Palmer.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r gwaith ynghlwm â phroses Cam 2 yr Adolygiad o Dai Gwarchod;
(b) I adroddiadau diweddaru rheolaidd gael eu cyflwyno i’r Pwyllgor i’w hystyried a’u trafod, pan oedd hynny’n briodol; a
(c) Cefnogi’r Cylch Gorchwyl arfaethedig ar gyfer adolygiad Cam 2, fel yr oedd yn yr adroddiad.
Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine
Dyddiad cyhoeddi: 04/01/2021
Dyddiad y penderfyniad: 04/11/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 04/11/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau
Accompanying Documents: