Manylion y penderfyniad

Medium Term Financial Strategy and Council Fund Revenue Budget 2021/22

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To provide an update on the progress of the Medium Term Financial Strategy and Council Fund Revenue Budget 2021/22.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhagolwg ariannol ar gyfer 2021/22 a’r ddwy flynedd ariannol ganlynol.

 

            Roedd adolygiad llawn o’r rhagolwg wedi cael ei gyflawni i adeiladu gwaelodlin cywir a chadarn o bwysau ariannol a fydd angen ei gyllido. Roedd yr adolygiad wedi ystyried effeithiau parhaus y sefyllfa o argyfwng gan gynnwys cyflymder y broses adfer ar gyfer targedau incwm allweddol.

 

            Prif bwrpas yr adroddiad oedd nodi yn fanwl y rhagolwg o ran costau ar gyfer 2021/22 cyn ei gyfeirio at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i’w adolygu a’i herio. Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi datrysiadau oedd ar gael i ariannu’r costau hynny. Roedd y strategaeth gyllido yn dibynnu’n fawr ar gyllid cenedlaethol digonol ar gyfer llywodraeth leol ac nid oedd newidiadau ers gosod y gyllideb ar gyfer 2020/21.

 

            Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad PowerPoint a oedd yn cynnwys y meysydd canlynol:

 

·         Rhagolygon Ariannol 2021/22;

·         Y Dyfodol – Yr hyn a hysbyswyd ym mis Chwefror;

·         Pwysau Costau 2021/22;

·         Crynodeb o Gyfanswm y Pwysau Costau

·         Datrysiadau Strategol;

·         Datrysiadau Pedair Rhan;

·         Cenedlaethol a Chyllid;

·         Senarios Ariannu Posib’;

·         Amserlen y Gyllideb; a’r

·         Camau Nesaf.

 

Croesawodd y Cynghorydd Banks y berthynas weithio rhwng y Cyngor a Llywodraeth Cymru a chefnogodd y wybodaeth a gyflwynwyd i Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu ym mis Tachwedd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Thomas os oedd disgwyliad i’r Cydbwyllgorau Corfforaethol gael eu hariannu gan gyllidebau cyfredol y Cyngor. Dywedodd y byddai cludiant strategol yn ffurfio rhan o hynny a gwnaeth sylw ar y nifer o gynlluniau cludiant a ddarparwyd gan y Cyngor. Dywedodd y Prif Weithredwr y gallai llawer o’r gwaith gofynnol gael ei gyflawni gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ac mewn gweithdai. O ran cludiant, bwriad y Cyngor oedd cadw capasiti i ddarparu gwasanaethau cludiant lleol. Bydd angen cynnal trafodaethau gyda Trafnidiaeth Cymru ar eu bwriadau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas, eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod Treth y Cyngor yn ariannu rhwng 27 a 29% o’r gwasanaethau. Eglurodd y Prif Weithredwr y gallai hyn gael ei ddangos fel graddfa symudol yn erbyn y Grant Cynnal Refeniw.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bithell os cafwyd unrhyw ymateb gan LlC ar golli incwm meysydd parcio. Eglurodd y Prif Weithredwr yn dilyn cyflwyno llythyr i LlC, eu bod wedi cadarnhau eu safle fel yr adroddwyd yn flaenorol – na fyddai’r awdurdod yn gallu hawlio am golli incwm ac eithrio’r chwarter cyntaf. Fodd bynnag, pe byddai’r Cyngor yn gallu dangos bod defnydd o feysydd parcio yn is na chyn y pandemig, gellid hawlio elfennau o chwarter 2 a 3. Amcangyfrifwyd y gellid hawlio 75% ar gyfer chwarter 2 a 50% ar gyfer chwarter 3.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r rhagolygon cyffredinol ar gyfer y cyfnod 2021/22 – 2023/24, a chyfeirio’r rhestr o bwysau costau ar gyfer 2021/22 i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ym mis Tachwedd i’w hadolygu a’i herio; a

 

(b)      Nodi’r datrysiadau sydd ar gael i gwrdd â’r pwysau costau ac ailosod y strategaeth gyllido ar gyfer 2021/22.

Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson

Dyddiad cyhoeddi: 20/01/2021

Dyddiad y penderfyniad: 20/10/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/10/2020 - Cabinet

Yn effeithiol o: 29/10/2020

Accompanying Documents: