Manylion y penderfyniad
Treasury Management Annual Report 2019/20
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To present to Members the draft Annual Treasury Management Report 2019/20.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2019/20 i’w gymeradwyo, yn dilyn ystyriaeth gan y Pwyllgor Archwilio a'r Cabinet.Tynnodd sylw at y pwyntiau allweddol yn yr adroddiad a gadarnhaodd fod y swyddogaeth Rheoli Trysorlys wedi gweithredu o fewn y cyfyngiadau a nodwyd yn y Strategaeth ar gyfer y cyfnod.I gynorthwyo â datblygu Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2021/22, byddai sesiwn hyfforddi gydag ymgynghorwyr Rheoli Trysorlys y Cyngor yn cael ei gynnal o bell ar 9 Rhagfyr 2020. Er mwyn i rai Aelodau ofyn cwestiynau, byddai swyddogion yn edrych ar y posibilrwydd o sesiwn fin nos ychwanegol.
Cafodd yr argymhelliad yn yr adrodd ei gynnig gan y Cynghorydd Chris Dolphin a ddiolchodd i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’i dîm am eu gwaith.Cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Banks gan annog pob aelod i fynychu’r sesiwn hyfforddi a fyddai’n cael ei gynnal yn fuan.
Fe nododd y Cynghorydd Peers ddyraniad Bwrdd Benthyca Gwaith Cyhoeddus ar gyfer NEW Homes, a gofynnodd am y cynlluniau ar gyfer y balans. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y benthyciadau wedi cael eu cymryd er mwyn manteisio ar y cyfraddau llog isel i fodloni gofyniad y Cyngor ar gyfer benthyca hir dymor, ac nid oeddynt wedi cael eu dyrannu i brosiectau cyfalaf penodol.
Gan fod yr argymhellion wedi’u cynnig a’u heilio, cafwyd pleidlais a chymeradwywyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2019/20.
Awdur yr adroddiad: Louise Elford
Dyddiad cyhoeddi: 21/12/2020
Dyddiad y penderfyniad: 20/10/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/10/2020 - Cyngor Sir y Fflint
Dogfennau Atodol: